Menywod sy'n prynu testosteron ar-lein yn wynebu sgil effeithiau hirdymor

Nid oes meddyginiaeth testosteron trwyddedig ar gyfer menywod ar gael yn y DU ar hyn o bryd, felly mae'r cynnyrch i ddynion yn cael ei roi mewn dos llai
- Cyhoeddwyd
Mae menywod yn esgus bod yn ddynion ar-lein er mwyn gallu prynu testosteron yn sgil trafferthion wrth geisio cael presgripsiwn ar y gwasanaeth iechyd.
Mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y cyfeiriadau testosteron ar gyfer menywod ôl-menopos, ond mae mynediad at yr hormon yn amrywio rhwng byrddau iechyd a gwahanol feddygfeydd.
Dywedodd arbenigwr ar y menopos, Michelle Olver ei bod wedi gweld menywod gyda 12 gwaith y lefel diogel o'r hormon ar ôl ei brynu ar-lein - rhywbeth all achosi sgil effeithiau parhaol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

Yn ôl Michelle Olver, mae angen monitro cleifion yn gyson er mwyn osgoi sgil effeithiau difrifol
Yn ôl Dr Michelle Olver, fe hoffai hi weld un system yn cael ei defnyddio ar draws Cymru wrth ymdrin â phresgripsiwn testosteron a HRT.
Mae'n "ofnadwy o drist," meddai, bod merched yn dweud celwydd ar-lein er mwyn cael mynediad at rywbeth y maen nhw wir ei angen.
Pwysleisiodd fod cwnsela a monitro yn bwysig iawn wrth ddelio gyda'r cyffur.
"Dy'n ni ddim eisiau gweld menywod gyda lefelau uchel iawn o destosteron... pan mae hynny yn digwydd yn rheolaidd mae'n gallu arwain at sgil effeithiau parhaol fel y llais yn mynd yn ddyfnach, colli gwallt neu'r clitoris yn chwyddo," esboniodd.

Cafodd Emma Thomas brofiad cadarnhaol ar ôl cael presgripsiwn testosteron gan ei meddyg teulu
Mae testosteron yn hormon sy'n cael ei gynhyrchu yn naturiol mewn cyrff menywod, ond mae lefelau yn gostwng wedi'r menopos.
Mae'r cyffur yn cael ei gynnig ar bresgripsiwn er mwyn helpu gyda libido, er bod astudiaeth ar waith yng Nghymru i weld os oes tystiolaeth wyddonol i gefnogi adroddiadau o gynnydd mewn egni a gwybyddiaeth.
Mae Emma Thomas yn un o sylfaenwyr Menopals Caerdydd a'r Fro - grŵp sy'n cefnogi menywod ôl-menopos - ac mae hi'n dweud bod nifer o'i haelodau wedi sôn am eu trafferthion wrth geisio cael gafael ar yr hormon ar y gwasanaeth iechyd.
"Ry'n ni'n clywed bod nifer o fenywod yn dweud bod eu meddygon yn credu nad oes ei angen, neu fod y feddygfa yn gwrthod ei roi ar bresgripsiwn," meddai.
'Darn olaf y jig-so'
Yn ôl Ms Thomas, sy'n 59 oed, fe sylwodd hi ar newid mawr yn ei hun pan newidiodd hi o fod yn berson "cymdeithasol a hapus" i fod yn eithaf "bregus, paranoid ac isel".
Dywedodd fod dechrau triniaeth HRT wedi gwneud gwahaniaeth o fewn 10 diwrnod. Unwaith roedd maint y dos a'r math o HRT yn sefydlog, cafodd bresgripsiwn testosteron gan ei meddyg teulu - gan ddweud ei bod hi wedi cymryd tua chwe mis iddi sylwi ar newid.
"Dyma oedd darn olaf y jig-so i mi. Dwi'n teimlo fel yr 'hen fi' - mae gen i flas am fywyd unwaith eto," meddai.
Mae arbenigwyr a rhai menywod sydd wedi trio'r driniaeth yn rhybuddio nad yw'n ateb perffaith ac na fyddai'n addas i bawb.

Dywedodd Emma Jones fod testosteron wedi gwneud iddi deimlo fel ei bod "ar bigau'r drain"
Dywedodd Emma Jones, 57 oed, fod ganddi fwy o egni o fewn wythnos o ddechrau cymryd testosteron, ond ei bod hi hefyd wedi teimlo "ar bigau'r drain braidd".
"Ro'n i'n teimlo fel fy mod i mewn corff rhywun 18 oed yn meddwl am rhyw o'r eiliad o'n i'n deffro!" meddai wrth chwerthin, gan ychwanegu ei bod yn teimlo'n gryf y dylai menywod allu gael gafael ar wahanol fathau o HRT.
Ar hyn o bryd does dim meddyginiaeth testosteron trwyddedig ar gyfer menywod ar gael yn y DU, felly mae'r cynnyrch i ddynion yn cael ei roi mewn dos llai.
Mae 'na gyngor i fenywod gael prawf gwaed cyn dechrau cymryd y cyffur, ac yna sicrhau eu bod yn cael profion rheolaidd wedi hynny i fonitro lefelau.
'Loteri cod post'
Mae Dr Rebeccah Tomlinson yn feddyg teulu sy'n gyfrifol am glinig menopos o fewn adran gynecoleg ysbyty. Mae'n cefnogi achosion mwy cymhleth a hefyd yn helpu hyfforddi rhagor o feddygon i ddod yn arbenigwyr menopos.
Awgrymodd fod rhai meddygon yn gyndyn o roi presgripsiwn ar gyfer y feddyginiaeth, ac yn dueddol o ddibynnu ar gydweithwyr sy'n arbenigo mewn iechyd menywod.
"Weithiau mae hynny'n cael ei weld yn annheg ar y gweithlu, felly mae gwaharddiad ar roi presgripsiwn testosteron yn gallu digwydd er mwyn gwneud y llwyth gwaith yn fwy teg," meddai.
"Mae hynny wedyn yn symud y mater at ofal eilaidd, ac o ganlyniad mae mwy o fenywod yn cael eu rhoi ar restrau aros gynecoleg.
"Mae'n loteri cod post ac yn ddibynnol iawn ar y feddygfa a'r meddyg, ac mae'n bosib taro sawl rhwystr ar hyd y ffordd."

Mae cleifion yn gallu taro sawl rhwystr cyn derbyn presgripsiwn, meddai Dr Rebeccah Tomlinson
Dr Olver sy'n gyfrifol am arwain clinig menopos Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ac mae hi'n dweud bod cynnydd mawr wedi bod yn nifer y cyfeiriadau yn ymwneud â menywod sydd eisiau cael mynediad at destosteron.
Esboniodd fod y saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn defnyddio system goleuadau traffig - a bod rhai ardaloedd yn goch, sy'n golygu mai dim ond arbenigwyr sy'n gallu rhoi presgripsiwn testosteron.
Un o'r prif resymau dros yr amrywiaeth o ran darpariaeth ar hyd y wlad yw'r ffaith nad oes cynnyrch trwyddedig i fenywod ar y GIG, meddai Dr Olver.
Mae cynnyrch testosteron i fenywod wedi bod ar gael mewn gwledydd eraill ers sawl blwyddyn, ac maen nhw ar gael o rhai clinigau preifat yn y DU.
Mae'r cynnyrch dan sylw, Androfem, wedi cael trwydded yn y DU ond mae dal angen i NICE benderfynu os fyddai hi'n gost effeithiol i'w gynnig ar y GIG.
Ar hyn o bryd mae Androfem yn costio tua £100 i'r GIG, ond mae'r un faint o'r cynnyrch i ddynion, Testogel, yn £30.
Ychwanegodd Dr Olver ei bod hi'n bwysig rheoli disgwyliadau a bod menywod yn cael cyngor llawn ynglŷn â'r hyn sydd i'w ddisgwyl pan yn defnyddio testosteron.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2022

- Cyhoeddwyd19 Awst

- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2024
