Y Gwyrddion wedi cyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd

Anthony SlaughterFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anthony Slaughter wedi dweud nad yw cefnogaeth ei blaid i lywodraeth nesaf Cymru "yn dod am ddim"

GanDaniel Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Blaid Werdd wedi cyhoeddi eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd ddydd Mawrth gyda'r gobaith o ennill seddi yno am y tro cyntaf.

Mae rheoli rhenti, torri biliau dŵr a disodli'r dreth gyngor ymhlith y blaenoriaethau maen nhw wedi eu cyhoeddi yn barod.

Mae'r blaid yn hyderus fod arolygon barn yn dangos eu bod ar drywydd tuag at ethol eu hymgeiswyr cyntaf ers dechrau datganoli.

Maen nhw'n dweud y byddai hynny'n rhoi cyfle iddyn nhw helpu i benderfynu pwy ydy'r prif weinidog os nad oes unrhyw blaid yn ennill mwyafrif o seddi ar 7 Mai.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Werdd Cymru, Anthony Slaughter, gyhoeddi'r maniffesto ym Mhort Talbot.

Mae wedi dweud nad yw cefnogaeth ei blaid i lywodraeth nesaf Cymru "yn dod am ddim".

"Rydym yno i gyflawni'r addewidion rydym yn eu gwneud i bobl Cymru," meddai.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Mae arweinydd y blaid, Zack Polanski, wedi dweud y byddai aelodau'r Blaid Werdd yn negodi gyda'r llywodraeth i reoli faint o rent mae tenantiaid yn ei dalu.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru yn erbyn rheoli rhent yn y sector preifat yn 2024, gan rybuddio y gallai leihau nifer y cartrefi oedd ar gael.

Dywedodd Polanski fod y Gwyrddion hefyd eisiau ffordd newydd o godi arian i lywodraeth leol, yn lle'r dreth gyngor, ac y byddent yn "sicrhau ein bod yn gostwng biliau dŵr trwy weithio tuag at berchnogaeth gyhoeddus o'r cwmnïau dŵr".

Wrth ymweld â Chaerdydd yr wythnos diwethaf, dywedodd fod Cymru wedi cael ei thrin yn wael gan lywodraethau yn San Steffan.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.