Yr 'hunllef' o fyw gyda 'phla o glêr' yn ardal Llanelli

- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw ger y môr yn Llanelli wedi disgrifio'r "hunllef" o fyw gyda "phla o glêr" yn eu cartrefi.
"Maen nhw 'na trwy'r dydd a thrwy'r nos", meddai Julianna Millard.
"Pryd chi'n watchan teledu, mynd i'r gwely, pryd chi'n cael shower, maen nhw bobman," ychwanegodd.
Yn ôl pobl leol mae'r siopau wedi rhedeg allan o nwyddau i gael gwared ar y pryfaid, ac o ganlyniad dy'n nhw methu agor ffenestri yn ystod y tywydd poeth.
Dywedodd Cyngor Sir Gâr ei fod yn "flaenoriaeth" iddyn nhw i edrych ar y mater, a'u bod yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru.

"Maen nhw'n mynd arno chi. Mae'n ofnadwy trial mynd i gysgu yn y nos," meddai Julianna Millard
Mae Julianna Millard, 70, wedi byw ger y môr yn Llanelli ar hyd ei hoes, ond dywedodd fod pryfaid wedi dychwelyd yno bob haf ers 2017.
"Chi ffaelu agor y ffenestri na'r drws, pan chi'n gwneud bwyd chi'n gorfod rhoi rhywbeth dros y bwyd. Mae'r clêr yn mynd ar bopeth. Ac mae e mor dwym yn y tŷ."
Cafodd y broblem ei hadrodd gyntaf yn 2018, ond mae trigolion yn honni nad yw mesurau i reoli'r broblem wedi gweithio.
Mae dros 800 o bobl yn rhan o grŵp Facebook sy'n trafod y pryfaid. Mae un neges yn cynnwys 180 o sylwadau ar y broblem yn ardaloedd Glan y Môr, Morfa a Tyisha.
O stribedi i lampiau, mae Julianna ac eraill wedi gorfod gwario llawer ar nwyddau i reoli'r sefyllfa.
"Chi'n gorfod prynu pethau ond maen nhw'n [siopau] rhedeg mas. Does dim lot o siopau ar ôl yn Llanelli felly mae rhaid edrych ar-lein."

Fe ddisgrifiodd y sefyllfa fel "hunllef" gyda "miloedd" o glêr yn ei chartref "trwy'r amser".
"Maen nhw 'na trwy'r dydd a thrwy'r nos.
"Dy'n nhw ddim yn rhoi sbel i chi, pryd chi'n watchan teledu, mynd i'r gwely, pryd chi'n cael shower, maen nhw bobman."
"Maen nhw'n mynd arno chi. Mae'n ofnadwy trial mynd i gysgu yn y nos."
Yn weddw a'n byw ar ei phen ei hun, mae Julianna'n poeni am wahodd pobl draw i'w thŷ.
"Smo'i moyn i bobl feddwl bo' rybish yn y tŷ 'da fi. Fi 'di trial popeth."
Mae Julianna wedi rhoi stribedi lan i ddal y pryfed, dywedodd ei bod yn mynd trwy 'dau bob dydd'.
"Ma' nhw'n frwnt a'n awful i ddisgwyl arno. Ac os dwi'n cael rhywun draw i'r tŷ ma'n disgwyl mor frwnt ond beth allwch chi neud?"

Mae Julianna'n mynd trwy dau o'r stribedi yma 'bob dydd' yn ei chartref
Mae gwneud pethau syml fel paratoi bwyd yn amhosib meddai.
"Chi'n 'neud rhywbeth ac os chi'n troi i 'neud rhywbeth arall fel bara menyn maen nhw 'na, trwy'r amser."
Wedi gweithio fel nyrs yn y gorffennol, meddai ei bod hi'n ymwybodol o'r risg mae'r pryfed yn gallu peri i iechyd pobl.
"Dwi'n gwybod pa mor frwnt mae'r pethau ma'n gallu bod."
"Chi'n anghofio weithiau ac wedyn mae'r bwyd ar y plât a chi'n meddwl, 'wel allai ddim bwyta hwnna nawr."
Pam bod y pryfed yno?
Ond does neb i weld yn gwybod o le daw'r pryfaid.
Mae pobl leol wedi ystyried safle ailgylchu metal gyfagos, fflatiau llaid yn ardal Casllwchwr, neu'r ffaith bod llawer o'r tir lle mae cartrefu pobl yn arfer bod yn dir diwydiannol fel rhesymau wrth wraidd y pryfaid.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru dydyn nhw ddim o'r farn bod safle AMG Resources "yn cyfrannu at y cynnydd diweddar mewn clêr."
Mae AMG hefyd yn mynnu nad nhw sy'n gyfrifol ac mae mesurau rheoli ganddyn nhw mewn lle.
Yn ôl y cynghorydd sir dros Tyisha, Terry Davies mae'r cyngor yn 'gweithio'n galed' i geisio dod o hyd i wraidd y broblem.
"Os allen ni ffeindio o le maen nhw'n dod allen ni neud rhywbeth ambwyti fe.
"Ond mae'n galed ofnadwy i ffeindio. Gallen nhw fod yn dod o'r drains, y tip neu rywbeth fel 'na, ond ni ffaelu rhoi ein bys arno fe."
Ond mae Julianna eisiau atebion gan Gyngor Sir Gâr, "Mae siŵr o fod rhywbeth gallen nhw neud."
Pryfed Llanelli: Beirniadu ymateb cyngor
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2018
Cyfarfod yn Llanelli i drafod pla pryfed
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018
Mae Garry Rees-Andrews yn rhedeg tafarn The New Cornish Arms yn y dref.
Dywedodd fod y pryfaid "fel pla yma. Ni gyd yn trio mor galed, mae'n rhwystredig."
Dywedodd ei fod yn dechrau ei shifft am 7:00 i lanhau lloriau, a chadeiriau.
"Byddai mwy o amynedd gen i os mai dim ond eleni oedd e, ond mae'n digwydd o hyd."
Mae sawl busnes wedi cwyno am "ddiffyg gweithredu" gan Gyngor Sir Gâr.
Ychwanegodd Garry, "Dwi'n talu cyfraddau busnes, sydd ddim yn rhad. Dwi'n talu treth y cyngor, sydd ddim yn rhad. Ti'n disgwyl cael gwasanaeth yn ôl."
'Amser ac adnoddau sylweddol yn cael eu neilltuo'
Mae cyngor Sir Gâr wedi dweud eu bod wedi asesu cwynion a'u bod nhw a Chyfoeth Naturiol Cymru yn "ymchwilio i'r mater fel blaenoriaeth.
"Rydym yn deall y pryderon a godwyd gan drigolion a busnesau mewn rhannau o Lanelli ynghylch cynnydd mewn gweithgaredd pryfed ac yn gwerthfawrogi'r rhwystredigaeth y mae hyn yn ei hachosi," meddai'r cynghorydd Aled Vaughan Owen.
"Byddem yn annog unrhyw un sy'n profi problemau gyda chynnydd mewn gweithgaredd pryfed yn yr ardal i'w hadrodd i ni, gan fod y wybodaeth hon yn helpu swyddogion i fonitro'r sefyllfa a thargedu gweithgaredd ymchwilio.
"Mae ymchwiliadau'n parhau ac mae'n bwysig bod unrhyw gasgliadau'n seiliedig ar dystiolaeth. Fodd bynnag, gellir sicrhau trigolion bod amser ac adnoddau sylweddol swyddogion yn cael eu neilltuo i'r mater hwn."