Cytuno ar enwau dwyieithog mewn sir, 13 mlynedd ar ôl cynnig rhestr

VartegFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd pentrefwyr Varteg yn gwrthwynebu defnyddio 'F' yn y sillafiad Cymraeg

  • Cyhoeddwyd

Mae rhestr ffurfiol o enwau dwyieithog ar leoliadau ar draws sir Torfaen wedi cael sêl bendith - 13 mlynedd ers i'r rhestr gyntaf gael ei chynnig.

Roedd disgwyl cytundeb ar restr o enwau Cymraeg a Saesneg trefi a dinasoedd yn Nhorfaen yn 2013 ond bu ffrae gan fod pentrefwyr Varteg yn gwrthwynebu defnyddio 'F' yn y sillafiad Cymraeg o'r pentref.

Eu hofnau oedd y byddai pobl yn gwneud hwyl am eu pennau os y byddai 'Farteg' yn cael ei osod ar yr arwydd wrth y ffordd.

Yn dilyn ymgynghoriad yn 2013 cytunodd Cyngor Sir Torfaen i ddefnyddio'r gair 'Varteg' yn y ddwy iaith er nad yw'r llythyren 'V' yn bodoli yn y wyddor Gymraeg.

Fis Ionawr y llynedd, cysylltodd Comisiynydd y Gymraeg gyda'r cyngor gan ofyn iddyn nhw edrych ar y mater eto a dod i gytundeb.

Mae'r cyngor a'r comisiynydd wedi dod i gytundeb bellach ar 54 o enwau a'r penderfyniad yw bod 'Varteg' yn cael ei dderbyn yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Beth yw'r enwau?

Abersychan/Abersychan

Blaenavon/Blaenafon

Coed Eva/Coed Efa

Croesyceiliog/Croesyceiliog

Cwmavon/Cwmafon

Cwmbrân/Cwmbrân

Cwmfields/Caeau'r-cwm

Cwmoody/Cwmoody

Cwm-ynys-cou/Cwm-ynys-cou

Fairwater/Fairwater

Forgeside/Geryrefail

Garnyrerw/Garnyrerw

Garndiffaith/Garndiffaith

Greenmeadow/Dôl-werdd

Griffithstown/Griffithstown

Henllys/Henllys

Hollybush/Llwyncelyn

Llanfrechfa/Llanfrechfa

Llantarnam/Llantarnam

Llanyravon/Llanyrafon

Lower Race/Ras Isaf

New Inn/Y Dafarn Newydd

Northville/Pentre Uchaf

Oakfield/Caederw

Old Cwmbrân/Hen Gwmbrân

Old Furnace/Hen Ffwrnes

Pant-teg/Pant-teg

Pantygaseg/Pantygaseg

Pen-y-garn/Pen-y-garn

Penyrheol/Penyrheol

Pont-hir/Pont-hir

Pontnewydd/Pontnewydd

Pontnewynydd/Pontnewynydd

Pont-rhyd-yr-ynn/Pont-rhyd-yr-ynn

Pont-y-moel/Pont-y-moel

Pontypool – Pont-y-pŵl

Riverside – Glanyrafon

Sebastopol – Sebastopol

Snatchwood – Coed-llwyd

Southville – Pentre Isaf

Springvale – Dolffynnon

St Cadocs – Sant Cadog

St Dials – Sant Derfel

Tal-y-waun – Tal-y-waun

Thornhill – Bryneithin

Tranch – Y Transh

Trefethin – Trefddyn

Two Locks – Dwy-loc

Tŷ-canol – Tŷ-canol

Tŷ-coch – Tŷ-coch

Upper Cwmbrân – Cwmbrân Uchaf

Upper Race – Ras Uchaf

Varteg – Varteg

Waunfelin – Waunfelin

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig