Y Prifardd a'r awdur toreithiog Eirwyn George wedi marw

Enillodd y Prifardd Eirwyn George goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prifardd Eirwyn George o Sir Benfro wedi marw yn 89 oed.
Roedd hefyd yn awdur degau o lyfrau - nifer ohonynt yn ymwneud â diwylliant Sir Benfro.
Fe enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1982 am ddilyniant o gerddi ac yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993 am farddoniaeth ar y testun 'Llynnoedd'.
Roedd yn fardd gwlad poblogaidd ac yn enillydd cyson mewn eisteddfodau lleol.
Cafodd ei fagu yn ardal Tufton yng ngogledd Sir Benfro a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes ym mhentref Maenclochog gerllaw.
Wedi cyfnod adref yn ffermio ar fferm ei rieni yng Nghastellhenri, aeth Eirwyn George i Goleg Harlech ac yna i Brifysgol Aberystwyth gan raddio mewn Cymraeg yn 1967.
Bu'n athro yn ei hen ysgol yn Arberth ac yna am gyfnod hwy yn Ysgol y Preseli yng Nghrymych.
Roedd yn genedlaetholwr pybyr ac roedd ei ffydd Gristnogol hefyd yn bwysig iddo.
Ymhlith ei gyfrolau mae 'Annibyniaeth y Bryniau', 'Hanes Eglwys Annibynnol Seilo, Tufton' a 'Cynnal y Fflam' - cyfrol sy'n bwrw golwg ar weithgareddau Annibynwyr Cymraeg Sir Benfro.
Roedd yn hoff iawn o waith y bardd Waldo, ac ymhlith cyfrolau eraill Eirwyn George mae 'Dilyn Waldo' a 'Blodeugerdd Waldo' sef casgliad o gerddi teyrnged gan 40 o feirdd.
Ysgrifennodd hefyd yn helaeth am ei fro enedigol ac am hiwmor y Preseli.
Yn 2010 cyhoeddodd ei hunangofiant sef 'Fel Hyn y Bu'.
Bu farw wedi gwaeledd byr fore Iau. Mae'n gadael ei wraig Maureen.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.