Y gantores ac awdurdod ar ganu gwerin, Phyllis Kinney wedi marw

Roedd Phyllis Kinney a'i diweddar ŵr Dr Meredydd Evans yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau mwya' dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores Phyllis Kinney wedi marw yn 103 oed.
Roedd hi a'i diweddar ŵr Dr Meredydd Evans yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau mwya' dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.
Roedd cerddoriaeth - yn fwy diweddar canu gwerin - yn ganolog i fywyd y gantores opera o'r Unol Daleithiau, Phyllis Kinney.
Fe wnaeth hi gwrdd â'r ysgolhaig a'r cerddor gwerin Dr Meredydd Evans, neu Merêd, ym Mangor.
Fe briododd y cwpl gan symud i fyw i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r 1950au.
Ar ôl dychwelyd i Gymru fe aeth hi a'i gŵr ati i sicrhau fod caneuon gwerin Cymru ar gof a chadw.
Cyfrannodd nifer o erthyglau, cyfnodolion a llyfrau cydnabyddedig ym maes cerddoriaeth.

Roedd Phyllis Kinney a Meredydd Evans yn byw yng Nghwmystwyth yn ystod eu blynyddoedd diwethaf
Wrth roi teyrnged i'w mam, dywedodd Eluned Evans: "Roedd hi'n gymeriad ac yn berson dawnus ac roedd hi a Dad wedi gwneud gymaint o bethau efo'i gilydd.
"Roedd hi'n ddynes arbennig - yn caru ei mamwlad yn America, yn caru Cymru a'r traddodiad gwerin Gymraeg ac yn caru ei theulu.
"Roedd Mam yn berson fel Dad – roedd y ddau ohonyn nhw ar wahân yn bobl ddawnus, ac roedd diddordebau ganddyn nhw, yn gweithio ar wahân ond hefyd yn gryfach pan oedden nhw yn gweithio efo'i gilydd."
Dywedodd bod ei mam wedi dod i Gymru "pan oedd hi tua 25 mlwydd oed o America ar ei phen ei hun, a chroesi'r môr".
"Roedd hi'n ddewr iawn i fynd i wlad estron a thrio neud gyrfa ac enw iddi hi ei hun ac yna yn cwrdd â'r dyn 'ma Merêd – sef Dad – ac yn dal i gadw ei phersonoliaeth hi.
"Roedd hi'n ddynes gref, ddawnus, golygus a steilysh iawn - mae'n golled i'r teulu
"Ro'n i mor browd ohoni – y ffordd yr oedd wedi byw ei bywyd a chymryd at Gymru, y Cymry a'r Gymraeg a'r traddodiad i'w chalon hi.
"Bydd chwith ar ei hôl hi."
Cysylltiad Phyllis â Chymru
Wrth siarad ar raglen Caryl ar Radio Cymru ym mis Gorffennaf 2025 dywedodd Eluned Evans bod cysylltiad ei mam â Chymru yn mynd yn ôl i 1940.
"Ym Michigan State College fe wnaeth hi gwrdd â'i thiwtor llais Gomer Llewellyn Jones o Dreforys ac fe wnaeth o ddysgu pum alaw werin i Mam yn Saesneg.
"You have a wonderful voice but I don't want you to murder my beautiful language", meddai.
"Yna, pan wnaeth Mam fynd i Juilliard Conservatory of Music yn Efrog Newydd fe ddaeth hi ar draws Cynolwyn Pugh - gweinidog y capel Cymraeg yno a thrwyddo fo fe wnaeth Mam ddysgu caneuon Cymraeg a bu'n canu caneuon ac emynau Cymraeg mewn cyngherddau yn Efrog Newydd."
Trwy'r Parchedig Cynolwyn Pugh y daeth hi i Loegr ac yna i Gymru.
"Roedd Mam yn aros gyda dynes o'r enw Janet Evans ac aeth hi â Mam i ogledd Cymru ac i'r BBC ym Mangor.
"Roedd Myfanwy Howells ar y pryd yn gwneud rhaglen ar ferched Cymru, ac wrth gwrs wrth ei bodd ei bod wedi cwrdd ag Americanes oedd yn medru canu yn Gymraeg - ac ar y diwrnod roedd Mam yn recordio pwy oedd yng nghantîn y BBC ond Triawd y Coleg.
"Yn fanno y cyfarfu Dad a Mam gan ffurfio partneriaeth oes - ac oes o ganu.
"Pan yn America dwi'n cofio bod yng nghefn y car wrth i'r ddau fynd i gynnal cyngherddau a'r ddau yn canu yn y car ar y ffordd yno ac ar y ffordd nôl."

Yn 2019 Dr Meredydd Evans - fu farw yn 2015 - a'i weddw Phyllis Kinney a dderbyniodd Wobr Ysbrydoliaeth Cerddoriaeth Gymreig.
Dywedodd y trefnwyr fod eu cyfraniad i Gymru yn "amhrisiadwy" a bod eu dealltwriaeth o gerddoriaeth werin yn rhywbeth roedd y ddau "yn falch iawn i basio ymlaen".
Wrth roi teyrnged iddi ar raglen Dros Frecwast, dywedodd ffrind agos i'r teulu, Arwel Rocet Jones, fod Phyllis Kinney yn "arwres o ddynes" a oedd wedi gwneud "cyfraniad aruthrol yn ei hawl ei hun".
Dywedodd ei bod wedi cyrraedd Cymru fel cantores opera ifanc o America, ond wedi dod o hyd i'w gwir alwad drwy ymchwilio i gerddoriaeth werin Cymru.
"Roedd hi'n gwarchod ond yn cenhadu ar yr un pryd," meddai, gan egluro ei bod yn cyflwyno traddodiad gwerin Cymru i gynulleidfaoedd Saesneg tra'n parhau i ddysgu'r Gymraeg drwy gydol ei bywyd.
Ychwanegodd: "Fe rannodd hi Merêd hefo ni, ond roedd hi gymaint mwy na gwraig Merêd.
"Roedd hi'n arwres o ddynes ac mae hi wedi gwneud cyfraniad aruthrol yn ei hawl ei hun, ond gyda'i gilydd fe wnaethon nhw gyfraniad hyd yn oed yn fwy."
'Arwres o ddynes' - teyrnged Arwel Rocet Jones i Phyllis Kinney
Dywedodd y delynores a'r gantores werin Gwenan Gibbard, sydd wedi astudio cyfraniad Phyllis Kinney a Meredydd Evans fel rhan o ysgoloriaeth ddoethurol, eu bod wedi bod yn "ddau awdurdod arbennig" ym maes canu gwerin.
"Roedd Phyllis, yn union fel Merêd wrth gwrs, mor gefnogol o rywun ifanc - wastad yn barod i roi ei hamser ac i rannu ei gwybodaeth ac i annog rhywun arall i ymchwilio," meddai ar Dros Frecwast.
Dywedodd fod gwaith ymchwil Phyllis ar alawon gwerin yn "gwbl anhygoel", gan ychwanegu ei bod yn awyddus i wneud y wybodaeth yn hygyrch ac i'w rhannu'n eang.
"Doedd dim pwynt gwneud gwaith ymchwil mawr iddo aros ar silff achos rhywbeth i'w canu yw caneuon, ac roedd hynny'n bwysig iawn ac ar flaen meddwl Phyllis a Merêd."
Ychwanegodd fod cefndir Phyllis fel Americanes wedi rhoi persbectif unigryw iddi ar gerddoriaeth draddodiadol Cymru.
"Roedd hi'n gallu edrych ar ein traddodiad ni o'r tu allan fel Americanes, ac roedd ganddi olwg ychydig bach yn wahanol ar ein traddodiad ni, ac roedd hynny'n rhywbeth ffres ac yn wahanol.
"Mi fydda i'n cofio Phyllis fel gwraig annwyl tu hwnt.
"Roedd llawer iawn o hiwmor ganddi ac roedd hi wastad yn gwneud i rywun deimlo'n arbennig."
Mae Phyllis Kinney yn gadael ei hunig blentyn, Eluned, a'i theulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019

- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2019
