'Nid oes modd troi yn ôl' ar daith annibyniaeth Cymru - Y Prif Weinidog

- Cyhoeddwyd
Mewn araith yn annerch rali annibyniaeth, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod angen i'r "cam nesaf" i Gymru "fod yn gydraddoldeb â'r Alban, o leiaf".
Yn siarad mewn digwyddiad wedi'i drefnu gan fudiad YesCymru, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod Cymru "ar daith, ac nid oes modd troi'n ôl".
Cafodd yr orymdaith ei chynnal yn Aberystwyth ddydd Sadwrn ac yn ôl trefnwyr, roedd miloedd o bobl wedi mynychu.
Ers 2019, mae miloedd wedi cymryd rhan mewn gorymdeithiau annibyniaeth ledled Cymru, gan gynnwys yng Nghaerdydd, Abertawe, Wrecsam, Merthyr Tudful, y Rhyl a'r Barri.
Ond dyma'r tro cyntaf i Brif Weinidog Cymru fynychu gorymdaith o'r fath yma.
Mae AS o Reform Cymru wedi dweud ei fod yn "siomedig gweld hyn" gydag AS o'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddai'n "well iddo [Rhun ap Iorwerth] fod y tu ôl i'w ddesg yn Cathays yn datrys y problemau y dywedodd y byddai'n eu datrys". Doedd Llafur Cymru ddim am wneud sylw.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: "Rydym yn dathlu'r gred gynyddol yn ein potensial, a'r penderfyniad cynyddol i adeiladu Cymru newydd, fwy llewyrchus"
Yn dilyn yr orymdaith, cynhaliwyd rali yng Ngerddi'r Castell gyda nifer o areithiau, gan gynnwys un gan Brif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, cadeirydd YesCymru, Rob Hughes, ac Elwyn Vaughan, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros Wynedd Maldwyn.
Mewn araith, dywedodd y Prif Weinidog: "Safwn dros Gymru, gan geisio'r buddsoddiad a'r grymoedd mwy sydd eu hangen arnom gan San Steffan nawr, er mwyn i ni allu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl fel cam nesaf ein taith gyfansoddiadol."
Wrth ymateb i sylwadau Prif Weinidog y DU, Andy Burnham, ddydd Gwener - na fyddai'n trosglwyddo pwerau i gynnal refferendwm ar annibyniaeth i Lywodraeth Cymru - dywedodd Mr ap Iorwerth: "Nid yw'r hawl i hunanbenderfyniad yn hawl y mae llywodraeth y DU yn fodlon ei chydnabod."
Roedd cerddoriaeth fyw hefyd yn rhan o'r digwyddiad ac ymhlith y bandiau fe berfformiodd Dros Dro a Connemara.
Yr wythnos hon, gwrthododd y Senedd o drwch blewyn gynnig gan Reform yn datgan y dylai Cymru aros yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
Roedd y bleidlais yn gyfartal i ddechrau, gyda 45 o aelodau o blaid y cynnig a 45 yn ei erbyn, gan olygu bod yn rhaid i'r Llywydd, Huw Irranca-Davies, fwrw'r bleidlais dyngedfennol yn erbyn y cynnig, yn unol â chonfensiwn seneddol.
Yr orymdaith yn Aberystwyth oedd y cyntaf ers i Plaid Cymru ddod i rym yng Nghymru yn dilyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai.

Fe fynychodd miloedd yr orymdaith yn Aberystwyth ddydd Sadwrn
Yn siarad â rhaglen wleidyddol Politics Wales y BBC, dywedodd Joe Martin AS, aelod o gabinet cysgodol Reform: "Mae'n siomedig gweld hyn, yn enwedig mor gynnar yn y tymor hwn, o ystyried bod Plaid Cymru wedi ymgyrchu ar y neges nad oedd annibyniaeth ar y bwrdd ar gyfer tymor y Senedd hwn."
"Nid dyma lle y dylai eu blaenoriaethau na'u sylw nhw fod," meddai.
"Pe bai mwyafrif clir a llethol o bobl Cymru eisiau annibyniaeth, yna byddai hynny'n newid pethau wrth gwrs, ond nid dyna'r sefyllfa. Mae mwyafrif clir a llethol o bobl ddim eisiau annibyniaeth."
Ychwanegodd Andrew RT Davies AS o'r Ceidwadwyr Cymreig fod "amseroedd aros wedi cynyddu, ac rydym wedi gweld canlyniadau PISA sy'n dangos ein bod wedi syrthio ymhellach ar ei hôl hi na rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig [ers i Blaid Cymru ddod i bŵer].
Felly, yn hytrach na gorymdeithio yn Aberystwyth, byddai'n well iddo [y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth AS] fod y tu ôl i'w ddesg yn Cathays yn datrys y problemau y dywedodd y byddai'n eu datrys."
Doedd Llafur Cymru ddim am wneud sylw.
Mewn ymateb i sylwadau'r gwrthbleidiau, dywedodd Plaid Cymru: "Rydym yn bwrw ymlaen â'r blaenoriaethau sy'n wynebu Cymru nawr – lleihau amseroedd aros yn yr NHS, gwella llythrennedd a rhifedd, cefnogi swyddi a busnesau, a mynd i'r afael â chostau byw – gan hefyd sefyll dros Gymru a bod yn uchelgeisiol am ddyfodol ein cenedl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd25 Awst
