Canfod corff bachgen yn ei arddegau ger Castell y Waun

Castell y WaunFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu'r Gogledd mai'r gred oedd iddo fynd i ddŵr o fewn tiroedd y castell brynhawn Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae corff bachgen 17 oed wedi'i ddarganfod ger Castell Y Waun wedi iddo fynd ar goll yn yr ardal.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd mai'r gred oedd iddo fynd i ddŵr o fewn tiroedd y castell brynhawn Mawrth, ac nad oedd wedi'i weld ers hynny.

Cafodd corff y bachgen ei ddarganfod ar ôl i dimau arbenigol chwilio mewn llyn ger y castell.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus ac mae'r crwner wedi cael gwybod, meddai'r llu.

Dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Sian Beck bod yr heddlu yn meddwl am ei deulu ac anwyliaid, a'u bod yn derbyn cefnogaeth.

Ychwanegodd nad yw'r corff wedi cael ei hadnabod yn swyddogol ond mae teulu'r bachgen wedi cael gwybod.

Pynciau cysylltiedig