Brodyr o Gaerdydd yn dathlu ar ôl cael eu dewis i dîm gwyddbwyll Cymru

Teilo a LlywelynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Teilo a Llywelyn yn cynrychioli Cymru yn y Glorney Gilbert International ddiwedd y mis

  • Cyhoeddwyd

Mae brodyr ifanc o Gaerdydd yn dathlu ar ôl cael eu dewis i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth gwyddbwyll enwog.

Bydd Teilo, 12, a Llywelyn, 10, yn cynrychioli Cymru mewn twrnament uchel ei barch yn Iwerddon - y Glorney Gilbert International - ddiwedd Gorffennaf.

Dywedodd Teilo ei bod yn "anrhydedd gallu chwarae dros Gymru".

O holi pwy yw'r gorau o'r ddau, mae Teilo yn mynnu "fi - definitely fi", ond mae'n cydnabod bod ganddo fantais oedran dros ei frawd bach.

Mae'n dweud hefyd nad oes fawr o gystadleuaeth iddo gan ei rieni 'chwaith!

"Mae Mam a Dad yn wael dros ben, a dwi'n gallu chwalu nhw mewn rhyw chwech move," meddai.

Carfan Cymru mewn twrnament ym Mrynbuga ddiwedd mis Mawrth i hyfforddi at y Glorney Gilbert InternationalFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Cymru mewn twrnament ym Mrynbuga ddiwedd mis Mawrth i hyfforddi at y Glorney Gilbert International

Bu'r teulu yn byw yn Awstralia am dair blynedd, ac yno cafodd y ddau flas ar y gamp am y tro cyntaf.

"Nes i ddechrau chwarae rhyw chwe blynedd yn ôl yn Awstralia yn Sydney pan oedd fy nhad jyst wedi chwipio mas set," meddai Teilo.

"A wedyn ar ôl rhyw dair blynedd o ymarfer, nes i ddechrau mynd i twrnamentau a wnaeth e jyst adeiladu ar ôl hynny."

Erbyn hyn mae Teilo a Llywelyn yn rhan o glwb Rhiwbeina yng Nghaerdydd.

"Tim Kett sy'n arwain ni - fe yw'r coach - a ma' fe'n wych," meddai Teilo, gan ychwanegu ei fod hefyd yn ymarfer ar-lein.

Teilo
Disgrifiad o’r llun,

Mae Teilo yn mynnu mai ef yw'r gorau o'r ddau frawd - hyd yma o leiaf!

Mae cystadleuaeth y Glorney Gilbert International yn rhedeg ers diwedd y 1940au, ac eleni mae'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Limerick.

Dywedodd Teilo fod y twrnament yn Iwerddon yn gweld timau o bedair gwlad - Cymru, Lloegr, Iwerddon a'r Alban - yn herio'i gilydd.

"Fel arfer Lloegr sy'n ennill," meddai Teilo, gan ychwanegu y byddai hyfforddwyr Cymru yn gweld unrhyw fuddugoliaeth yn ganlyniad positif dros ben.

Ychwanegodd fod tri aelod o'r tîm yn siarad Cymraeg - gan gynnwys ef a'i frawd - a bod hynny'n "wych".

"Ni gyda t-shirts Cymraeg nawr - oedd neb gyda cynt, felly mae'n anhygoel."

Llywelyn gyda tharian gwyddbwyllFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Ennillodd Llywelyn ei darian gwyddbwyll gyntaf ym mis Rhagfyr mewn twrnament ym Mryste

O gael ei holi a oedd yn mynd yn nerfus cyn cystadlaethau mawr o'r fath, dywedodd Teilo nad oedd yn tueddu i ddioddef gyda nerfau, a'i fod "yno i gael hwyl a dysgu".

"Fi'n credu mai dyna holl bwynt y gystadleuaeth yma," meddai.

Llywelyn a TeiloFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywelyn a Teilo yn chwarae yn erbyn ei gilydd, ond dyw eu rhieni fawr o her, medden nhw!

Mae Teilo yn fachgen prysur, yn hoff o nofio a phêl-droed, ac mae'n chwarae'r trwmped a'r piano hefyd.

Yw'n gweld dyfodol i'w hun ym maes gwyddbwyll felly?

"Fi'n siŵr bod hwn yn swnio'n wir yn boring, ond chi'n gallu dysgu pobl eraill gwyddbwyll a gwneud lot o arian!" meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig