Josh Tarling yn drydydd ar gymal cyntaf y Vuelta a España

Dywedodd Josh wedi'r ras ei fod yn "falch o allu cadw'n brysur"
- Cyhoeddwyd
Mae Josh Tarling wedi gorffen yn drydydd yng nghymal cyntaf y Vuelta a España, wyth diwrnod yn unig wedi marwolaeth ei frawd Finlay mewn ras.
Bu farw Finlay Tarling, 19, mewn gwrthdrawiad yn ystod ras y Volta a Portugal ddydd Gwener, 14 Awst.
Roedd Josh, sy'n 22 oed, wedi penderfynu cystadlu yn y Vuelta - ras dair wythnos ac un o dri grand tour y byd seiclo ynghyd â'r Tour de France a'r Giro d'Italia - fel rhan o dîm Netcompany Ineos.
Fe berfformiodd yn wych ar y cwrs technegol o amgylch Monaco - gan orffen pedwar eiliad y tu ôl i Tadej Pogacar, a ddaeth i'r brig.
Yn ôl y Cymro a chyn-enillydd y Tour de France, Geraint Thomas - sydd bellach yn gyfarwyddwr rasio gyda Netcompany Ineos - mae "gallu Josh i berfformio fel hynny ar ddiwedd wythnos o'r fath yn anhygoel ac yn dangos y fath o berson ac athletwr ydi o".
"Gallwn i ddim bod yn fwy balch ohono," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl

