Trefn cystadlaethau 19-25 oed yr Urdd yn parhau i godi cwestiynau

Dywedodd Ellis Massarelli iddo benderfynu peidio cystadlu'n unigol eleni oherwydd y newidiadau gwreiddiol
- Cyhoeddwyd
Mae rhai cystadleuwyr wedi mynegi rhwystredigaeth ar ôl i'r Urdd benderfynu caniatáu i bob cystadleuydd 19-25 oed fynd ymlaen i rownd derfynol Eisteddfod yr Urdd wedi'r rowndiau rhanbarthol.
Fis Medi y llynedd, cyhoeddodd yr Urdd drefn newydd oedd yn golygu bod yn rhaid i gystadleuwyr unigol yn y categori hwnnw gystadlu mewn eisteddfodau rhanbarthol os oedden nhw am gystadlu yn yr Eisteddfod genedlaethol
Ond wedi'r cystadlaethau rhanbarthol, penderfynodd yr Urdd ganiatáu i bob cystadleuydd fynd ymlaen i'r brifwyl wedi'r cyfan.
Yn ôl Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydol yr Urdd, mae hyblygrwydd yn rhan arferol o'r system, ac mae'n "arferiad yn 'Steddfod yr Urdd, lle dan ni'n gallu... i ni addasu weithiau".
"Doedden ni ddim isio rhwystro unrhyw un rhag dod i'r genedlaethol i gystadlu, ond roedden ni isio sicrhau bod nhw'n cael cyfle i berfformio ar eu rhanbarthau ac wedyn gallu dod ymlaen wedi paratoi'n llawn," meddai.
Rheolau newydd Eisteddfod yr Urdd yn 'rhwystredig iawn' i fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
Trefn gystadlu newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd saith diwrnod
- Cyhoeddwyd8 Medi 2025
Mae nifer wedi croesawu bod pawb wedi cael ymddangos yn y genedlaethol, ond hefyd wedi mynegi rhwystredigaeth bod yr addasiad i'r trefniadau wedi dod "ar ôl i lawer deithio adref, trefnu amser ychwanegol i ymarfer, a dysgu darnau'n llawer cynharach nag arfer".
Dywedodd Ellis Massarelli, 21 oed o Aelwyd JMJ, iddo benderfynu peidio cystadlu'n unigol eleni oherwydd y newidiadau gwreiddiol.
"Y peth mwya' rhwystredig i fi yw bod 'na dipyn o bobl o'r de, yn enwedig ym Mhrifysgol Bangor, wedi gorfod teithio nôl lawr i'r de i gystadlu i'w rhanbarthau," meddai.
"A wedyn mae'r penderfyniad wedi dod ar ôl iddyn nhw wneud y trek yna'n ôl, dan ddeall mai dim ond y cyntaf oedd yn cael mynd drwodd.
"Mae'n benderfyniad hwyr. Dwi'n deall ei fod o'n benderfyniad anodd, ond dydy o ddim yn mynd lawr yn dda iawn efo'r rhai sydd wedi gwneud y trip yn ôl."

Dywedodd Alis Glyn ei bod "mor falch" fod pawb wedi cael mynd ymlaen i'r genedlaethol
Ymhlith y rhai sy'n hapus i weld pawb yn ymddangos ar lwyfan y genedlaethol mae Alis Glyn - enillydd yr unawd sioe gerdd 19-25 yn y genedlaethol, ar ôl iddi ddod yn ail yn ei rhanbarth.
"Achos dwi yn y brifysgol yng Nghaerdydd, o'dd o'n chydig o drafferth gorfod teithio lawr i'r Barri i gystadlu yn y rhanbarth," meddai.
"Ges i ail yn y gystadleuaeth, ond wedyn ges i ebost yn dweud bod pawb yn mynd drwodd, felly o'dd gorfod trafeilio lawr i'r Barri bach yn rhwystredig achos doedd ddim rili angen i fi wneud hynny."
Er hynny, dywedodd ei bod "mor falch" fod pawb wedi cael mynd ymlaen.
"Dwi'n meddwl yn y categori yma mae'r safon mor uchel, a dwi'n meddwl bod pawb yn haeddu bod yn y genedlaethol," meddai.
"Mae chwaeth y beirniad yn amrywio. I feddwl bod fi wedi cael ail yn y rhanbarth ac wedyn cael cyntaf yn erbyn 20 o gystadleuwyr hynod o safonol eraill, mae hynny'n dangos bod chwaeth yn amrywio."

Mae Heledd a Mari yn credu bod "caniatáu i bawb fynd drwodd yn creu gwell awyrgylch ac yn annog mwy i gymryd rhan"
Ond mae Heledd Davies a Mari Roberts o Aelwyd Llundain ymhlith y rheiny sy'n credu na ddylid bod angen cystadlu yn y rhanbarth er mwyn mynd ymlaen i'r genedlaethol.
Dywedodd Heledd ei bod hi'n "eitha' rhwystredig" gorfod mynd drwy'r rhanbarthau.
"Nes i ffeindio fo'n rili anodd achos o'dd llai o amser i baratoi," meddai.
"Ond wrth adael i bawb gystadlu yn y genedlaethol, maen nhw wedi mynd yn erbyn eu stwff cychwynnol nhw [yr Urdd], sydd yn confusing hefyd."
Ychwanegodd Mari fod y trefniadau newydd wedi cael effaith ar y gallu i gymryd rhan mewn cystadlaethau eraill.
"O'n ni am wneud deuawd ond o'dd dim amser gyda ni wneud o," meddai.
"Arfer bod o'ch chi'n meddwl am yr Urdd ym mis Mai a gwybod pryd i gychwyn paratoi."
Mae'r ddwy yn credu bod "caniatáu i bawb fynd drwodd yn creu gwell awyrgylch ac yn annog mwy i gymryd rhan".
"Mae'n gwneud pobl eisiau ymuno a chystadlu, a dyna be dwi'n meddwl mae'r Urdd amdano," meddai Heledd.
Er bod sawl myfyriwr wedi rhybuddio byddai llai yn cystadlu o ganlyniad i'r newid, dywedodd yr Urdd fod y newidiadau wedi arwain at gynnydd 15% yn nifer y cystadleuwyr unigol 19-25 oed o gymharu â'r llynedd, a'u bod yn "ymrwymo'n barhaus i wella a chryfhau'r cyfleoedd sydd ar gael i gystadleuwyr hŷn".

Mae Gwenllian Mason yn credu bod yr addasiad wedi "achosi straen i lot o unigolion"
Ond mae Gwenllian Mason yn credu bod yr addasiad wedi rhoi pwysau ychwanegol ar fyfyrwyr.
"Dwi'n meddwl mae'n rhwystredig i'r myfyrwyr sy' eisiau cystadlu'n unigol, yn enwedig os nad ydyn nhw efo lot o arian," meddai.
"Mae'n rhaid iddyn nhw orfod teithio'r holl ffordd adre, ac mae 'na lot o fyfyrwyr yng Nghaerdydd sy'n byw yn y gogledd, felly iddyn nhw mae'n eithaf pell.
"Mae arholiadau a gwaith sydd ar y top hefyd, felly mae'n anodd i rai myfyrwyr gael amser i deithio a chystadlu ar ben popeth arall."
Dywedodd hefyd ei bod yn credu bod yr addasiad wedi "achosi straen i lot o unigolion", ac o bosib wedi lleihau nifer y cystadleuwyr.
"Dwi'n deall falle bod yr Urdd yn teimlo bod o'n fwy teg o ran gorfod mynd trwy rowndiau gwahanol, ond dwi'n meddwl os bysa nhw'n troi fo nôl, bydden nhw'n cael lot mwy yn cystadlu."

Mae Glesni Rhys "yn sicr o blaid mynd nôl i ganu yn y rhanbarth cyn dod i'r genedlaethol"
Ond nid pawb sydd o'r un farn. Mae Glesni Rhys - enillydd yr unawd 19-25 eleni - yn cefnogi'r rowndiau rhanbarthol.
"Dwi'n sicr o blaid mynd nôl i ganu yn y rhanbarth cyn dod i'r genedlaethol," meddai.
"Dwi'n meddwl bod o'n gyfle amhrisiadwy i gael beirniadaeth a sylwadau cyn dod yma i'r genedlaethol."
Ychwanegodd fod y system yn helpu perfformwyr i wella, gan "orfodi ti i weithio ar y darn a chael adborth ar gyfer y genedlaethol".

Mae Jona Milone yn dweud bod cystadlu yn y rhanbarth "wedi helpu fi lot fel perfformiwr"
Mae Jona Milone - enillydd y monolog eleni - hefyd yn dweud ei fod wedi gweld manteision i'r system newydd.
"Alla i ddeall fod y rhanbarth yn teimlo'n annheg i rai unigolion," meddai.
"Ond ar y naill law ma'n bwysig i ni gyd gofio bod hwn yn gyfle i gystadlu ar lwyfan cyn mynd 'mlaen i'r genedlaethol, a chael adborth.
"Mae 'na gyfleoedd i wella ond ma'n syniad newydd, a ma' wedi helpu fi lot fel perfformiwr."

"Ma'r Urdd yn wastad yn barod i wrando, barod i ddatblygu," meddai Llio Maddocks
Yn ôl Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydol yr Urdd, mae'r drefn wedi newid yn dilyn ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc, a chasglu barn gan drawstoriad o gystadleuwyr.
"Ma'r Urdd yn wastad yn barod i wrando, barod i ddatblygu," meddai.
Dywedodd fod y newidiadau yn deillio o'r ymgynghori, gyda llawer o gystadleuwyr 19-25 yn pwysleisio pwysigrwydd cael profiad rhanbarthol cyn y genedlaethol.
"Doedden ni ddim isio rhwystro unrhyw un rhag dod i'r genedlaethol i gystadlu, ond roedden ni isio sicrhau bod nhw'n cael y cyfle i berfformio ar eu rhanbarthau, i gael beirniadaeth lawn, ac wedyn gallu dod ymlaen wedi paratoi'n llawn," meddai.
Ychwanegodd fod yr Urdd yn parhau i adolygu niferoedd wrth i'r cystadlaethau gael eu cynnal.
"'Dan ni wastad yn asesu nifer y cystadleuwyr ni ar ôl i'r rhanbarthau ddod i ben."
Dywedodd hefyd fod hyblygrwydd yn rhan o'r system wrth i rai categorïau dyfu.
"Ma'n braf gallu cynnig y cyfle yna i'r rhai sydd wedi dod yn ail weithiau'n drydydd i gystadlu yn y genedlaethol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.