Bachgen yn yr ysbyty ar ôl cwympo ar drip ysgol

Ysgol Gynradd LibanusFfynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,

Cadarnhaodd Pennaeth Gweithredol Ysgol Gynradd Libanus fod un o'r disgyblion wedi bod mewn damwain yr wythnos diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen, 10 oed, yn yr ysbyty ar ôl iddo gwympo yn ystod trip ysgol i ganolfan weithgareddau ger Merthyr.

Roedd y disgybl o Ysgol Gynradd Libanus, yn ardal Coed-duon, Caerffili yng nghanolfan gweithgareddau awyr agored Dolygaer ddydd Mercher 13 Mai a'r gred yw ei fod yn paratoi i ddefnyddio'r Wifren Zip pan ddigwyddodd y digwyddiad.

Yn ôl gwefan y ganolfan mae angen dringo 20m i fyny coeden er mwyn cyrraedd man cychwyn y weithgaredd cyn gwibio ar hyd gwifren 100m o hyd.

Rhoddodd staff ac athrawon gymorth cyntaf i'r plentyn ac roedd aelod o'r tîm achub mynydd hefyd yn bresennol cyn i barafeddygon gyrraedd.

Mewn datganiad dywedodd y ganolfan ei bod yn deall bod y bachgen yn dal i wella yn yr ysbyty.

"Ein prif bryder yw lles y myfyriwr a'i deulu, yn ogystal â'r myfyrwyr a'r staff a welodd y digwyddiad yma.

"Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda'r ysgol i ddarparu'r sicrwydd a'r gefnogaeth angenrheidiol," meddai llefarydd.

Cadarnhaodd Pennaeth Gweithredol yr ysgol, Nicola Williams, fod un o'r disgyblion wedi bod mewn "damwain mewn canolfan weithgareddau leol yr wythnos diwethaf".

"Mae cymuned gyfan yr ysgol yn dymuno iddo wella'n llwyr ac yn gyflym," meddai, gan ychwanegu bod "diogelwch a lles disgyblion a staff yn hollbwysig a byddwn yn cefnogi'r ymchwiliad i achos y digwyddiad yn llawn."

Dywedodd canolfan awyr agored Dolygaer eu bod yn cynnig tripiau i ysgolion yn ogystal â grwpiau a theuluoedd sy'n chwilio am seibiant sy'n cynnwys antur.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.