Heddlu'n saethu dyn â 'bwa croes' yn ei feddiant

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i eiddo ar Ffordd Sant Edward am 23:55 nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n dweud bod dyn yr oedden nhw'n credu oedd â bwa croes yn ei feddiant wedi cael ei saethu gan swyddogion yn ystod digwyddiad yng Nghasnewydd.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i eiddo ar Ffordd Sant Edward am 23:55 nos Wener yn dilyn adroddiad o ymddygiad bygythiol.
Dywedodd y llu bod dyn 21 oed o Gasnewydd wedi cael ei saethu wrth iddyn nhw ymateb i'r alwad.
Cafodd y dyn driniaeth yn y fan a'r lle cyn cael ei gludo i'r ysbyty lle mae'n parhau mewn cyflwr sefydlog.
Dywedodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Nicholas McLain: "Rydym yn deall y pryder y gall y mater yma ei achosi o fewn ein cymunedau, ond nid oes risg barhaus i'r cyhoedd gan ei fod yn ddigwyddiad unigol. Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad ag ef.
"Er bod adroddiadau am droseddau sy'n ymwneud â drylliau ac arfau yn brin yng Ngwent, rydym yn cymryd pob adroddiad o'r fath o ddifrif ac yn ymateb iddynt mewn modd proffesiynol a chymesur, yn seiliedig ar lefel y risg a nodir gan y wybodaeth sydd ar gael."
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.