Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2029 i'w chynnal yng Ngheredigion

urdd
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Urdd wedi cadarnhau y bydd Eisteddfod Genedlaethol 2029 yn cael ei chynnal yng Ngheredigion.

Yn 2029 bydd Prifwyl yr Urdd yn dathlu ei chanfed pen-blwydd wedi i'r Urdd ei hun gael ei sefydlu gan Syr Ifan ab Owen Edwards yn 1922.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth aelodau cabinet Cyngor Sir Ceredigion gefnogi'r posibilrwydd o wario hyd at £500,000 i groesawu Eisteddfod yr Urdd i'r sir.

Y tro diwethaf i Geredigion gynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd oedd yn Llanerchaeron, ger Aberaeron yn 2010 a chyn hynny yn Llanbedr Pont Steffan yn 1999.

Nododd adroddiad a oedd gerbron y cynghorwyr bod disgwyl i'r cyngor sy'n cynnal yr ŵyl wneud cyfraniad ariannol o £200,000 tuag at gynnal Eisteddfod yr Urdd.

Ychwanegodd yr adroddiad y byddai angen cyfraniad o hyd at £300,000 er mwyn i'r awdurdod lleol gael presenoldeb ar y Maes yn ogystal ag unrhyw ffioedd cysylltiedig fel cau ffyrdd a chael gwared ar derfynau cyflymder dros dro.

"Felly, fe fyddai angen cyfanswm o £500,000 i gynnal Eisteddfod yr Urdd 2029," meddai'r adroddiad.

Llanerchaeron
Disgrifiad o’r llun,

Yn 2010 fe gafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ceredigion ei chynnal yn Llanerchaeron

Ddydd Mercher dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru: "Rydym yn falch iawn o glywed bod aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cytuno'n ffurfiol i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn 2029, ar beth fydd blwyddyn arbennig iawn, sef blwyddyn dathlu canmlwyddiant ein prifwyl.

"Llwyddiant yr Eisteddfod yr Urdd gyntaf yng Nghorwen yn 1929 yw'r sylfaen i'r hyn a welwn heddiw, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at ddychwelyd i Geredigion am y tro cyntaf ers 2010.

"Ein bwriad yw cynnal cyfarfod cyhoeddus ar nos Iau, 18 Mehefin er mwyn dechrau ar y gwaith trefnu ar y cyd â gwirfoddolwyr lleol."

Bryan
Disgrifiad o’r llun,

Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn y gynhadledd i'r wasg fore Mercher

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae'n achlysur balch iawn i Geredigion gael y cyfle i gynnig cartref i Eisteddfod yr Urdd yn ystod blwyddyn ei chanmlwyddiant, sy'n atgyfnerthu'r gwreiddiau a'r cysylltiadau dwfn sydd gan Ceredigion â'r Urdd.

"Mae'r ŵyl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r Gymraeg, y celfyddydau a chyfleoedd i blant a phobl ifanc, ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda'r Urdd a chymunedau lleol i wireddu Eisteddfod gofiadwy yn 2029."

Meddai Helen Medi, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion yr Urdd: "Mae pwyllgor rhanbarth Ceredigion yn llawenhau o glywed y newyddion cyffrous fod yr wŷl yn dychwelyd i'r sir yn 2029.

"Pa le gwell i ddathlu canfed pen-blwydd yr Eisteddfod nag yng nghwmni'r Cardis?!

"Rydym yn awchu i ddechrau ar y gwaith o gydweithio gyda'r holl randdeiliaid er mwyn sicrhau y cyfleodd a'r profiadau gorau i'n plant a'n pobol ifanc."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.