150 o blant i gloi'r Brifwyl wedi adfywiad Côr y Tair Sir

Ymarfer Côr y Tair SirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
  • Cyhoeddwyd

Mae Côr a Cherddorfa y Tair Sir wedi cael eu hadfywio er mwyn cloi Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las gyda chyngerdd o 150 o blant a phobl ifanc.

Fe gafodd yr ensembles cerddorol eu sefydlu yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974 pan gafodd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion eu huno i greu sir Dyfed.

A gan mai'r tair sir sy'n cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol eleni maen nhw wedi cael adfywiad er mwyn cloi'r Brifwyl.

Fe fydd y 150 o gerddorion ifanc yn perfformio gwaith newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor a'r bardd Menna Elfyn yn y Pafiliwn ar y nos Sadwrn olaf.

Côr a cherddorfa'r Tair SirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Yn Llantwd mae'r maes eleni, felly Sir Benfro fydd cartref yr Eisteddfod ond mae'r dalgylch hefyd yn cynnwys cymunedau de Ceredigion a Sir Gaerfyrddin

Dywedodd Dan Edwards-Phillips, rheolwr gwasanaethau cerdd Ceredigion a chadeirydd cerdd yr Eisteddfod Genedlaethol, ei fod yn "gyfle gwych" i ailgydio yn y cydweithio cerddorol rhwng y tair sir.

Dywedodd ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru: "Mae'n gyfle i ni, fel gwasanaethau cerdd lleol, i gael ein cerddorion ifanc ni i gyd-berfformio gyda siroedd eraill.

"Mae hynny'n digwydd gyda Chôr a Cherddorfa Ieuenctid Cymru, ond yn fwy agos at adref roedd yn gyfle arbennig i ni gael y cysylltiad yna ac i'r bobl ifanc gael cyd-berfformio gyda'i gilydd.

"Mae cael comisiwn newydd a pherfformio hynny ar lwyfan genedlaethol y Pafiliwn yn rhywbeth fydd yn aros yn y cof am byth, dwi'n siŵr, i'r bobl ifanc."

CerddorfaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r perfformiad o Angerdd a Cherdd hefyd yn ffordd o ddathlu 30 mlynedd y gwasanaeth cerdd

Mae'r gwaith newydd Angerdd a Cherdd, fydd yn cael ei berfformio ar y nos Sadwrn olaf, yn ddarn mewn tri symudiad gan Paul Mealor.

Yn ddiweddar fe gyfansoddodd Kyrie eleison, gafodd ei chanu gan Syr Bryn Terfel yn seremoni coroni'r Brenin Charles, a bu'n cydweithio gyda'r band gwerin Ar Log ar Y Ddwy Chwaer.

Paul MealorFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mealor yw un o gyfansoddwyr byw mwyaf poblogaidd Cymru

Meddai Paul Mealor am Angerdd a Cherdd: "Mae'n ddarn sy'n herio'r cerddorion ifanc, ond rwyf wrth fy modd gyda'u hymdrechion, ac rwy'n siŵr y bydd yn brofiad gwefreiddiol i'r gynulleidfa ar y noson."

Un o awduron mwyaf blaenllaw Cymru Menna Elfyn, sy'n dod o ardal 'y tair sir', sydd wedi ysgrifennu'r geiriau.

Eleni mae hi'n dathlu 50 mlynedd ers ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Mwyara.

'Sialens fawr'

Dros y misoedd diwethaf mae'r plant a phobl ifanc wedi bod yn ymarfer - sydd ddim yn hawdd mewn ardal mor eang yng ngorllewin Cymru.

"Mae'n ardal wledig ac mae cael 150 o blant mewn un lleoliad yn sialens fawr", meddai Mr Edwards-Phillips.

"Mae lot o gostau yn rhan o hyn ond 'da ni'n hynod lwcus bod y plant mor frwdfrydig am y peth ac mae'r rhieni mor gefnogol i'r prosiectau 'dy ni'n gallu rhoi 'mlaen.

"Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn am y bartneriaeth gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a'r grantiau rydyn ni wedi derbyn ar gyfer y prosiect, ac mae popeth yn dod at ei gilydd yn hwylus iawn yn y pen draw."

60 gweithgaredd yn yr Eisteddfod

Mae'n gyfnod prysur i Mr Edwards-Phillips sydd hefyd yn arwain Côr yr Eisteddfod.

"Dwi'n ffodus iawn i allu sefyll o flaen 300 o bobl sydd wrth eu bodd yn canu caneuon Ail Symudiad ar gyfer sioe Sefyll ar y Sgwâr ond hefyd y caneuon fyddwn ni'n perfformio yn y Gymanfa.

"Mae talent uchel iawn gennym ni yn y tair sir a fi'n edrych 'mlaen yn arw i allu dangos hyn i Gymru gyfan."

Mae'r cerddor yn briod gyda'r soprano Gwawr Edwards, sydd hefyd yn weithgar iawn ystod yr ŵyl.

Ychwanegodd: "Es i drwy'r amserlen gyda Gwawr dros y penwythnos, a rhwng y ddau ohonom ni mae agos at 60 o ddigwyddiadau gwahanol yn ystod yr wythnos.

"Felly fe fyddwn ni'n brysur iawn, ond yn edrych mlaen i bob eiliad o Eisteddfod y Garreg Las."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.