Twm Morys: 'Dwi'n fab i rywun chwedlonol'

Twm Morys
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Jan Morris... roedd Jan yn riant mi, a mi aned Jan fel Jimmy. A mi aeth Jimmy yn James, a mi aeth James yn Jan, achos mi oedd hi yn un o'r rhai cynta' i newid rhyw yn eitha cyhoeddus yn y 70au. Jim, James a Jan."

Dyna eiriau'r Prifardd Twm Morys wrth siarad yn annwyl am ei riant, Jan Morris, wrth i eleni nodi 100 mlynedd ers ei geni.

Mae Twm Morys yn rhoi cipolwg fanwl ar ei berthynas gyda'i riant, rhywun y mae'n disgrifio fel person 'chwedlonol' mewn rhaglen ddogfen ar S4C o'r enw Chwedl Jan Morris.

Mewn cyfweliad arbennig gyda Manon Steffan Ros ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru, mae Twm yn disgrifio'i berthynas gyda'i rieni ac yn sôn yn annwyl iawn am Jan Morris.

Jan MorrisFfynhonnell y llun, Luca Coles / Plas Glyn y Weddw

Un o'r adegau cyntaf y daeth James Morris i sylw'r cyhoedd oedd yn 1953 ar y diwrnod y cafodd Elisabeth II ei choroni'n frenhines.

Roedd James ar y pryd yn ohebydd i bapur newydd The Times, ond nid o ganlyniad i'r coroni y daeth James i amlygrwydd, ond y stori oedd yn datblygu ar gyfandir arall, wrth i griw o ddynion goncro Everest.

Roedd James yno, wedi ei wahodd gan y criw dringo fel yr unig ohebydd. Ni wnaeth James gyrraedd y copa, ond roedd yno i ddweud wrth y byd bod hanes wedi'i greu gan Edmund Hillary a Tenzing Norgay.

Dywedodd Twm: "Mi oedd hynny'n sgŵp mawr iawn i'n nhad fel gohebydd. A mi gath fynd wedyn efo math o ysgoloriaeth i America, a teithio America yn flwyddyn. Ond isio bod yn sgwennwr oedd James.

"A ffordd o gyrraedd at y nod yna oedd mynd yn newyddiadurwr yn gyntaf. A pan oedd o wedi dod yn ddigon adnabyddus, mi gafodd fynd yn awdur yn hytrach nag yn newyddiadurwr," meddai.

Bu hefyd yn gohebu ar Argyfwng Suez yn 1956 gan ddatgelu i'r byd bod Ffrainc wedi bod yn cynllwynio ag Israel i ymosod ar Yr Aifft.

Fe wnaeth ei gwaith gyfrannu at ymddiswyddiad Prif Weinidog Prydain, Anthony Eden, rhai misoedd yn ddiweddarach gan arwain at dynnu milwyr Prydain allan o'r Aifft.

James MorrisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

James Morris yn Nepal ym Mawrth 1953 yn adrodd ar yr ymdrech i gyrraedd copa Everest

Dyna ddechrau wedyn ar yrfa o sgwennu. Doedd Jan ddim yn hoff o glywed pobl yn sôn amdani fel sgwennwr llyfrau teithio, rhywbeth yr oedd hi'n ei wneud ond yn canolbwyntio fwy ar y bobl yr oedd hi'n cyfarfod ar y ffordd.

Roedd llyfrau hefyd yn adrodd hanes manwl yr Ymerodraeth Brydeinig a sawl cyfrol arall.

Roedd gan Jan gysylltiadau â Chymru, fel sy'n amlygu ei hun yn y ddogfen, gyda'i thaid yn dod o Fynwy ac roedd ganddi deulu yn Y Fenni hefyd.

"Mi oedd hi'n sgwennu yn y 50au am Gymru, ond ychydig bach yn ddilornus am genedlaetholdeb Cymru fel yr oedd hi adeg hynny.

"Mi sgwennodd JE Jones o Blaid Cymru ati hi a deud wrthi yn lle ei bod hi'n sgwennu am Gymru o'r tu allan, be' am iddi ddod yn ôl i mewn i'r gorlan a dechrau sgwennu felly, ac fe waeth.

"Ac o hynny ymlaen roedd hi'n sgwennu fwy a fwy fel rhywun oedd yn perthyn.

"Dwi'n meddwl mai dyna oedd hi eisiau i ddigwydd, achos mae hi'n sôn mewn ysgrifau am ei phlentyndod hi, ar ochr arall Yr Hafren yn Clevedon a bod hi'n gweld mynyddoedd ei thad a bod hynny yn codi hiraeth arni hi," meddai Twm.

Twm MorysFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Twm Morys sy'n cyflwyno'r rhaglen ddogfen ar S4C

Yn y ddogfen deledu, Twm sy'n cyflwyno dwy raglen yn adrodd hanes Jan.

Wrth sôn am gynnwys y ddogfen dywedodd Twm: "Mae rhaid cofio mai golwg un mab ydi hon, mae gennai chwaer ac mae gennai frodyr ac maen nhw yn meddwl yn wahanol iawn i mi.

"Dydy fy mrodyr i na fy chwaer i yn cydweld o gwbl efo fi am Jan fel person, wedyn mae hi'n gymhleth ofnadwy ac mae hanes pob teulu yn gymhleth iawn."

O ran ei henwogrwydd, roedd Jan yn hoffi'r sylw a'r clod ac ond yn bennaf am ei "sgwennu hi" medd Twm ac "yn bendant nid am y busnes newid rhyw."

Yn 1972 teithiodd James i Casablanca ym Moroco i gael llawdriniaeth i newid ei ryw a dod yn Jan Morris.

Ychwanegodd Twm: Doedd hi ddim yn hoff iawn o'r sylw na'r cyhoeddusrwydd ynghylch hynny ond ei sgwennu hi oedd bwysicaf wrth gwrs."

A dyna wnaeth Jan yn ei chyfrol Conundrum yn 1974. Fe ysgrifennodd am y profiad o newid rhyw a'i hunaniaeth newydd ac roedd hynny meddai Twm yn ddigon iddi rhag gorfod trafod y pwnc llawer yn gyhoeddus.

"Roedd hi wedi ysgrifennu llyfr am y peth, roedd o'n eithriadol ar y pryd ac roedd hi'n teimlo ei bod hi wedi deud y cwbl oedd eisiau ei ddeud. Dyna'r unig sylw doedd hi ddim yn hoff ohono," meddai.

Wrth gofio'n ôl at ei deimladau o tuag at Jan tra'n blentyn roedd Twm yn ei gweld hi fel ffigwr chwedlonol.

"Dwi ddim yn cofio teimlo'n anniddig neu'n annifyr. I mi roedd o fel bod yn fab i rhywun chwedlonol. Fel Uncorn. Felly dwi'n teimlo," meddai.

Jan MorrisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jan Morris yn westai ar raglen Dick Cavett yn 1974 yn trafod newid rhywedd

Person pwysig arall sy'n cael ei adlewyrchu yn y ddogfen yw mam Twm, sef Elisabeth.

"Oni bai am Elisabeth 'sa Jan ddim wedi cael bod yn Jan," meddai Twm.

Fe briododd Elisabeth Tuckniss â James Morris fel yr oedd ar y pryd yn 1949. Bryd hynny roedd James yn fyfyriwr yn Rhydychen.

Roedd yn berthynas wnaeth barhau am dros 70 mlynedd ac roedd Elizabeth yn gefn mawr i Jan Morris.

"Mae rhai yn dweud mai rhyw garcharor oedd Mam, ond dwi'n gwrthwynebu'r dehongliad yna'n llwyr, ro'n i'n byw hefo nhw am yn hir iawn drws nesa, felly ro'n i'n nabod Mam a Jan yn dda iawn.

"I mi mae'n profi bod cariad yn drech na phob peth. I eraill mae'n profi pethau eraill, fod 'na gormes mawr iawn rhwng gŵr a gwraig neu partneriaid, ond dwi'n teimlo fel y tyst agosaf i'r berthynas honno, yn enwedig yn y blynyddoedd olaf, mai fi sy'n iawn, mai cariad mawr iawn, iawn oedd o, drwy pob mathau o stormydd a drycin a phob math o bethau.

"Roedd Mam yn llwyddo i fod yn breifat iawn ond roedd hi'n ddynes arbennig iawn," meddai.

Elizabeth a JanFfynhonnell y llun, Twm Morys
Disgrifiad o’r llun,

Elizabeth a Jan a oedd mewn perthynas am dros 70 mlynedd

Er iddi gael ei magu yn Lloegr, roedd Jan hefyd yn gallu siarad Cymraeg ac fe'i derbyniwyd i Orsedd y Beirdd.

Fe soniodd Twm am un foment eithriadol o falch iddo ef a Jan a hynny pan yr oedd hi'n rhan o'r osgordd a wnaeth ei arwain i'r llwyfan pan gafodd ei Gadeirio'n Brifardd Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003.

"Roedd hynny yn fraint mawr - ac i hithau hefyd," meddai Twm.

Bydd y rhaglen gyntaf o ddwy o Chwedl Jan Morris yn cael ei ddarlledu ar S4C am 20:00 nos Sul 20 Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol