Main content

Twm Morys, adolygiad o 'Dadra' a'r artist Elfyn Lewis

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond with Manon Steffan Ros.

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt.

Roedd Jan Morris yn un o ffigyrau mwyaf unigryw a dylanwadol llenyddiaeth Cymru a'r byd ac mae Manon yn cael cwmni ei mab, Twm Morys, a hynny ar drothwy darlledu dwy raglen ddogfen ar S4C sydd yn cael eu cyflwyno gan Twm yn dilyn hanes rhyfeddol ei bywyd, o'i dyddiau fel newyddiadurwr a theithiwr enwog i'w statws fel un o awduron mwyaf parchus yr ugeinfed ganrif. Mae'r gyfres newydd hon yn archwilio ei pherthynas ddofn â Chymru, ei bywyd teuluol, a'r gwrthgyferbyniadau a'r dirgelwch a wnaeth Jan Morris yn gymeriad mor hynod a chofiadwy.

Yn ogystal â hyn mae Casia Wiliam yn adolygu drama lwyfan ddiweddaraf Theatr Bara Caws, 'Dadra', ac mae'r artist Elfyn Lewis yn trafod ei arddangosfa ‘O'r Afon i'r Môr’ sydd newydd agor yn Gallery Ten, Caerdydd.

4 wythnos ar ôl i wrando

56 o funudau

Ar y Radio

Yfory18:00

Darllediadau

  • Heddiw13:00
  • Yfory18:00