Cyn-arweinydd UKIP yn y Senedd yn gadael Reform UK

Dywedodd Caroline Jones y byddai hi'n teimlo'n "anwybodus" yn sefyll yn y sedd a gafodd ei hawgrymu iddi
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd UKIP ym Mae Caerdydd wedi gadael plaid Reform UK, gan eu cyhuddo o anwybyddu aelodau yn ei hardal a pheidio ag ymateb i gwynion am ddewis ymgeiswyr.
Mae Caroline Jones yn dweud y bydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn sedd Pen-y-bont Bro Morgannwg, lle mae hi'n byw, ar ôl gwrthod bod yn drydydd ar restr Reform yn sedd Pontypridd Cynon Merthyr.
Mae Ms Jones wedi disgrifio'r etholaeth yr oedd Reform eisiau iddi sefyll ynddi fel rhywle "estron" iddi, gan ddweud nad oedd ganddi "unrhyw gysylltiad ag ef".
"Fi'n credu y dylai pob ymgeisydd gael cysylltiad cryf â'u cymuned cyn iddyn nhw sefyll," meddai wrth y BBC.
Dywedodd Reform UK fod eu prosesau dewis ymgeiswyr yn "deg" ac "ar sail gallu".
Mae tri o chwe ymgeisydd gwreiddiol y blaid ar gyfer Pen-y-bont Bro Morgannwg wedi penderfynu na fyddan nhw'n sefyll, ac mae un ymgeisydd arall ar gyfer Pontypridd Cynon Merthyr hefyd wedi tynnu yn ôl, wrth i ffynonellau ddweud bod dicter ynghylch "parasiwtio" pobl o'r tu allan i'r ardal i fod yn ymgeiswyr.
Fe wnaeth tri ymgeisydd Reform ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg sefyll i lawr am amrywiaeth o resymau.
Un mewn protest yn erbyn y broses o ddewis ymgeiswyr, un ar ôl i lun ddod i'r amlwg ble roedd yn ymddangos ei fod yn gwneud saliwt Natsïaidd, ac un arall am "resymau personol" sydd heb eu gwneud yn gyhoeddus.
Dywedodd Reform wrth y BBC y byddai'n cyflwyno rhestr lawn ar gyfer yr etholiad ar 7 Mai.
'Teimlo'n anwybodus iawn'
Roedd Caroline Jones yn un o saith gwleidydd UKIP a gafodd eu hethol i'r Senedd (y Cynulliad ar y pryd) yn 2016, ar ôl bod yn aelod o'r Blaid Geidwadol cyn hynny.
Yn fuan iawn bu ffraeo o fewn grŵp UKIP ym Mae Caerdydd, gyda Ms Jones yn un o dri arweinydd ganddyn nhw.
Ar ôl hynny ymunodd â Phlaid Brexit, a'u gadael hwythau gan eu cyhuddo o gael safbwynt "gwrth-ddatganoli" oedd yn erbyn ei hegwyddorion.
Ei gobaith oedd sefyll dros Reform fis nesaf yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg.
"Ym Mhontypridd, lle y cefais gynnig [sefyll], mae pobl wedi meithrin cysylltiadau," meddai Ms Jones.
"Maen nhw'n deall anghenion y gymuned honno ac felly bydden i wedi teimlo'n anwybodus iawn, yn mynd i rywle doeddwn i'n gwybod dim amdano."
Ymgeisydd Reform wedi beio NATO am ryfel Rwsia yn Wcráin
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
Reform yn colli pedwar ymgeisydd o fewn wythnos
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
Ymgeisydd Reform yn camu'n ôl wedi llun saliwt Natsïaidd
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
Gyda system newydd o bleidleisio eleni, bydd pob un o'r 16 etholaeth yn ethol chwe aelod ar 7 Mai.
Yr uchaf y mae ymgeisydd ar y rhestr, y mwyaf tebygol ydyn nhw o gael eu hethol.
"Fe wnaethon nhw [Reform] fy sicrhau y byddai tri yn cael i mewn [eu hethol]," meddai Ms Jones.
"Ond i fod yn hollol onest, roedd Pontypridd yn estron i mi.
"Does gen i ddim cysylltiad, a fi'n credu y dylai pob ymgeisydd gael cysylltiad cryf â'u cymuned cyn iddyn nhw sefyll yno."
'Dim ymateb'
Wrth gael ei holi pa ymateb a gafodd hi gan arweinyddiaeth Reform i'w phryderon, dywedodd Ms Jones: "Dim o gwbl.
"Nid yw unrhyw e-byst sy'n cael eu hanfon at y blaid gan aelodau, gan etholwyr neu gan eraill, yn cael eu hateb," meddai. "Dydych chi ddim yn cael ymateb."
Mae Plaid Cymru hefyd wedi colli ymgeisydd ac wedi wynebu cwestiynau ynghylch negeseuon rhai ymgeiswyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.