Cyhuddo dyn 27 oed o lofruddiaeth yn Y Fenni

Mae'r heddlu'n ymchwilio i ddigwyddiad ar Old Hereford Road ddydd Gwener diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed o Flaenau Gwent wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn arall yn ei ugeiniau yn Y Fenni.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ddigwyddiad ar Old Hereford Road ddydd Gwener 15 Mai, lle cafodd dyn ei ganfod gydag anafiadau oedd yn bygwth ei fywyd.
Cafodd dyn yn ei ugeiniau ei gludo i'r ysbyty lle y bu farw'n ddiweddarach.
Mae Liam Bennett, 27 oed o ardal Gilwern, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Sadwrn.
Mae Heddlu Gwent yn annog unrhyw un oedd yn yr ardal ar adeg y digwyddiad, neu wedi gweld unrhyw beth amheus, i gysylltu â nhw.