Bachgen, 6, yn chwarae ar ei feic cyn gwrthdrawiad yn Sir Conwy - cwest

Harrison Glynne JonesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Harrison ei ddisgrifio gan ei deulu fel "hogyn direidus, llawn cymeriad"

GanIfan Ywain
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cwest i farwolaeth bachgen 6 oed mewn gwrthdrawiad yn Sir Conwy wedi cael ei agor a'i ohirio.

Clywodd y gwrandawiad yn Llys Crwner Sir Ddinbych, Rhuthun ddydd Llun fod Harrison Jones wedi bod yn chwarae ar ei feic gyda ffrind cyn y digwyddiad yn Llanfairfechan ar 1 Hydref.

Am tua 17:30 cafodd y bachgen ei daro gan fan oedd yn gyrru heibio ac fe ddisgynnodd i'r ffordd y tu allan i'w gartref.

Daeth archwiliad post mortem i'r casgliad fod Harrison wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i'w ben.

Dywedodd John Gittins, uwch-grwner ar gyfer gogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru, ei fod yn gohirio'r cwest wrth i ragor o ymchwiliadau gael eu cynnal.

Swyddogion a cheir heddlu ar safle'r gwrthdrawiad yn Llanfairfechan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gyrrwr fan ei arestio a'i ryddhau o dan ymchwiliad wedi'r digwyddiad

Mewn teyrnged ar dudalen i godi arian i'r teulu wedi'r digwyddiad, cafodd Harrison ei ddisgrifio fel "hogyn direidus, llawn cymeriad, gyda phersonoliaeth oedd yn gallu goleuo unrhyw ystafell".

Ychwanegodd Kate Jones yn y neges: "Does dim geiriau sy'n gallu disgrifio'r torcalon a'r dinistr y mae ei rieni, ei chwiorydd a'n teulu cyfan yn ei deimlo.

"Ni ddylai plentyn fyth gael ei gymryd oddi wrth ei deulu mor sydyn, mewn amgylchiadau mor drasig, ac rydyn ni i gyd yn cael trafferth dod i delerau â'r golled anghrediniol yma."

Cafodd gyrrwr fan ei arestio a'i ryddhau o dan ymchwiliad wedi'r digwyddiad, ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig