Dafydd Owain a'i berthynas â'i nain - yr awdur Mair Wynn Hughes

Mair Wynn Thomas a Dafydd Owain
GanIwan Arwel
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae eleni wedi bod yn flwyddyn fawr i'r cerddor Dafydd Owain.

Yn ogystal ag ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn gydag Ymarfer Byw, fo hefyd fydd nesaf i berfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC mewn cyngerdd arbennig yn Pontio fis Tachwedd.

Ond mae'r dylanwad creadigol wedi ffynnu drwy ei gysylltiadau teuluol.

Mae nain Dafydd yn un o awduron plant enwocaf Cymru ac wedi cyhoeddi dros 100 o lyfrau.

Mae Mair Wynn Hughes bellach yn 95 oed, yn dal i fyw yn annibynnol ac yn parhau i gael dylanwad enfawr ar ei hŵyr.

Roedd y ddau yn westeion arbennig ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru, ble roedden nhw'n trafod eu perthynas a'u gwaith creadigol.

'Blwyddyn ddifyr'

Mae Mair Wynn Hughes wedi ennill gwobr Tir na n-Og bedair gwaith wedi gyrfa o dros 60 mlynedd o gyhoeddi llyfrau.

Ymysg rhai o'r rhai mwyaf poblogaidd i blant mae cyfres Wali Wmff a Morus Mihangel.

O ran Dafydd, roedd cyhoeddi ei ail albwm eleni yn dod â chyfnod anodd iddo i ben. Cyfnod, mae'n ei gyfaddef, oedd yn heriol ar brydiau yn y stiwdio recordio:

"Mae jyst wedi bod yn flwyddyn eithaf difyr efo'r record. Pan o'n i'n recordio'r record, do'n i ddim yn siŵr iawn os oedd o'n record da iawn, o'n i'n cael bach o issues yn y stiwdio a meddwl, 'o na, dwi ddim gwybod beth dwi'n ei wneud fan hyn'.

"Ond, fel mae rhywun, jest yn cario mlaen. A jyst yr ymateb 'ma yn dod i'r gerddoriaeth ac o bosib y themâu sydd hefyd ar y record. Mae wedi bod yn ddifyr a dwi wedi fy syfrdanu efo'r ymateb," meddai.

Roedd yr ansicrwydd hyd yn oed wedi achosi i Dafydd gwestiynu a oedd o'n gerddor o gwbl.

"Pan wnes i ryddhau Uwch Dros y Pysgod, do'n i ddim yn siŵr os oedd 'na record yno fi heb sôn am ddau record. Pan o'n i'n mynd yn ôl i wneud yr ail record ro'n i'n teimlo, ella bo' fi ddim yn gerddor a bo' fi jest yn berson sydd digwydd bod efo 10 cân.

"Dwi'n meddwl fy mod i'n stryglo lot efo diffinio fy hun fel cerddor, dwi dal ddim cweit yn coelio fy mod i'n gerddor rhywsut."

Dafydd yn chwarae'r organ yn nhŷ ei nainFfynhonnell y llun, Dafydd Owain
Disgrifiad o’r llun,

Mair a Dafydd: Nain a'i hŵyr yn cael sesiwn jamio

Un person sydd wir yn credu yn Dafydd fel cerddor yw ei nain.

Er bod Mair yn athrawes biano ers talwm, chafodd Dafydd fyth wersi gan ei nain, ond mae ganddi gof clir ohono'n arbrofi gyda'r organ yn ei chartref.

Dywedodd Mair: "O'n i mor falch ei fod o wedi mynd ar y llwybr (i fod yn gerddor), mae gen i luniau ohono fo wrth yr organ yn yr Hendre."

Wrth siarad gyda Dafydd dywedodd wrtho:

"Ti'n hoffi sgwennu'r gân ei hun ac wyt ti'n hoffi sgwennu'r geiriau hefyd ac mi rwyt ti'n rhoi dy holl feddwl a dy holl emosiynau a phob peth i fewn i'r ysgrifennu yna, ac mae'n gwneud byd o wahaniaeth a dyna sut mae'r albwm hon wedi cyrraedd y brig," meddai.

Mae'r albwm yn llawn emosiwn ac yn llawn o brofiadau personol Dafydd, ond ffuglen sy'n ysbrydoli ysgrifennu Mair dros ei gyrfa helaeth, eglurai.

"Dwi ddim yn sgwennu lot o brofiad personol fi fy hun, i ddeud y gwir, achos mae'n meddwl i'n creu. Dwi'n hoffi creu, dwi'n licio cymeriadau a dwi'n licio byw hefo nhw.

"Dwi o hyd yn cael gafael ar gymeriad i gychwyn, a cymeriad sy'n mynd â'r stori yn ei blaen. Dwi'n dod i adnabod y cymeriad tra dwi'n sgwennu.

"Yna rhyw quirks bach hyd yn hyn i wneud y cymeriad yn fwy byw i mi. Dwi ddim yn nabod y cymeriad yn dda ar y cychwyn ond erbyn y diwedd dwi'n berffaith sicr o'r cymeriad yna."

Sgwennu nofel yn 92 oed

Un o'r cymeriadau mwyaf diweddar i Mair ysgrifennu amdani oedd dynes oedrannus o'r enw Lydia oedd yn dioddef o dementia yn Y Bocs Erstalwm.

Mae hi'n ceisio canfod ei hunaniaeth drwy edrych ar yr atgofion sydd mewn bocs yn ystod y Cyfnod Clo. Roedd Mair yn 92 oed yn ysgrifennu'r nofel hon.

"Yn Y Bocs Ersdalwm 'nes i ysgrifennu yn ddiweddar, o'n i wedi meddwl am y cymeriad i gychwyn ac yn meddwl am y sefyllfa. Ond dyna'r cyfan o'n i wedi meddwl amdano.

"Yn gyntaf dyma fi yn dechrau sgwennu amdani hi, mae'n dŵad i mi pob tro yr un fath. Fyddai'n teimlo weithiau mai sgwennu rhyw ffwrdd â hi dwi'n 'neud, a dwi ddim yn mynd i lawr rhyw ddyfnder mawr o sgwennu achos dwi'n anelu efallai am lyfrau hawdd i'w darllen," meddai.

O ran y dyfodol mae Mair yn hapus iawn i weld ei hŵyr yn mynd o nerth i nerth o ran ei yrfa gerddorol unigol.

Mae Dafydd eisoes wedi bod yn rhan o fandiau llwyddiannus fel Jen Jeniro, Omaloma, Palenco ac Eitha Tal Ffranco ond nawr mae ei albwm newydd wir wedi cydio yn nychymyg y gwrandawyr.

Mae Dafydd hefyd yn gweithio yn y byd llyfrau gyda'r Cyngor Llyfrau o ddydd i ddydd, ac mae ei waith dylunio i'w weld ar glawr nifer o lyfrau Cymraeg.

O ran y dyfodol mae Dafydd yn ddiolchgar fod ei gerddoriaeth ddiweddar wedi "galluogi pobl i gael eu denu at y themâu ac i deimlo'r ru'n fath" â fo weithiau a bod y caneuon yn eu hatgoffa o deimlad personol penodol.

Mae'n edrych ymlaen at gael perfformio gyda'r Cherddorfa Genedlaethol y BBC yn Pontio ar 14 Tachwedd.

Poster hyrwyddo cyngerdd Dafydd Owain a Martha Elen yn PontioFfynhonnell y llun, BBC Radio Cymru

Bydd tocynnau i gyngerdd Dafydd Owain a Martha Elen gyda'r Gerddorfa ar werth o wefan Pontio ar 2 Medi, am 10:00.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig