Teyrnged i ddyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan sawl cerbyd

Roedd Gerard Trojanowski yn berson "ardderchog a hael gyda chalon fawr", medd ei deulu
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 44 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad chwe cherbyd ar yr A40 yng Nghaerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddo.
Roedd Gerard Trojanowski yn cerdded ar y ffordd cyn y gwrthdrawiad tua 21:50 nos Fawrth 28 Gorffennaf rhwng cylchfan PC World a chylchfan Abergwili.
Roedd yr adroddiadau cyntaf i'r heddlu yn lleisio pryderon am ddiogelwch cerddwr ar yr A40, cyn adroddiadau pellach bod cerbydau wedi bod mewn gwrthdrawiad â'r unigolyn.
Bu farw Mr Trojanowski yn y fan a'r lle.

Roedd yr A40 ar gau am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad
Mewn datganiad byr ddydd Gwener, dywedodd ei deulu ei fod "yn ŵr a thad serchus".
Maen nhw hefyd yn ei ddisgrifio fel "person ardderchog a hael â chalon fawr".
Gan ychwanegu "y bydd wastad yn ein hatgofion" mae'r teulu wedi apelio "am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd yma".
Yn ôl adroddiadau bu un o gerbydau'r heddlu mewn gwrthdrawiad â'r Mr Trojanowski hefyd - roedd y car heddlu yn digwydd bod yn patrolio'r ardal ar y pryd ac fe wrthdarodd yn erbyn y cerddwr cyn i blismyn a oedd yn ymateb i'r digwyddiad gyrraedd.
Mae'r achos wedi cael ei gyfeirio at yr IOPC, sef y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
