Costau diwylliant a chwaraeon yn atal 'gormod o lawer' o blant

Mae'r Urdd wedi ehangu'r eisteddfod i saith diwrnod eleni, gyda dros 400 o gystadlaethau yn cael eu cynnal
- Cyhoeddwyd
Mae "gormod o lawer" o blant a phobl ifanc yn colli allan ar gyfleoedd fel Eisteddfod yr Urdd oherwydd costau, yn ôl y gwleidydd sy'n gyfrifol am ddiwylliant a chwaraeon.
Ar y maes yn Ynys Môn dywedodd sawl un ei bod yn mynd yn anoddach cymryd rhan wrth i brisiau godi - gan gynnwys teithio, mynediad a llety.
Dywedodd un bod y pris yn rhan o benderfyniad grŵp gwerin i beidio teithio i'r ŵyl i gystadlu o gwbl.
Dywedodd yr Urdd eu bod nhw'n "parhau'n ymrwymedig i gadw'r Eisteddfod mor hygyrch ac mor fforddiadwy â phosibl i blant, pobl ifanc a theuluoedd".

Mae Rhian Collins (chwith) wedi teithio i Fôn o Gaerdydd am ddwy noson
Mae pris tocyn i ddod i faes Eisteddfod yr Urdd yn amrywio o £15 i blentyn i dros £70 i deulu o bump.
Dywedodd sawl un ar faes yr Urdd bod y costau o amgylch dod i'r ŵyl yn sylweddol hefyd.
Dywedodd Rhian Collins o Gaerdydd: "Mae wedi costio tipyn i ddod lan o ran y petrol a'r bwthyn am y ddwy noson.
"Ni'n hapus i wneud e oherwydd bod fy merch yn perfformio, ond mae eitha drud."
Ychwanegodd bod rhai wedi dweud wrthi bod mynychu'r Eisteddfod allan o'u cyrraedd, a'u bod wedi gwneud y penderfyniad i beidio eleni.
"Mae cwpl o bobl wedi dweud eu bod nhw ddim yn dod lan achos, tipyn bach am y pellter, ond tipyn bach am y pris hefyd."

Dywedodd Sonia Rees ei bod wedi gweld costau yr Eisteddfod yn codi dros y blynyddoedd
Un arall oedd Sonia Rees o ardal Tregaron, oedd wedi teithio i Fôn am y dydd mewn car.
"Mae talu i ddod fewn, y bwyd ac ati yn ddrud," meddai.
"Tirion yw'r trydydd plentyn sydd gyda ni, a fel oedd y genhedlaeth diwethaf yn mynd, oedd hi lot rhatach bryd hynny o gymharu â nawr."
Dywedodd fod y gost yn arbennig o anodd i deuluoedd gyda phlant yn cystadlu dros sawl diwrnod.
"I rieni sydd gyda mwy nag un plentyn, mae llawer o deuluoedd o'r ysgol wedi gorfod dod lan dwy neu dair gwaith yr wythnos.
"Ond mae rhai wedi penderfynu dod fyny ac i lawr hefo bws yr ysgol yn hytrach nag aros yma."

Byddai bws yn costio tua £600 meddai Clive Williams
Nid pob ysgol sy'n gallu fforddio cynnal bws, meddai Clive Williams, Pennaeth Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth.
"Mae bysiau yn ddrud iawn, bydde fe'n ryw £600 i gael un bws a bydd angen bws bob dydd. Byse hwnna'n drwm ar gyllidebau ysgol a mae amser yn brin iawn ta beth."
Dywedodd eu bod yn "ffodus fel ysgol bod rhieni yn fodlon cynorthwyo hefo'r teithio ac i ddod a'r plant lan yma".
'Costau'n fwrn mawr ar deuluoedd'
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y gweinidog newydd dros ddiwylliant a chwaraeon yn Llywodraeth Cymru, Heledd Fychan bod costau'n rhwystr i ormod o deuluoedd.
"'Da ni'n gwybod na dim ond y mynediad yw'r broblem. Mae'r holl gostau teithio ac ati yn fwrn mawr ar deuluoedd," meddai.
"Ar hyn dwi'n sicr eisiau gweld ydi sut 'da ni'n sicrhau mynediad i bawb i ddiwylliant a chwaraeon.
"'Da ni yn gweld gormod o lawer ar y funud o bobl ifanc a phlant yn colli allan ar gyfleoedd i gyfranogi oherwydd costau."
Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi "ymrwymo i barhau hefo cadw mynediad am ddim i deuluoedd incwm isel a mae hynny ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol".
Dywedodd hefyd ei bod am newid meddylfryd a gweld iechyd, y celfyddydau a chwaraeon "i gyd ynghlwm â'i gilydd".

Mewn ymateb, dywedodd Eisteddfod yr Urdd fod costau cynyddol yn effeithio ar nifer o agweddau ar drefnu'r ŵyl, ond eu bod yn ceisio cadw'r digwyddiad mor hygyrch â phosibl.
"Er gwaethaf y pwysau yma, rydym yn parhau'n ymrwymedig i gadw'r Eisteddfod mor hygyrch ac mor fforddiadwy â phosibl i blant, pobl ifanc a theuluoedd."
Yn ôl yr Urdd, maen nhw fel sawl gŵyl arall yn gorfod delio â chostau cynyddol, ond eu bod yn dal i gynnig tocynnau am ddim i rai teuluoedd.
"Rydym yn parhau i ddarparu mynediad am ddim i deuluoedd sy'n dod o gartrefi incwm isel er mwyn sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli allan ar brofiad o'r Eisteddfod a'r celfyddydau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.