Diddymu'r rheithgor yn achos llofruddiaeth y pedoffeil Ian Watkins

Ian WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ian Watkins ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf yng Ngharchar Wakefield ar 11 Hydref y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor yn achos dau garcharor oedd wedi'u cyhuddo o lofruddio'r pedoffeil Ian Watkins wedi cael ei ddiddymu.

Roedd Rashid Gedel, 25, a Samuel Dodsworth, 44, yn gwadu llofruddio cyn-ganwr y grŵp roc o Gymru, Lostprophets, yng Ngharchar Wakefield fis Hydref y llynedd.

Roedden nhw hefyd yn gwadu cael cyllell yn eu meddiant yn y carchar.

Roedd Watkins, 48 o Bontypridd, wedi cael ei garcharu am 29 mlynedd yn 2013 am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant - gan gynnwys ymgais i dreisio babi.

Bu farw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf.

Ond wedi achos llys a barodd bythefnos, daeth i'r amlwg ddydd Gwener y byddai'r rheithgor yn cael ei ddiddymu.

Bydd y ddau ddiffynnydd yn wynebu ail achos.

Yn annerch y rheithgor yn Llys y Goron Leeds ddydd Gwener dywedodd y barnwr Mr Justice Hilliard ei fod yn cydnabod fod y canlyniad "yn siomedig i chi [y rheithgor] ac i bawb".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.