Heddlu yn ymchwilio i 'fygythiad i fywyd' AS Reform UK

Cai Parry-Jones ASFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i honiad bod AS Reform UK, Cai Parry-Jones wedi derbyn 'bygythiad i'w fywyd'

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i aelod Reform UK yn Senedd Cymru, Cai Parry-Jones ddweud iddo dderbyn bygythiad i'w fywyd.

Dywedodd AS Caerdydd Ffynnon Taf bod swyddogion o Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwilio yn dilyn y bygythiad honedig yn ei erbyn o a'i deulu.

Mae'r blaid wedi galw am ddarparu mesurau diogelwch llawn i wleidyddion sydd eisiau hynny, yn dilyn marwolaeth llefarydd Reform UK a'r cyn-weinidog Ceidwadol, Ann Widdecombe.

Wrth ysgrifennu ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Parry-Jones bod bygythiadau o drais yn erbyn gwleidyddion yn "ymosodiad uniongyrchol ar ddemocratiaeth, sydd angen yr ymateb cryfaf posib iddo".

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau wrth BBC Cymru bod bygythiad yn erbyn AS Reform wedi ei adrodd iddyn nhw ar 2 Mehefin, gyda swyddogion yn parhau i ymchwilio.

"Does neb wedi eu harestio," ychwanegodd y llefarydd.

Natasha Ashgar ASFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae dyn wedi cyfaddef malu ffenestr swyddfa etholaethol yr AS Ceidwadol Natasha Ashgar, mewn digwyddiad oedd ' ddim â chymhelliad gwleidyddol' iddo

Yn y cyfamser, mae dyn 47 oed o Gasnewydd wedi cyfaddef malu ffenestr swyddfa etholaethol yr AS Ceidwadol Natasha Ashgar gyda charreg fawr.

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedd y digwyddiad nos Fercher yn cael ei weld fel un gyda chymhelliad gwleidyddol, a bod y dyn wedi derbyn gorchymyn datrys cymunedol.

Mae gorchmynion o'r fath yn cael eu defnyddio ar gyfer mân droseddau neu achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol, er mwyn mynd i'r afael â'r mater heb gamau cyfreithiol.

Mae'n gytundeb anffurfiol rhwng y rhai sydd ynghlwm â'r digwyddiad a nid yw'n arwain at record droseddol.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd AS Casnewydd Islwyn: "Rydym ni i gyd wedi clywed am yr amgylchiadau trasig ynghlwm â marwolaeth Ann Widdecombe wythnos diwethaf.

"Mae hynny wir wedi ysgwyd y gymuned wleidyddol, beth bynnag yw daliadau gwleidyddol unrhyw un.

"Digwyddiadau fel hyn sydd yn troi pobl oddi wrth ymuno â'r byd gwleidyddol ac o wneud eu swyddi, ond rwyf yma i ddweud wrthych chi, beth bynnag am y garreg yma neu unrhyw broblemau, fe fydda i yn cario ymlaen i wneud y swydd rwy'n ei charu ac rwy'n ei gwneud bob dydd".

Diogelwch ASau yn destun trafod

Mae diogelwch Aelodau o'r Senedd yn fater sydd wedi cael ei godi sawl gwaith yn ddiweddar.

Dywedodd y Llywydd, Huw Irranca-Davies bod yna "fframwaith ddiogelwch gynhwysfawr" i gefnogi aelodau yn eu gwaith.

Dywedodd bod hynny yn cynnwys diogelwch ar ystad y Senedd, cyngor wedi ei deilwra, modd o gofnodi digwyddiadau, a mesurau diogelwch yng nghartrefi aelodau a swyddfeydd etholaethol.

Dywedodd Mr Irranca-Davies bod y trefniadau yn cael eu cefnogi gan gydweithrediad â'r heddlu, yn cynnwys presenoldeb ar y safle a rhannu gwybodaeth, yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid diogelwch ar draws Cymru a'r DU.

Ychwanegodd bod cynlluniau diogelwch yn cael eu hadolygu'n flynyddol, tra bod asesiadau risg parhaus yn cael eu cynnal gan swyddogion diogelwch y Senedd, yr heddlu a phartneriaid diogelwch drwy'r DU.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.