Trysori hanes wrth adnewyddu capel yn Sir Gâr

- Cyhoeddwyd
Nid prynu hen gapel wedi mynd â'i ben iddo yn Sir Gâr oedd y cynllun i Mandy a Rob Purdie. Ond pan ddaethon nhw ar draws capel Hebron ym mhentref Pencader yn 2024, syrthion nhw mewn cariad â'r lle.
Ac wrth dderbyn yr allweddi, ynghyd â thyllau yn y to a llyn o dan y lloriau, maen nhw wedi darganfod hanes a thraddodiad sydd angen ei drysori, a mynwent o 'gymdogion' sy'n haeddu eu parchu.

Roedd golwg druenus ar y capel ar ôl bod yn wag ers blynyddoedd
Trwsio, nid difetha'
Dydy'r cwpl o ddwyrain Sussex ddim yn newydd i 'chydig bach o DIY, ond mae hwn yn brosiect mawr.
Roedd y capel o'r 18fed ganrif wedi bod yn wag ers 14 o flynyddoedd cyn iddyn nhw ei brynu, ac roedd wedi mynd i stad druenus.

Roedd rhywun wedi cymryd mantais o'r ffaith fod y capel yn wag i adael eu marc yno... mae Mandy a Rob am wneud math gwahanol o baentio
Mae lluniau o'r 1980au yn dangos twll mawr yn y to hyd yn oed bryd hynny, eglura Mandy, felly mae'r adeilad wedi bod angen rhywun i wneud gwaith arno ers blynyddoedd lawer.
"Dwi'n meddwl pan edrychon ni arno, roedden ni'n meddwl ei fod am fod yn ocê. Ond pan oeddet ti'n edrych yn agosach... roedd y seddau'n malu yn dy ddwylo di.
"Roedd y llawr mor damp ac wedi pydru gymaint, 'nes i syrthio drwyddo. Roedd rhaid i ni ddadfeilio llawer o bethau, fel y pulpud, er mwyn trwsio'r llawr.
"Mae popeth wedi bod yn fwy o waith ac yn ddrytach na'r disgwyl, ac felly'n cymryd hirach."

Roedd y llawr pren wedi pydru'n gyfangwbl o dan y lino
Ond nid newid popeth yn gyfangwbl i greu lle newydd yw'r nod i Mandy a Rob, ond trwsio er mwyn adfer yr hen gapel yn ôl i sut oedd yn arfer edrych.
"Rydyn ni'n cadw gymaint o'r capel â phosib – y nenfwd, y llawr teils, y ffenestri lliw, y lampau ar gadwyni, y pileri gwyrdd llachar – popeth sy'n hardd am yr adeilad, rydyn ni am ei gadw.
"Mae'n bwysig achos dyna sy'n ei wneud yn unigryw, a dyna pam syrthion ni mewn cariad â'r lle."
Cefnogaeth yn lleol
Daeth y capel gyda bwthyn – oedd yn cael ei ddefnyddio fel festri – a 4.5 acer o dir coedwig. Mae'r cwpl yn teithio i Sir Gâr bob rhyw ychydig o wythnosau o'u cartref 5.5 awr i ffwrdd, er mwyn gwneud gwaith ar yr adeiladau a'r tir.
Mae'r prosiect wedi ennyn cryn dipyn o ddiddordeb ar y cyfryngau cymdeithasol – mae gan y cyfrif Instagram Little Welsh House and Chapel, dolen allanol bron i 115,000 o ddilynwyr – ac yn yr ardal hefyd, meddai Mandy.
"Mae pentrefwyr lleol wedi dod i'n helpu ni. Mae 'na lawer o emosiwn ynghlwm â'r lle. Mae'r capel yn arbennig iddyn nhw; siŵr y byddai rhai wedi mynd yno fel plant, eu rhieni wedi mynd yno, eu mam-gu...

Daeth pobl leol draw i helpu i dynnu'r pulpud i lawr yn ofalus, er mwyn gallu trwsio'r llawr. Y bwriad yw rhoi'r pulpud yn ôl yn ei le
"Mae rhai pobl wedi bod yn negyddol ar-lein, ond hebddon ni, byddai'r adeiladau mewn hyd yn oed gwaeth gyflwr, wedi cwympo'n gyfan gwbl mewn llai na degawd, siŵr o fod.
"Dwi'n meddwl fod pobl wedi meddwl ein bod ni am guttio'r holl le, ond bendant dim dyna'r bwriad.
"Rydyn ni'n trio'i wneud mor driw â phosib, ac yn defnyddio busnesau lleol a dodrefn Fictoraidd Cymreig, achos dwi'n meddwl ei bod hi mor bwysig i gadw at wreiddiau'r lle."

Mae Mandy wedi cael gafael ar lestri'r capel wrth edrych yn lleol am ddodrefn a chreiriau addas ar gyfer yr adnewyddiad
'Lle hyfryd, heddychlon'
Un o'r pethau cyntaf aeth y cwpl i'r afael ag o yn eu prosiect newydd oedd y fynwent.
Gyda chwyn a drain yn gorchuddio popeth, prin oedd modd gweld y cerrig beddi pan aeth y ddau i weld yr adeiladau gyntaf.

Roedd yna lawer o dyfiant pan brynodd Mandy a Rob y tir
Bellach, ar ôl llawer o ofal, glanhau a chlirio, mae'r fynwent yn fan heddychlon i ymweld ag o, a'r cerrig i'w gweld yn glir. Mae Mandy'n falch eu bod wedi gallu adfer y man claddu, a dod ag urddas yn ôl i'r rhai sydd wedi eu claddu yno.
"Doedden ni ddim yn cael cyffwrdd beddi oedd yn iau na 100 mlwydd oed. Mae 'na 61 person wedi eu claddu mewn 41 bedd, ac mae'n siŵr fod tua dau ohonyn nhw wedi eu claddu llai na 100 mlynedd yn ôl.
"Ond dydyn ni ddim wedi ei brynu er mwyn ei ddifetha'. Mae mor brydferth, ac mae'r hanes mor bwysig.
"Ro'n i reit ypset yn cyrraedd yma, achos roedd y chwyn yn chwe troedfedd o daldra, a doeddet ti methu gweld unrhyw fedd.
"Ond un o'r pethau cyntaf oedden ni wir eisiau ei wneud oedd sortio'r fynwent, achos mae'n bwysig. Oedden nhw'n berthnasau i mi? Nag oedden. Ond roedd rhywun yn eu caru.
"Mae'n adnewyddiad anodd; mae 'na lawer yn mynd ymlaen a llawer wedi mynd o'i le. Ond y peth sydd wedi'n cael ni drwy bopeth ydy gwneud y fynwent yn hardd eto.
"Mae jest yn lle hyfryd, heddychlon i fod."

Bedd plant Thomas ac Elizabeth Phillips, Mary a Thomas, wedi cael ei dacluso
Cael coffi gyda chymdogion tawel
Y cynllun yn y pen draw yw i fyw yn y bwthyn, ac i unai ddefnyddio'r capel fel llety gwyliau neu ganolfan gymunedol, eglura Mandy. Maen nhw'n gobeithio y bydd gan y capel do newydd erbyn y Nadolig, ac y bydd yr adeilad ddigon sych i gynnal digwyddiad i'r gymuned.
Ond am nawr, rhaid bodloni ar fod yn llonyddwch y llecyn bob ychydig o wythnosau, pan mae'r pâr yn dianc oddi wrth brysurdeb eu cartref yn Sussex.
"Dyma lle 'dyn ni'n mynd pan rydyn ni wedi cael digon, a gwneud ychydig o chwynnu o amgylch bedd. Mae'n rhoi tawelwch meddwl i mi, i wybod ein bod ni'n gwneud y peth iawn pan mae popeth yn mynd o'i le, neu mae wal arall wedi syrthio neu 'dyn ni newydd ddod o hyd i lyn yng nghanol llawr y bwthyn.

Lle i enaid gael llonydd
"Pan fyddwn ni, yn y pendraw, yn symud yno i fyw, dyna lle fydda i'n mynd allan yn fy mhyjamas gyda fy nghoffi yn y boreau a chael sgwrs fach gyda fy nghymdogion tawel.
"Mae hanesydd o Gymru sy'n byw yn Awstralia wedi ymchwilio i bob person yn y fynwent i ddysgu hanes pob un, ac wedi cyfieithu'r ysgrifen ar y cerrig beddi i Saesneg, er mwyn rhannu hanes y bobl sydd wedi eu claddu yno.
"O'r 61 o bobl, roedd 22 ohonyn nhw yn blant o dan saith oed. Mae'n golygu rhywbeth.
"'Dyn ni ddim yn bobl crefyddol, ond mae'n bwysig i ni ein bod ni'n gwybod pwy ydyn nhw - gyda phwy dwi'n cael coffi yn y bore."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019

- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2023

- Cyhoeddwyd13 Hydref 2024
