'Dwi'n deall dibyniaeth': Y rhieni sy'n brwydro am gyfyngiadau ar ffonau

Mae pobl ifanc yn treulio cyfartaledd o chwe awr y dydd ar-leinFfynhonnell y llun, Getty Images
GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o ysgolion yng Nghymru erbyn hyn wedi gwahardd ffonau symudol i ddisgyblion wrth i bryderon gynyddu am effaith y cynnydd mawr mewn defnydd sgrin ar blant a phobl ifanc.

Ond mae nifer o rieni yn dal i ymgyrchu dros fwy o reolaeth o'u defnydd am resymau sy'n amrywio o fod yn gaeth i sgrin i fwlio dros y cyfryngau cymdeithasol.

Yng Nghymru, ysgolion unigol sy'n gyfrifol am benderfynu os ydyn nhw'n gwahardd ffonau symudol felly mae'r rheolau yn amrywio fesul ysgol.

Mae dau riant wedi rhannu gyda Cymru Fyw pam bod nhw'n ymgyrchu am fwy o reolaeth dros ddefnydd ffonau clyfar i blant.

Un o'r rhieni yma yw Holly Thomas o Gaerdydd, sy'n rhybuddio pa mor hawdd yw hi i blant fynd yn gaeth i sgriniau ac apiau. Mae hi hefyd yn sôn pa mor anodd yw hi fel rhiant i gadw trefn ar ddefnydd sgrin.

Dyma'i stori hi:

Holly ThomasFfynhonnell y llun, Holly Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Holly Thomas

Yn ysgol fy mhlant i, mae rhai rhieni wedi bod yn ymgyrchu am newid ac am reolau llawer llymach ar ffonau. Dwi'n deall dibyniaeth, a dyna pam dwi mor ofnus dros blant a phobl ifanc.

Mae gen i dri mab, ac mae'r tri wedi chwarae Fortnite. Dros y blynyddoedd maen nhw i gyd wedi bod yn sownd i'w ffonau neu eu tabledi.

Dwi wedi bod mewn adferiad ers 21 o flynyddoedd, ac mae hynny'n golygu bod ti'n dysgu adnabod patrymau dibyniaeth.

Y cwestiwn yw pam ydy ni'n gwneud pethau. Dopamin yw e, neu rhywbeth i lenwi'r twll 'na yn yr enaid, y chwilio cyson am 'hit'. Nid yr alcohol na'r cyffuriau yw'r broblem mewn gwirionedd - mae'n ymwneud â datgysylltu oddi wrtho ti dy hun.

Defnyddio ffonau

Pan mae plentyn yn cael ffôn yn ifanc, mae'r defnydd yn tyfu'n araf bach - yn union fel goddefgarwch i alcohol. Mae'n mynd mor anodd i gymryd y ffôn, ac maen nhw'n mynd yn grac ac yn amddiffynnol — yn union fel rhywun mewn dibyniaeth.

Maen nhw'n dweud, "Mae fy ffrind yn cael un, pam dw i ddim?" ac mae rhwystredigaeth yn magu rhwystredigaeth. Mae pobl yn gofyn, "Pam na wnewch chi gymryd y ffôn oddi arno?" Ond ni'n trio dod o hyd i ryw fan canol sy'n gweithio.

Mae'r bargeinio yn digwydd drwy'r amser — "pump munud arall" — nes dy fod ti'n blino'n lân neu'n mynd yn grac iawn. Yr angen hunanol yna i gael y ffôn, beth bynnag sy'n digwydd o'i gwmpas.

Mae'r defnydd yn tyfu, ac yna ti'n sylweddoli: "Mae'n anodd cael yr un ddadl bob dydd."

'Tebyg i ddibyniaeth'

Mae mor debyg i ddibyniaeth — yn araf, yn slei. Nid faint o oriau sy'n cyfrif, ond yr effaith. Maen nhw'n stopio mynd allan, maen nhw eisiau aros adref ar y sgrin. Maen tynnu nhw oddi wrth fywyd go iawn — y parc, y ffrindiau. Hyd yn oed pan maen nhw lawr y parc, mae'r ffôn gyda nhw. Maen nhw'n gaeth iddo.

Unwaith mae'r dopamin yn taro ac mae plentyn eisiau'r 'fix', y peth brawychus yw daw diwrnod pan nid yw hynny'n ddigon. Byddan nhw'n chwilio am fwy a mwy. A bydd rhai plant ddim yn cael cyfle — byddan nhw ar y llwybr i ddibyniaeth.

Dwi byth yn dymuno'r boen o fod yn gaeth i rywbeth ar neb — mae'n torri dy galon di fel rhiant.

Dwi'n gwybod pa mor beryglus yw'r dechnoleg yma. Mae pethau oedd unwaith yn ddiniwed yn gallu mynd yn rhy bell, yn enwedig gydag AI a phobl yn esgus bod yn rhywun arall.

Mae'r algorithmau'n gwybod yn union beth i'w ddangos. Mae'n fyd brawychus, ond mae'n fwy brawychus pan nad wyt ti'n gallu cadw dy blentyn yn ddiogel. Gyda phwy maen nhw'n siarad? Ydyn nhw wir yn bwy maen nhw'n dweud?

Ry'n ni fel rhieni'n trio llywio byd sydd wedi'i adeiladu o gwmpas dyfeisiau. Wrth gwrs mae'n gyfrifoldeb arnom ni, ond mae angen i ni sefyll gyda'n gilydd fel fod plant yn gallu cael bywyd normal.

Mae rhai ysgolion eisoes wedi cyflwyno dyfais i reoli ffonau symudol yng NghymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai ysgolion eisoes wedi cyflwyno dyfais i reoli ffonau symudol yng Nghymru

Mae Clare* o Sir Fynwy yn rhannu profiad ei theulu hi wedi i'w mab gael ei fwlio ar y cyfryngau cymdeithasol mewn ysgol sydd â pholisi dim ffonau. Dyma ei stori hi:

Mae fy mab yn 12 oed ac yn mynd i ysgol uwchradd sydd â pholisi 'dim ffonau' — ond fe oedd yr unig blentyn heb un.

Roedd gan y mwyafrif mawr o'r disgyblion eraill ffôn clyfar, ac roedd hyd yn oed athrawon weithiau'n gofyn i blant ddefnyddio eu ffonau ar gyfer gwaith cartref, gan ddweud pethau fel, "Tynnwch lun o hyn a gallwch ei orffen adref".

Cafodd fy mab ei fwlio am fod yn wahanol — y "plentyn rhyfedd" heb ffôn.

Ar ôl wythnosau o ddagrau a thorcalon, fe wnaethon ni ildio ac fe brynon ni ffôn clyfar ail law iddo. Roedd ei holl ffrindiau'n cyfathrebu drwy Snapchat, a phan ddywedon ni 'na' i hynny, roedd e'n torri ei galon, gan ddweud nad oedd yn gallu cysylltu â neb oherwydd "Dim ond rhieni sy'n defnyddio WhatsApp".

Delwedd anweddus

Felly o'r diwedd fe wnaethon ni ganiatáu Snapchat [rhaid i ddefnyddwyr fod yn 13 oed i ddefnyddio Snapchat ac nid yw'n caniatau rhai nodweddion ar gyfer defnyddwyr 13-15 oed], a dyna pryd wnaethon ni ddarganfod bod ffrind 12 oed wedi anfon delwedd anweddus o ferch ifanc ato. Doedden ni ddim yn gwybod ai rhywun o'r ysgol oedd hi hyd yn oed.

Felly eisteddon ni lawr gyda'n mab 12 oed i egluro'r goblygiadau cyfreithiol o gael delweddau fel yna ar ei ffôn. Mae wedi bod yn straen anferth, a dim ond y dechrau oedd hwnna.

Un o'r prif resymau i ni ddewis yr ysgol oedd y polisi dim ffonau, ond yn ymarferol, prin iawn mae hyn yn cael ei orfodi.

Dwi'n teimlo peth empathi gyda'r ysgol. Yn y pen draw, mae'n gyfrifoldeb ni'n rhannu ac mae'r diffyg diddordeb ymhlith y rhan fwyaf o rieni'n teimlo fel her anferth.

Roedden ni dan bwysau enfawr i roi ffôn i'n mab, ac ry' ni'n llym iawn gyda'r defnydd. Fel arfer mae'r ffôn i ffwrdd erbyn chwech o'r gloch, ac yn cael ei gadw yn ein stafell ni dros nos, fel bod ni'n gwybod nad yw'n cael ei dynnu i mewn i ddiwylliant Snapchat hwyr y nos.

Mae e wedi gadael y grŵp Snapchat mawr lle oedd e'n cael ei alw'n enwau ac wedi creu un bach gyda grŵp o ffrindiau agos.

Yn anffodus, mae Snapchat yn ymddangos fel y ffordd mae pobl ifanc yn hoffi cyfathrebu. Yn byw mewn ardal wledig, dwi wir eisiau i'm plant allu cadw mewn cysylltiad a bod yn rhan o'r byd digidol sy'n newid o hyd. Ond mae'n rhaid i hynny ddigwydd mewn ffyrdd iach ac addas i'w hoedran.

Y broblem yw ein bod ni'n wynebu cwmnïau anferth, pwerus, gyda phocedi dwfn. Mae'n gallu teimlo fel brwydr amhosibl. Ac eto, mae'r ateb yn eithaf syml: gwahardd ffonau clyfar tan fod plant yn 16 neu 18.

Mae'n anhygoel meddwl nad yw plant heddiw yn gallu gadael yr ysgol, dod adref, a bod yn saff.

*Nid dyma ei henw go iawn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig