Emma Pritchard: 'Nes i golli bob ffrind'

- Cyhoeddwyd
"Mae o jest yn neis i fod yn ran o grŵp."
Fel un sy' wedi profi unigrwydd yn ei bywyd, mae Emma Pritchard o Ynys Môn yn falch iawn i fod yn un o'r pedair sy'n trafod y grŵp Facebook Rhwydwaith Menywod Cymru ar fodcast newydd gan S4C.
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw mae Emma, sy'n ddylanwadwr yn gweithio'n bennaf ar TikTok, yn sôn am yr unigrwydd wnaeth hi brofi yn dilyn tor-priodas a pham fod sgwrsio ar y fodcast gyda'r grŵp wedi bod yn brofiad arbennig.
Er ei bod hi'n gweithio yn y byd ar-lein, doedd Emma heb glywed am Rwydwaith Menywod Cymru, sy'n gymuned ar-lein lle mae pynciau'n amrywio o harddwch i dor-perthynas, cyn cael ei gwahodd ar y fodcast gan S4C.
Meddai: "O'n i erioed wedi clywed amdano fo achos do'n i ddim ar Facebook. Dwi wedi ymuno rŵan – mae rhai o ffrindiau fi arno fo ers blynyddoedd. A dwi'n loveio fo.
"Mae'n reit refreshing cael grŵp Cymraeg, mae'n neis gweld pa mor gefnogol yw'r grŵp. Mae 'na un neu ddau o gwestiynau personol bob wythnos, pobl sy' isho cyngor a support."

Yn y fodcast mae 'na bedair o fenywod o wahanol ardaloedd o Gymru yn trafod pynciau sy' wedi codi ar y rhwydwaith.
Un o'r pynciau cyson hynny yw unigrwydd, rhywbeth mae Emma'n uniaethu gyda: "Mae'n torri calon fi ond mae lot o ferched unig yn y byd yma am resymau gwahanol – efallai bod nhw wedi cael divorce neu yn colli ffrindiau ond beth sy'n bwysig yw fod 'na bobl allan yna i bawb.
"Mae llwyth o ffyrdd o wneud ffrindiau. Gorfod ailddechrau wnes i."
Ysgariad
Yn dilyn tor-priodas mi wnaeth Emma golli nifer o ffrindiau, fel mae'n sôn: "Mi o'n i wedi priodi ac mae gen i ddau o blant.
"'Nes i fynd trwy divorce a gwahanu wrth fy ngrŵp. 'Nes i golli bob ffrind – am fod bywyd fi wedi newid a bod fi ddim yn ffitio. Do'n i ddim yn dallt pam.
"Mae'n beth cas. Dwi'n hollol deall fod bywyd yn newid a pobl yn mynd mewn directions gwahanol ond dwi'n teimlo hefyd yn y generation yma mae gormod o bobl yn cuttio pobl off heb explanation. Mae rili yn damaging i rywun.
"Dwi'n 37 ac yn edrych lot ifancach. Dwi'n meddwl pan wnes i wahanu efo fy ngŵr o'n i isho mynd allan a ail-fyw fy 20au. O'n i jyst isho'r period 'na o gael hwyl a ches i ddim cefnogaeth.
"Dwi'n sengl am y tro cyntaf mewn 10 mlynedd. Ges i agoriad llygad so 'nes i ddechrau cael diddordeb mawr mewn social media a thynnu lluniau a 'neud content.
"Oedd ffrindiau fi ddim yn dallt ac yn dweud mod i rhy wahanol. Ond mae pawb yn wahanol. I'r diwrnod yma dwi dal ddim yn dallt ond dwi wedi gwneud ffrindiau newydd."

Mae Emma'n teimlo fod y ffaith ei bod hi'n fam yn medru arwain at feirniadaeth hefyd: "Dwi'n gweld weithiau mae lle dwi'n dod o yn gallu bod yn judgemental ofnadwy oherwydd dwi yn fam.
"Dwi'n ifanc yn fy ffordd ond 'di o ddim yn 'neud fi'n fam ddrwg.
"Dwi'n teimlo bod bywyd fi ar social media a bod 'na lot o judgement.
"Dwi'n gwybod mod i'n hogan gyfeillgar ac mae 'na bobl allan 'na sy' am werthfawrogi fi fel person."
15,000 o ddilynwyr
Mae Emma'n disgrifio ei hun fel entrepreneur ac ar ôl gweithio ym maes addysg am gyfnod mi wnaeth hi droi'n ddylanwadwr: "Roedd gen i ddiddordeb mewn bod yn influencer so 'nes i gychwyn platfform TikTok ac mae wedi tyfu oherwydd mae gen i lot o ddilynwyr sy'n Gymreig.
"Mae rhai o TikToks fi yn y iaith Gymraeg wedi mynd yn feiral.
"Mae gen i lot o bobl o Gymru sy'n edrych i fyny i fi. Mae'r fodcast yn gyfle da i fi fel person i adeiladu proffil fy hun. Dwi wedi bod yn cael drysau yn agor."
Gan greu cynnwys ar-lein am ei ffordd o fyw, mae Emma'n gweithio i gwmnïau fel Shein a Boohoo yn hyrwyddo dillad y brandiau. Mae hefyd yn creu cynnwys teuluol gan fod gan ei dilynwyr ddiddordeb yn ei bywyd bob dydd.
Meddai: "Dwi'n gwerthu pethau ond mae pobl yn licio fi'n rhannu day to day life.
"Mae gen i followers mwy ifanc ond mae TikTok yn mynd yn fawr i fusnesau ac ati."

Criw fodcast Rhwydwaith Menywod Cymru
Gyda phenodau y fodcast yn amrywio o Sut i siafio'ch bwsh? i Bŵbs a Psychics, mae'r criw yn cael hwyl yn recordio yn ôl Emma: "'Da ni ddim yn stopio chwerthin, oedd bol fi'n brifo ar ôl yr un cyntaf.
"'Da ni gyd yn wahanol a weithiau 'da ni ddim yn deall ein gilydd ond mae o'n gweithio a 'da ni wedi closio.
"Mae'r genod yn ffantastig. Mae gen i feddwl y byd o nhw. Mae'n bwysig cofio pan 'da chi'n 'neud ffrindiau s'dim rhaid iddo fod yn bobl yr un oed."
Ac mae Emma'n siarad yn ddiflewyn-ar-dafod ar y fodcast, fel mae'n cydnabod: "Dwi ddim yn dal yn ôl – weithiau dwi'n anghofio fod camerâu 'na."
Mae hyn wedi arwain at ambell i sylw negyddol: "Roedd un neu ddau ar-lein 'di dweud mod i'n reit uchel a 'nath rhywun alw fi'n showoff. Dwi yn bersonoliaeth cryf.
"Dim ond mod i ddim yn offendio neb, mae'n rhaid i bawb gofio mae hawl gyda pawb i'w barn.
"'Da ni'n siarad a siarad. Y nod ydy dod â merched Cymraeg at ei gilydd i chwerthin a siarad am fywyd go iawn. Mae cymuned ar y grŵp."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 Ebrill
