Capten Cymru, Aaron Ramsey yn ymddeol o bêl-droed

Aaron Ramsey Cymru v Latvia 2023Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Ramsey 21 gôl mewn 86 gêm dros ei wlad ers ei ymddangosiad cyntaf yn 2008

  • Cyhoeddwyd

Mae capten Cymru, Aaron Ramsey wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o bêl-droed.

Bellach yn 35 oed, mae Ramsey wedi bod heb glwb ers iddo adael clwb Pumas UNAM ym Mecsico y llynedd.

Mae o'n ymddeol fel un o'r chwaraewyr gorau yn hanes Cymru, yn sgorio 21 gôl mewn 86 gêm.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd nad penderfyniad hawdd oedd ymddeol.

Dywedodd ei bod hi'n "fraint cael gwisgo crys Cymru a phrofi cymaint o adegau anhygoel ynddo".

Disgrifiad,

Gwyliwch rai o uchafbwyntiau gyrfa Aaron Ramsey

Chwaraeodd ran hollbwysig wrth i Gymru gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016, yn cael ei enwi yn nhîm y twrnamaint gan UEFA.

Aeth yn ei flaen i chwarae yn Euro 2020 ac yng Nghwpan y Byd 2022, y tro cyntaf i Gymru chwarae yn y gystadleuaeth honno ers 1958.

Yn ôl Ramsey "ni fyddai wedi bod yn bosibl heb fewnbwn anhygoel yr holl reolwyr dwi wedi chwarae o danynt a'r holl staff sydd wedi fy helpu mewn sawl ffordd".

"I'r Wal Goch. Rydych chi wedi bod yno'r holl amser!

"Rydych chi wedi bod yno trwy'r uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau ac rydych chi wedi bod yn rhan hanfodol o'n llwyddiant ni. Allaf i ddim diolch digon i chi."

'Anrhydedd eich cynrychioli'

"Rydym wedi mynd trwy bopeth gyda'n gilydd ac mae wedi bod yn anrhydedd eich cynrychioli chi. Diolch," meddai Ramsey.

"Yn ail, diolch i'r holl glybiau rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae iddyn nhw.

"Diolch i'r holl reolwyr a staff sydd wedi fy helpu i allu byw fy mreuddwyd a chwarae ar y lefel uchaf.

"A diolch yn fawr iawn i'm gwraig a'm plant a'm holl deulu. Hebddoch chi wrth fy ochr drwyddi draw, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl."

Disgrifiad,

Yn ôl Ian Gwyn Hughes mae Ramsey yn "un o'r to aur" o chwaraewyr Cymreig

Yn siarad ar raglen Dros Ginio ddydd Mawrth, dywedodd Ian Gwyn Hughes, pennaeth cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, nad oedd y cyhoeddiad yn annisgwyl.

"Dwi 'di gwybod ers tipyn - mater o amseru oedd o, oedd o am 'neud cyn y ddwy gêm ddiwetha' neu adael o tan ar ôl hynny.

"Mae o 'di cyfrannu cymaint ac mae o'n bwysig fod bobl yn cofio hynny. Mae ei gyfraniad o wedi bod yn aruthrol ac oedd o'n un o'r to aur yna o 2016."

'Diymhongar iawn'

"Oedd o'n rhan o dîm y gystadleuaeth yna [Euro 2016] - fo a Joe Allen ymysg yr 11 gorau a gafodd eu dewis gan UEFA," ychwanegodd.

"O ran ei bresenoldeb a'r person ydy o, mae o'n ddiymhongar iawn ac mae o 'di bod fel yna erioed."

Dywedodd Mr Hughes fod Ramsey bob amser wedi disgleirio ac wedi bod yn llysgennad gwych i Gymru fel gwlad - ar y cae ac oddi arno.

Mae'r ffaith fod Ramsey wedi cael gyrfa mor ddisglair, er gwaethaf ei anafiadau niferus "yn d'eud llawer am ei gymeriad o'n gorfforol ac yn feddyliol", ychwanegodd.

RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth i chwarae yn Yr Eidal, gyda Juventus, ar un cyfnod

Yn chwaraewr canol cae creadigol gyda llygad am gôl, fe ddechreuodd ei yrfa gyda Chaerdydd cyn symud i Arsenal yn 2008 gan ennill Cwpan yr FA ar dri achlysur.

Ar ôl gadael Arsenal mi gafodd gyfnodau gyda Juventus yn Yr Eidal a Nice yn Ffrainc, cyn dychwelyd i Gaerdydd.

Mi gafodd ei benodi'n rheolwr dros dro yr Adar Gleision am gyfnod byr ddiwedd y tymor diwethaf.

Fe ymunodd â Pumas UNAM ym mhrif adran Mecsico er mwyn parhau i chwarae ar lefel uchel yn y gobaith o chwarae dros Gymru yng Nghwpan y Byd eleni.

Ond dydy Ramsey ddim wedi llwyddo i ddod o hyd i glwb newydd ar ôl gadael Mecsico llynedd ar ôl i'w gi Halo fynd ar goll, ac mae o wedi penderfynu dod â'i yrfa fel chwaraewr i ben.

Osian RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe welodd Osian Roberts y potensial oedd gan Ramsey yn gynnar iawn yn ei yrfa

Roedd yn amlwg bod Ramsey yn "chwaraewr sbesial iawn" o'r cychwyn, yn ôl Osian Roberts - aelod o dîm hyfforddi Cymru a welodd Ramsey'n dod i mewn i garfan ieuenctid yn 14 oed - "blwyddyn yn fengach na'r gweddill".

"Ers hynny, bob tro 'oeddwn i'n rheoli'r tîm roeddan ni'n dangos fideos o Ramsey yn taclo, yn amddiffyn, yn ymosod, yn sgorio goliau, yn creu goliau, a'r chwaraewr canol cae gorau oedd ganddon ni yn esiampl i unrhyw chwaraewr ifanc oedd isio chwarae i Gymru yn y dyfodol."

Er ei fod wedi cael anafiadau a gafodd effaith fawr, dywedodd Roberts bod y talent, y cymeriad a'r personoliaeth gan Ramsey ers y cychwyn cyntaf.

"Ges i'r profiad, y pleser a'r wefr o'i wylio fo'n gneud hynny yn aml iawn."

Ac felly beth nesaf i un o oreuon Cymru?

Mae gan Ramsey "ddiddordeb mawr mewn cario 'mlaen ei yrfa a'r bennod newydd fel hyfforddwr neu reolwr", meddai Roberts.

"Yn swyddogol wrth gwrs, da ni'n gwybod fod ei yrfa fel chwaraewr wedi dod i ben, ond dwi'n meddwl yn ei feddwl o mae ei yrfa o fel hyfforddwr a rheolwr yn barod wedi cychwyn ac mi fydd o'n edrych 'mlaen i 'neud hynny mor fuan ag sy'n bosib."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.