TwmpDaith yn codi twmpath ar strydoedd Colombia

Cafodd aelodau Twmpdaith groeso cynnes mewn ysgol leol a wedi creu posteri Cymraeg gyda'r ddraig goch i'w cyfarchFfynhonnell y llun, Esyllt Davies
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd aelodau TwmpDaith groeso cynnes mewn ysgol leol yn Colombia sydd wedi creu posteri Cymraeg gyda'r ddraig goch i'w cyfarch

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae pobl Colombia wedi bod yn cymryd rhan mewn twmpathau gwerin Cymreig yn ystod pythefnos olaf Awst, a hynny ar ôl ymweliad gan griw TwmpDaith.

Roedd criw TwmpDaith, sydd eisoes wedi bod yn teithio Cymru dros fisoedd yr haf yn cynnal twmpathau dawns mewn neuaddau ac mewn gwyliau, i fod i berfformio yng ngŵyl AmericaDanza yn ninas Popayán.

Ond ar ôl i'r wlad gael ei tharo gan y ddaeargryn fwyaf ers rhai blynyddoedd ar 10 Awst, gohirwyd yr ŵyl dan orchymyn y llywodraeth.

A hithau wedi bod yn gyfnod anodd i bobl Colombia, mae criw TwpmDaith 2026, sy'n cynnwys naw o bobl ifanc rhwng 16-25 oed yn ogystal â cherddorion a dawnswyr fel Gwilym Bowen Rhys a Tudur Phillips, wedi bod yn codi gwên ar y strydoedd ac mewn ysgolion trwy ddawns a chân.

Rhai o ferched Twmpdaith yn gwneud dawns y baneri ar strydoedd tref Timbio gan gynnwys Cadi Glwys, Mirain Owen, Jrin Jones, Nel Thomas, Siwan Williams a Lleucu ParryFfynhonnell y llun, Esyllt Davies
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o ferched TwmpDaith yn gwneud dawns y baneri ar strydoedd tref Timbio gan gynnwys Cadi Glwys, Mirain Owen, Erin Jones, Nel Thomas, Siwan Williams a Lleucu Parry

Un o griw TwmpDaith sydd yn Colombia ar hyn o bryd yw Nel Angharad Thomas o'r Bala.

Mae Nel yn 19 oed ac yn chwarae gitâr fas, gitâr ac yn dawnsio gwerin a chlocsio fel aelod o TwmpDaith.

Er mai cerddoriaeth werin a thraddodiadol sy'n cael ei chwarae gan Twmpdaith, mae'r holl gerddorion yn dod o gefndiroedd cerddorol amrywiol, ac mae'n gyfle i arbrofi ag arddulliau a rhoi tro newydd ar hen draddodiad.

Mae Nel hefyd yn aelod o fand yr artist Buddug, ac mae'n dweud ei bod wedi cael haf "bythgofiadwy" yn codi twmpathau ymhob cornel o Gymru.

Mae TwmpDaith yn cael ei ariannu gan y Cyngor Celfyddydau ac mae'n un o is-brosiectau Wyth sy'n hyrwyddo dawnsio gwerin a chlocsio yng Nghymru.

Yma mae hi'n rhannu rhai o'i huchafbwyntiau a'i hoff luniau o Colombia, cyn i griw TwmpDaith 2026 ddychwelyd adref i Gymru ar 1 Medi:

Profiadau Nel yn Colombia

GanNel Angharad Thomas
TwmpDaith

O ddysgu sut i wneud empanadas gydag 'Abuelas' (sy'n golygu neiniau yn Colombia) i deithio mewn chiva sef hen fws traddodiadol wedi ei beintio yn lliwgar ac sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio gan ffermwyr i gludo cynnyrch i'r trefi – rydan ni wedi cael blas go iawn ar ddiwylliant Colombia.

Siwan Williams yn dawnsio gydag aelod o grŵp dawns leolFfynhonnell y llun, Esyllt Davies
Disgrifiad o’r llun,

Siwan Williams yn dawnsio gydag aelod o grŵp dawns leol

Ddydd Sadwrn diwethaf aethom i bentref cyfagos Timbio i berfformio a rhannu dawnsfeydd gyda'r grwpiau yno.

Ers hynny rydym wedi bod yn rhannu dawnsfeydd a thwmpath gyda'r grŵp dawns yma yn Popayán sef Nuestra Tierra.

Disgyblion ysgol yn dawnsio i ddawns twmpathFfynhonnell y llun, Esyllt Davies
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion ysgol yn dawnsio i ddawns twmpath

Ac yn ystod ein hamser yn Popayán rydyn ni wedi bod yn cynnal gweithdai, twmpathau a pherfformiadau o amgylch y ddinas a chael ymateb gwych.

Mae pobl yn dod aton ni a maen nhw wir yn gwerthfawrogi ein perfformiadau yma – maen nhw wrth eu bodd â dawnsio gwerin Cymreig!

Lea Roberts, Erin Jones a Siwan Williams yn gwneud dawns 'Jac y Do' gyda grŵp dawns PopayànFfynhonnell y llun, Esyllt Davies
Disgrifiad o’r llun,

Lea Roberts, Erin Jones a Siwan Williams yn gwneud dawns 'Jac y Do' gyda grŵp dawns Popayàn

'Dan ni wedi bod yn dangos clocsio, dawnsio gwerin a chanu iddyn nhw.

Rydan ni hefyd wedi cael cyfle i brofi chydig o'u diwylliant dawns nhw a chyfnewid perfformiadau gyda grŵp dawns lleol yma.

O'r chwith: Erin Jones, Gwilym Thomas, Tudur Philips a Lleucu Parry yn perfformio ar y stryd yn nhref TimbioFfynhonnell y llun, Esyllt Davies
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith: Erin Jones, Gwilym Thomas, Tudur Philips a Lleucu Parry yn perfformio ar y stryd yn nhref Timbio

Rydan ni'n ffodus iawn ein bod ni wedi cael croeso cynnes, a phawb yn garedig iawn – a rydan ni'n ddiolchgar iawn o gael bod yma hefyd.

Cyn hedfan adref dwi'n edrych ymlaen at ragor o dwmpathau gan gynnwys mewn ysgol anghenion arbennig, ysgolion gyda nifer bychan o blant, a chynnal mwy o dwmpathau cyhoeddus gan gynnwys yn y ganolfan siopa.

Mae'n hyfryd profi diwylliant Colombia a rhoi blas iddyn nhw ar ddiwylliant Cymreig.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: