Ar y Cae: Sioe gerdd am gariad cwiyr sydd 'ddim yn tragic!'

Byddia Lewis a Lili MohammadFfynhonnell y llun, R.E.Dixon Photography
Disgrifiad o’r llun,

Byddia Lewis a Lili Mohammad

GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Actio mewn sioeau cerdd yw'r freuddwyd i Byddia Lewis o Abertawe, ac mae hi newydd gael blas o beth all fod o'i blaen mewn sioe a gafodd ei pherfformio yn Eisteddfod y Garreg Las.

Cafodd tair golygfa a thair cân o'r sioe newydd sbon Ar y Cae eu harddangos ym mhabell Mas ar y Maes yn y Brifwyl. A'r gobaith nawr yw y bydd cyfle i ddatblygu mwy ar y sioe.

Dathlu pobl cwiyr

Mae Byddia yn chwarae'r cymeriad Non, pêl-droedwraig sy'n dechrau ar berthynas â Jade, sy'n cael ei hactio gan Lili Mohammad. Mae'r sioe yn dilyn datblygiad eu perthynas, a'r holl gymhlethdodau sy'n dod yn sgil bod mewn cariad â rhywun o fyd gwahanol.

Wedi ei hysgrifennu gan Nia Morais, y caneuon gan Leila Navabi ac wedi ei chyfarwyddo gan Juliette Manon, mae holl dîm creadigol Ar y Cae yn rhan o'r gymuned LHDTC+, ac am actorion cwiyr oedden nhw'n edrych pan oedden nhw'n castio'r ddau brif gymeriad.

Roedd hyn yn gyfle gwerthfawr i Byddia, eglura:

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n rili pwysig i gael pobl sy'n cwiyr i wneud storïau fel yma, i gael rhywun sy'n deall yn hollol beth yw'r profiadau i gyd. Ac fel actor cwiyr oedd hi'n rili pwysig i gael y cyfle i wneud rhywbeth fel yma fy hun.

"O'n i'n rili edrych 'mlaen i fod yn rhan o brosiect sy'n dathlu pobl cwiyr. Dwi'n teimlo mewn lot o media cwiyr ar hyn o bryd, mae rhywbeth tragic yn mynd ymlaen drwy'r amser... pryd allwn ni fod yn hapus?!

"O'dd e mor cŵl i gael rhywbeth hapus i ddathlu yn lle rhywbeth Romeo & Juliet-type vibe!"

Byddia LewisFfynhonnell y llun, yellowbellyphoto
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Abertawe, astudiodd Byddia yn y Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd

Mwynhaodd Byddia chwarae cymeriad sydd mor sicr o'i hun a'i rhywioldeb, meddai. Daeth yr actores ifanc â'i hyder yn ei hunaniaeth ei hun i mewn i'w phortread o Non – er nad yw'r hunan-hyder wastad wedi bod yno.

"Mae'r cymeriad mor hapus yn ei hun, does dim cwestiynau, dim angen label. Eitha' gwahanol i profiad fi; o'n i heb sylweddoli mod i'n cwiyr nes blwyddyn dau yn y brifysgol, felly mae'n eitha' ffres i fi os dwi'n onest.

"O'dd e'n neis jwmpio mewn i gymeriad oedd mor sicr yn ei hun, yn enwedig nawr mod i mor hapus lle dwi yn ar fy nhaith i, ar ôl bod mor ansicr am rhan fwyaf o 'mywyd i."

Heriol ond hwyl

Sgerbwd sioe sy'n bodoli ar hyn o bryd. Cafodd y tîm wythnos o gyfnod datblygu gyda'i gilydd, cyn y perfformiad cyhoeddus cyntaf yn ystod wythnos yr Eisteddfod a oedd yn cynnig cipolwg ar gamau cyntaf y sioe.

Er nad oedd hyn yn amser hir iawn, roedd Byddia wedi mwynhau'r broses o gydweithio gyda'r criw er mwyn rhoi'r sioe at ei gilydd.

"O'dd e'n rili hwyl; o'dd e'n heriol, ond yn her rili rewarding.

"O'dd y tîm creadigol yn dod â be' maen nhw 'di sgwennu mewn a wedyn ni jest yn chwarae o gwmpas gyda fe a gweld beth fyddai'n gweithio, newid pethau a chael nodiadau.

(cefn, o'r chwith) Juliette Non, Nia Morais, Leila Navabi, (blaen, o'r chwith) Byddia Lewis, Lili MohammadFfynhonnell y llun, R.E.Dixon Photography
Disgrifiad o’r llun,

Criw At y Cae: (cefn, o'r chwith) Juliette Non, Nia Morais, Leila Navabi, (blaen, o'r chwith) Byddia Lewis, Lili Mohammad

"Roedd yr wythnos yn awesome, achos roedd pethau'n newid drwy'r wythnos; dwi'n ffeindio hynny'n gyffrous.

"Roedd y sgript yn cael ei newid lan at y diwedd. O'dd e'n rili neis i weld Nia a Leila yn gweithio gyda'i gilydd yn y stafell – mae hwnna'n rhywbeth dwi byth wedi gweld achos dwi mwy ar yr ochr actio.

"Ddiwedd yr wythnos, 'naethon ni sioe, a'r adborth gaethon ni oedd 'naethoch chi hyn mewn pedwar diwrnod?!' Roedd yn neis i gael mis bant i ddysgu popeth, wedyn pan ddaethon ni nôl at ein gilydd, oedden ni'n gallu tacluso pethau, ac o'dd y perfformiad yn y Steddfod mor ffres."

Byddia a Lili ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Celf Calon
Disgrifiad o’r llun,

Cymeradwyaeth i Byddia a Lili ar ddiwedd y perfformiad ym mhabell Mas ar y Maes ar 7 Awst

Cynhyrchiad cwiyr Cymraeg yn bwysig

Cafodd y criw adborth gwych gan y gynulleidfa am eu perfformiad o Ar y Cae, a'r gobaith nawr yw bod modd ei datblygu'n sioe gyflawn, gyda mwy o gymeriadau ac ensemble.

Byddai Byddia wrth ei bodd yn cael perfformio wythnos lawn yn yr Eisteddfod, meddai, a chael teithio gyda'r sioe rhyw ddydd. Mae hi'n teimlo fod cael cynhyrchiad o'r fath yn Gymraeg yn bwysig iawn.

"Y dyddiau yma, mae lot mwy o storïau cwiyr o gwmpas, sy'n neis, ond does dim lot o storïau fel yna yn Gymraeg; dyna oedd un o'r rhesymau pam mod i eisiau gwneud prosiect fel 'ma, achos dwi'n credu ei fod e mor bwysig i roi cynrychiolaeth o bobl cwiyr Cymraeg.

"Dwi'n gobeithio fod Ar y Cae yn ddechreuad mwy o bethau cwiyr yn y cyfryngau a'r theatr gyda'r Steddfod, a dwi'n gobeithio fydd e'n ysbrydoli pobl i wneud mwy o bethau fel yna i'r gymuned yn y Gymraeg."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.