Dic Ben yn cofio Steddfod y Furries 1996

Super Furry Animals ar Faes yr Eisteddfod yn eu tanc yn 1996Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tanc sain y Furries ar Faes yr Eisteddfod 1996. Roedd y tanc wedi ei addurno gydag enw'r band, teitl un o'u caneuon, If You Don't Want Me to Destroy You ac ar y blaen, 'A Oes Heddwch?'

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wrth i'r Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi y bydd y Super Furry Animals yn perfformio yno am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd, un o ffrindiau'r band sy'n cofio nôl i'r Steddfod honno yn 1996 pan oedd y band newydd ffrwydro ar y sîn.

Mae rhai Eisteddfodau yn gofiadwy am reswm penodol: Dwbl Dwbl Alan Llwyd yn Aberteifi 1976, mwd Abergwaun 1986, Pafiliwn Pinc Abertawe 2006.

Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo 1996 oedd Steddfod y Super Furry Animals.

Dri mis ers denu sylw gyda'u halbwm cyntaf ac ychydig wythnosau ers eu hymddangosiad cyntaf ar Top of the Pops, roedd y Super Furries ar eu ffordd i Landeilo, a hynny mewn tanc glas ac yng nghanol ffrae am yr iaith.

Roedd y band, oedd wedi rhyddhau ambell i sengl ac EP, wedi chwarae yn Eisteddfod Bro Conwy yn Abergele'r flwyddyn flaenorol.

Ond yn y 12 mis ers hynny roedden nhw wedi cael eu harwyddo gan Creation Records a rhyddhau eu halbwm Fuzzy Logic. Roedden nhw hefyd wedi prynu hen danc milwrol, gosod system sain ynddi a pheintio slogannau arni, gan gynnwys cri'r Orsedd: 'A Oes Heddwch?'.

Super Furry Animals gyda poteli gwinFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dic Ben, yn y cefn, yn ystod recordio albwm Fuzzy Logic gyda (chwith i'r dde) Guto Pryce, Dewi Emlyn, Dafydd Ieuan a Gruff Rhys

Drideg mlynedd yn ddiweddarach, un sy'n cofio'r Steddfod yn iawn ydi ffrind y band, Dic Ben, o Fethesda.

"Doedda nhw 'rioed 'di cael pres cyn hynny wedyn gafon nhw advance gan Creation oedd yn reit hael a 'nath nhw deud 'nawn ni brynu tanc'," meddai wrth Cymru Fyw.

"Sherman Tank oedd o dwi'n meddwl ac roedda nhw'n gorfod cario fo i'r Steddfod a festivals eraill ar gefn lori. Roedda nhw'n d'eud bod nhw'n gorfod dreifio fo ar hyd caeau achos doedda nhw ddim yn cael dreifio fo ar hyd lonydd, nath droi'n 'chydig o urban myth.

"Dwi'n gwybod nath Don Henley o'r Eagles brynu fo ganddyn nhw yn y diwedd. Dwi'm yn meddwl bod o 'di clywed am y band ond mae o'n hel stwff milwrol."

Felly ganol wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, roedd tanc ar y Maes yn chwarae cerddoriaeth techno a chynnwrf bod y band yn chwarae.

Ond sgiliau diplomyddol nid milwrol oedd ei angen ar y grŵp ar y pryd gan eu bod yng nghanol ffrae am yr iaith. Roedd y Furries a bandiau eraill fel Catatonia a Gorky's Zygotic Mynci wedi cael eu beirniadu am ganu yn Saesneg, oedd yn bwnc llosg ar y pryd.

Gyda'r band yn chwarae yn y babell roc ar y Maes, roedd y trefnwyr yn bryderus y byddai rheol iaith yr Eisteddfod yn cael ei thorri.

Gruff Rhys yn chwibanu
Disgrifiad o’r llun,

Gruff Rhys yn y gig yn ystod y dydd ar y Maes yn chwibanu yn lle canu'n Saesneg

Ond yn lle canu eu traciau Saesneg, fe wnaeth Gruff Rhys chwibanu'r alawon. Wnaeth y band hefyd roi taflen i'r dorf gyda'r geiriau arnyn nhw mewn dwy iaith wahanol rhag ofn eu bod eisiau canu.

"Wnaeth nhw gael y dorf i ganu yn Saesneg a Japanese," meddai Dic. "Dwi'm yn gwybod pam Japanese - ond ti byth yn gwybod pam efo'r Furries. Ma'n siŵr wnaeth un gael syniad ac wedyn ei roi o lawr ar bapur."

Taflen cymanfa ganu
Disgrifiad o’r llun,

Taflen 'Cymanfa Ganu gyda'r Anifeiliaid Blewog Anhygoel' yn y gig ar Faes yr Eisteddfod, gyda geiriau'r caneuon yn Saesneg a Japanaeg

Gyda'r nos roedd y grŵp yn chwarae gig yng Nghlwb y Gwernllwyn, Cross Hands, wedi ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith. Yno fe wnaethon nhw chwarae eu set arferol gan nad oedd y rheol iaith yn berthnasol.

Fel ymateb i'r feirniadaeth am ganu'n Saesneg fe wnaeth y Furries ryddhau sengl 7" (Nid) Hon yw'r Gân sy'n Mynd i Achub yr Iaith.

"Roedda nhw'n rhoi'r single allan i'r gynulleidfa yn y gig am ddim," meddai Dic Ben. "Mond 500 copi oedd yn bodoli ond roedd y lle'n dal tua 700 dwi'n meddwl felly doedd pawb methu cael un.

"Diwrnod wedyn roedda nhw'n gorfod gadael y Steddfod efo'r tanc achos roedda nhw'n chwarae yn Reading neu ryw festival arall."

Finyl SFAFfynhonnell y llun, Island/Ankst/Creation/SFA
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r 500 o senglau gafodd eu rhoi am ddim i'r dorf yn gig y Furries yn Eisteddfod Llandeilo 1996

Mae Dic Ben, oedd yn arfer rhannu tŷ efo'r drymiwr Dafydd Ieuan a phrif leisydd gwreiddiol yr SFA, yr actor Rhys Ifans ar ddechrau'r 90au, yn cofio rhoi anrheg i'r band yn Eisteddfod 96.

Roedd o a'i wraig wedi bod yn aros yn Sir Benfro am 'chydig o ddyddiau cyn mynd draw i Landeilo - a chyfarfod Meic Stevens mewn tafarn.

Roedd y cerddor o Solfach wedi clywed bod yr SFA yn chwarae Y Brawd Houdini mewn gigs. Felly fe ysgrifennodd eiriau fersiwn wreiddiol o'i gân ar gefn amlen - y geiriau Saesneg cyn iddyn nhw gael eu cyfieithu gan Geraint Jarman - a gofyn i Dic Ben eu rhoi i'r band.

Dic Ben gyda'r Super Furries yn y cefndirFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Hunlun Dic Ben gyda'r Furries yn ystod saib yn eu hymarferion diweddar

Bydd Dic Ben yn ei ôl ym Mhenfro fis Awst yma i wylio'r Furries yn Eisteddfod y Garreg Las - dyma fydd y pumed tro iddo'u gweld yn ystod eu taith eleni, sy'n dechrau fis Mai.

Mae o'n gwybod am yr aduniad ers tro ac yn ddiweddar wedi gweld y band yn ymarfer, gan gynnwys nifer o ganeuon Cymraeg fydd yn cael eu chwarae am y tro cyntaf ers blynyddoedd yn eu perfformiad ar Lwyfan y Maes.

"Dydyn nhw heb chwarae rhai o'r caneuon ers blynyddoedd ac felly mae nhw 'di bod yn sbïo ar YouTube i drio'u dysgu nhw eto," meddai.

Ond un peth sydd ddim ar y we, yn anffodus, ydi fideo archif Eisteddfod Llandeilo wnaeth Dic Ben ei saethu yn 1996. Mae'n dweud iddo roi'r tapiau i gael eu defnyddio fel rhan o elfen weledol yn gigs y Furries yn ystod y cyfnod - ond eu bod wedi mynd ar goll.

"Neshi recordio Super8 footage o'r tanc - tu fewn a bob dim - i gyd ar ffilm," meddai. "Felly mae 'na footage o'r cyfnod yn rwla, ac os 'di o'n troi fyny'n rwla dwi'n gwybod na fi bia'r hawlfraint!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.