Cyhuddo dyn 31 oed ar ôl i dacsi gael ei yrru ar ochr anghywir yr A55

Disgrifiad,

Roedd fideos ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos tacsi wedi ei stopio gan yr heddlu ar yr A55

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo o sawl trosedd ar ôl i'r heddlu stopio tacsi a oedd yn teithio ar ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod Darragh O'Grady, 31, wedi'i gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, cymryd cerbyd heb ganiatâd, "a throseddau gyrru eraill".

Ychwanegon nhw nad oes cyfeiriad sefydlog ganddo, ond ei fod yn dod o Iwerddon yn wreiddiol.

Mae Mr O'Grady hefyd wedi cael ei gyhuddo o "ladrad a thwyll drwy gamgynrychiolaeth".

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael gwybod bod tacsi wedi cael ei ddwyn yng Nghaergybi am 19:30 nos Lun.

"Yn fuan wedyn, bu'r tacsi mewn gwrthdrawiad â seiclwr ar Ffordd Llundain," meddai'r llu.

"Yna aeth y tacsi ar yr A55 tua'r gorllewin gan deithio i'r cyfeiriad anghywir."

Cafodd y tacsi ei stopio ar yr A55 tua'r gorllewin rhwng Rhosneigr a Rhostrehewfa am 19:55 ac fe gafodd Mr O'Grady ei arestio.

Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa ers hynny ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau.

Ychwanegodd yr heddlu fod yr ymchwiliad yn parhau ac maen nhw'n "annog pobl i beidio â dyfalu ynghylch manylion y digwyddiad na'r cymhellion y tu ôl iddo".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig