Rex Hayes : 'Ni angen Ted Lasso yn y byd heddiw'

Rex HayesFfynhonnell y llun, Getty Images
GanAngharad Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor o Gaerdydd Rex Hayes yn dweud fod eu sgiliau pêl-droed wedi eu helpu i gael rhan yn y gyfres deledu boblogaidd Ted Lasso sy'n dilyn hanes Americanwr sy'n cael ei benodi i reoli clwb pêl-droed yn Llundain.

Mae Rex yn dweud eu bod nhw'n gyffrous iawn i weld y gyfres ddiweddara' o'r comedi sydd ar y sgrin erbyn hyn gyda'r sylw yn troi at dîm merched AFC Richmond, y Lady Greyhounds: "'Ryn ni lan i episode tri ar hyn o bryd. So mae e 'di bod yn lysh gweld pawb yn y byd yn gwylio fe o'r diwedd."

Mae'r bedwaredd gyfres o'r comedi wedi torri record gwylio Apple TV+ gyda mwy na 296.6 miliwn o funudau o'r comedi yn cael eu gwylio yn yr Unol Daleithiau rhwng Awst 4 a 5 eleni.

Bu Rex yn y premiere yn Efrog Newydd ac mae'n sôn ar Dros Frecwast ar Radio Cymru am y profiad o fod mewn gyfres mor fawr: "O'n i'n gwybod cyn cychwyn fod hi'n gyfres fawr achos o'n i'n ffan o'r sioe.

"Oedd mynd i America ar gyfer y premiere cwpl o wythnosau yn ôl rili 'di dangos i fi pa mor fawr yw e, yn enwedig draw fan'na. Dwi'n trio peidio meddwl amdano fe!

"Ond dwi 'di joio mynd dros y môr a chwrdd â phobl draw fan'na. So gobeithio bod pobl fan hyn yn joio fe hefyd."

Rex gyda chast Ted LassoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rex gyda chast Ted Lasso yn lansiad y bedwaredd gyfres

Gyda nifer o gyfresi ar Apple TV+ a Netflix yn cael eu canslo yn dilyn y gyfres gyntaf neu'r ail, mae'n amlwg fod Ted Lasso wedi bod yn lwyddiant mawr.

Yn ôl Rex: "Mae Apple yn rili da gyda creu cyfresi sydd yn neud yn dda ac yn ddiddorol a mae pobl eisiau dod nôl.

"Ond mae Ted Lasso ei hun, fi'n credu, yn eitha' unigryw, yn pa mor dda a pa mor exciting a hapus yw'r sioe. A ni angen hwnna yn y byd heddiw, fi'n credu. So dyna pam mae pobl yn teimlo'r angen i Ted ddod nôl. Dwi'n falch bod e wedi.

"Mae pawb yn synnu am pa mor garedig a hapus yw'r Americanwr yma [cymeriad Ted Lasso]. A dyna yw pwynt y sioe. A wedyn mae fe'n helpu pawb arall i drio dysgu i edrych ar eu hunain a newid mewn ffordd mor garedig a thyner."

Mae Rex yn ymuno â chast adnabyddus sy'n cynnwys Hannah Waddingham, Brett Goldstein a seren y sioe Jason Sudeikis. Mae'n chwarae rhan Siobhan, sy'n efaill i Niamh (Aisling Sharkey), ac mae gelyniaeth y ddwy chwaer weithiau yn cyrraedd y cae pêl-droed.

Meddai Rex am y cymeriad: "Pan chi'n cwrdd â Siobhan, mae hi yn passionate. Mae hi'n aggressive. Mae hi'n eitha confused, fi'n credu.

"Mae hi a twin hi, Niamh, sy'n cael ei chwarae gan Aisling Sharkey, yn dod o Iwerddon ac mae ganddyn nhw lot i brofi. Felly mae Ted yn dod mewn ac yn helpu nhw i harnesu y passion i chwarae'n well ar y pitch ac i fod yn teammates gwell hefyd."

Rex gyda Aisling SharkeyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rex gyda Aisling Sharkey sy'n chwarae rhan ei gefaill

Roedd y clyweliadau i gael y rhan yn heriol ond mi oedd gan Rex un sgil defnyddiol, fel mae'n sôn: "Oedd rhaid i fi ddanfon fideo o skills pêl-droed fi i mewn i'r casting directors. Felly oedd hwnna'n rhan ohono fe.

"Oedd angen i fi neud cwpwl o acenion hefyd i gychwyn. Nes i neud acen fy hunan, Cymraeg Caerdydd, acen Gwyddelig ac wedyn acen yr Alban hefyd. So dyna oedd y rownd cyntaf.

"Ac wedyn 'nathon nhw benderfynu bod nhw moyn acen Gwyddelig, so cario ymlaen efo hwnna. A wedyn ges i alwad chwech wythnos ar ôl hwnna i ddweud bod fi 'di cael y job. So oedd e'n broses eitha unigryw ond o'n i'n falch iawn o glywed bod fi 'di cael y rhan.

"Dwi 'di bod yn chwarae pêl-droed ers o'n i'n fach. Dim ond fi a Dad oedd yn chwarae pan o'n i'n ifanc achos oedd dim tîm i fi pan o'n i'n tyfu lan. Felly aethon ni i Barc y Waun a chicio'r bêl o gwmpas.

"Ac wedyn pan symudais i Lundain bron deg mlynedd yn ôl nawr, nes i ymuno â tîm o'r enw Victoria Park Vixens.

"Ac o'n i'n chwarae efo nhw bob dydd Sul a nosweithiau Mercher yn ystod yr wythnos a wedyn wnaethon nhw ddod yn ffrindiau clos iawn ac oedd e'n ffordd o chwarae eto a hefyd creu cymuned fan hyn yn Llundain.

"Ond dwi 'di bod yn chwarae am rhan fwyaf o 'mywyd i. Felly o'dd y siawns i gael chwarae chwaraewr pêl-droed proffesiynol fel mod i'n gallu byw allan breuddwyd pan o'n i'n fach."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig