Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Rhifau, dyddiadau ac amser’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Numbers, dates and time’.
Fy enw i ydy Maleia. Dw i’n naw oed. Dw i’n teimlo’n hapus achos dw i wedi bod yn nofio. Dw i’n nofio yn y ganolfan hamdden bob dydd cyn mynd i’r ysgol.
Dw i’n codi am chwech o’r gloch yn y bore a dw i’n cyrraedd y pwll nofio am saith o’r gloch. Dw i’n codi’n gynnar achos mae’r ysgol yn dechrau am chwarter i naw. Dw i ddim eisiau bod yn hwyr i’r ysgol!
Dw i’n gwybod bod un deg dau mis mewn blwyddyn. Dw i’n gwybod bod saith diwrnod mewn wythnos. A dwi’n gwybod bod dau ddeg pedwar awr mewn diwrnod. Ond dw i ddim yn dda am gofio dyddiadau. Dyna pam mae Mam wedi rhoi calendr i fi.
Dw i’n defnyddio’r calendr i gofio dyddiadau pwysig. Dw i’n defnyddio sticer gwyrdd i gofio pen-blwyddi.
Mis Tachwedd. Pen-blwydd Mam. Bydd hi’n bedwar deg pump oed.
Mis Gorffennaf. Pen-blwydd Tad-cu. Bydd e’n saith deg oed.
Dw i’n defnyddio sticer coch i gofio pryd mae gwyliau ysgol. A dw i’n defnyddio seren aur i gofio pethau pwysig, fel dyddiad y gystadleuaeth nofio. Dw i wedi bod yn ymarfer bob dydd ers mis Medi. Dw i wedi bod yn ymarfer yn galed ers pum mis. Nawr, dim ond wythnos sydd i fynd tan y gystadleuaeth.
Bydd Mam, Tad-cu a fy chwaer yn dod i fy nghefnogi. Hoffwn i ennill y gystadleuaeth achos dw i wedi gweithio'n galed. Ond dw i’n cymryd rhan achos dwi'n mwynhau cystadlu.
Yn y dyfodol, hoffwn i nofio yn y Gemau Olympaidd. Ond yn gyntaf, dw i am godi’n gynnar i nofio eto fory. Nos da!
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count6 of 12

- count7 of 12

- count8 of 12

- count9 of 12
