Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Diwylliant a thraddodiadau Cymru’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Welsh culture and traditions’.
Dw i'n caru Cymru! Mae llawer o bethau gwych am fod yn Gymraeg! Dw i wrth fy modd yn mynd i Eisteddfod yr Urdd. Rydyn ni'n dawnsio, llefaru, actio a dw i'n hoffi cystadlu gyda'r côr a gwneud llawer o bethau hwyl eraill. Gallet ti fwyta bwyd blasus fel crempogau, pitsa a byrgyrs. Gallet ti siopa, mynd i gig neu fynd i bentref Mr Urdd. Gallet ti hyd yn oed gwrdd â Mr Urdd! Wwwhww!
Dw i'n dwlu ar y Fari Lwyd. Mae hi’n hen draddodiad yng Nghymru. Mae pobol yn addurno penglog ceffyl. Maen nhw'n mynd o gwmpas tai pobl ac yn canu. Mae'n anghyffredin ond mae'n wych!
Rydyn ni'n hoffi dathlu Diwali yn ein tref ni. Rydyn ni'n mwynhau gyda'n gilydd. Rydyn ni'n cael bwyd blasus ac mae llawer o oleuadau hudol ym mhob man. Gŵyl grefyddol ydy Diwali, ond mae croeso i bawb ei dathlu.
Mae llawer o arwyr o Gymru gyda fi. Dyma Dafydd Williams. Mae e'n dod o Ganada ond mae ei dad yn dod o Gymru. Roedd e'n ofodwr gyda NASA. Mae e wedi cerdded yn y gofod dair gwaith!
Dw i wrth fy modd gyda stori Betsi Cadwaladr. Roedd hi’n nyrs. Roedd hi'n dod o Lanycil ger Y Bala. Roedd hi'n gweithio ar longau mawr, ac mewn rhyfel ofnadwy. Roedd hi'n hoffi teithio ac roedd hi'n hoffi actio hefyd.
Mae llawer o bethau cŵl yn digwydd yng Nghymru, a llawer o bobol gwych yn byw yma. Pwy ydy dy arwr di o Gymru?
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count9 of 12

- count10 of 12

- count11 of 12

- count12 of 12
