Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Iechyd a lles’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Health and well-being’.
Hwre! Dw i'n mynd am dro! Dw i wrth fy modd yn mynd am dro. Weithiau, dw i'n cerdded o gwmpas y dref ac weithiau, dw i'n cerdded i fyny mynyddoedd. Ydw, dw i wrth fy modd yn mynd am dro! Dw i'n hoffi'r awyr iach a dw i'n hoffi symud fy nghorff.
Mae cadw'n heini yn bwysig. Mae fy ffrind Femi wrth ei bodd yn rhedeg. Mae hi'n rhedeg ar y trac, ond yn rhedeg o gwmpas y dref hefyd.
Mae fy ffrind arall, Gronw, yn hoffi sglefrfyrddio. Mae e'n gallu gwneud triciau anhygoel, fel ollies - waw, da iawn Gronw! Mae e'n sglefrfyrddio pan mae hi'n braf!
Mae llawer o bethau yn gwneud i fi deimlo'n dda. Dw i'n teimlo'n dda pan dw i'n cerdded, chwarae pêl-droed, neu pan dw i'n gwneud ioga.
Weithiau, bydda i'n eistedd o flaen sgrin yn rhy hir. Pan mae hynny'n digwydd, dw i'n mynd allan i gael awyr iach i symud fy nghorff. Mae'n ffordd mor hawdd o deimlo'n dda!
Mae iechyd meddwl yn bwysig. Dw i'n hapus tu allan, yn enwedig yn y parc neu ar lan y môr. Dw i'n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth a dawnsio. Weithiau, dw i'n hoffi eistedd ar fy ngwely a darllen llyfr da.
Mae Mam wedi dangos i mi sut i anadlu'n ddwfn pan dw i'n teimlo'n grac neu'n drist. Dw i'n anadlu i mewn am bump… un, dau, tri, pedwar, pump… ac allan am bump… un, dau, tri, pedwar, pump. Yna, dw i'n teimlo'n well. Sut wyt ti'n cadw'n iach?
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count8 of 12

- count9 of 12

- count10 of 12

- count11 of 12
