Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Yr amgylchedd a chynaliadwyedd’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘The environment and sustainability’.
Shwmae? Dw i'n meddwl fod gofalu am yr amgylchedd yn bwysig.
Dyma Mr Edwards. Fe ydy fy athro yn yr ysgol. Rydyn ni'n dysgu am yr amgylchedd. Mae e'n dweud, "Mae'r Ddaear yn ffrind i ni! Byddwch yn garedig iddo!" Y Ddaear yw ein cartref ni. Mae angen gofalu am bob rhan o'r Ddaear - yr awyr, y môr, a’r tir. Rydyn ni'n edrych ar ôl anifeiliaid a phlanhigion hefyd.
Weithiau, rydyn ni'n mynd i gasglu sbwriel. Rydyn ni'n defnyddio ffon arbennig, ac rydyn ni'n gwisgo menyg. Mae llawer o sbwriel ym mhob man! Mae casglu sbwriel yn helpu'r amgylchedd.
Rydyn ni'n ailgylchu yn yr ardd yn yr ysgol. Rydyn ni'n hongian hen CDs i gadw'r adar i ffwrdd. Rydyn ni'n plannu llysiau mewn hen deiars mawr, ac rydyn ni'n ailddefnyddio hen foteli llaeth i roi dŵr i'r planhigion.
Mae ailgylchu'n helpu anifeiliaid ar y tir a'r môr, ac adar hefyd. Rydyn ni'n ceisio cadw bob man yn lân ac yn saff ar gyfer holl greaduriaid y byd.
Mae llawer o ffyrdd i helpu'r amgylchedd. Dydyn ni ddim yn defnyddio'r car bob dydd. Dw i'n mynd i'r ysgol ar fy meic, ac mae Mam yn cerdded i'r gwaith achos mae'n dda i'r amgylchedd, ac mae'n dda i ni hefyd!
Dw i'n meddwl am yr amgylchedd pan fydda i yn y tŷ. Dw i'n diffodd y golau wrth adael yr ystafell, a dw i'n diffodd fy nghyfrifiadur ar ôl gorffen chwarae gemau. Rydyn ni'n gwisgo siwmper pan fydd hi'n oer. Dydyn ni ddim yn rhoi'r gwres ymlaen bob amser.
Mae Mr Edwards yn iawn. Mae'r Ddaear yn ffrind i ni. Dw i eisiau edrych ar ei ôl e. Sut wyt ti'n edrych ar ôl y Ddaear?
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count10 of 12

- count11 of 12

- count12 of 12

- count1 of 12
