Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Natur a’r awyr agored’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Nature and the outdoors’.
Dw i wrth fy modd tu allan! Dw i wrth fy modd gyda'r haul, a dw i wrth fy modd gyda'r glaw hefyd! Mae bod tu allan yn hwyl!
Yn y parc, mae llawer o goed mawr tal. Dw i'n gallu dringo rhai ond dw i ddim yn gallu dringo'r rhai tal. Fy hoff goeden ydy coeden gastan. Dw i'n hoffi'r dail, ac weithiau dw i'n casglu'r concyrs i chwarae gemau efo fy ffrindiau.
Waw! Edrycha! Gwiwer goch! Oooo, mae hi mor hardd. Dw i wrth fy modd gyda'r clustiau bach fflwfflyd! A dyma gwningen fach yn dod i ddweud helo. Yn fy marn i, mae cwningod yn hyfryd. Maen nhw mor feddal, ac mae clustiau mor hir gyda nhw! Hoffwn i gael cwningen fel anifail anwes. Ond mae Mam yn dweud na.
Mae blodau yn tyfu yn y glaswellt. Dw i'n hoffi'r rhai yma. Maen nhw'n agor yn y bore ac yn cau yn y nos. O! Edrycha! Mae'r chwilen yn sgleinio. Mae chwilen fach mor bert!
Mae llawer o adar o gwmpas. Dw i'n hoffi colomennod. Maen nhw'n gwneud sŵn rhyfedd - cŵ, cŵ. Dw i'n hoffi brain hefyd, achos maen nhw'n swnio fel eu bod nhw'n chwerthin!
Edrycha be sydd yma! Malwen! Dydy Mam ddim yn hoffi malwod, achos maen nhw'n bwyta'r blodau yn yr ardd. Dw i'n meddwl bod malwod yn ddiddorol. Maen nhw'n gallu mynd i'w cragen pryd bynnag maen nhw eisiau.
Mae creaduriaid bach yn byw mewn llefydd annisgwyl. Mae llwynog yn byw yn agos at ein tŷ ni. Mae'n dod allan yn y nos i chwilio am fwyd. Dw i wedi gweld y llwynog ar ganol y stryd.
Mae pethau yn tyfu ym mhob man, ac mae anifeiliaid bach yn byw o'n cwmpas ni i gyd. Dw i wrth fy modd gyda nhw!
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count7 of 12

- count8 of 12

- count9 of 12

- count10 of 12
