Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Dyheadau i’r dyfodol’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Future aspirations’.
Helo! Elis ydw i. Heddiw dw i’n meddwl am y dyfodol. Dw i’n meddwl am y pethau dw i eisiau eu gwneud a’r pethau dw i ddim eisiau eu gwneud. Tyrd i freuddwydio gyda fi!
Dw i’n hoffi tynnu lluniau achos mae'n ymlaciol. Os dw i’n tynnu llun bob dydd gallwn i fod yn artist. Gallwn i ddangos fy lluniau mewn oriel.
Dw i’n hoffi darllen ac ysgrifennu achos mae’n ddiddorol. Gallwn i fod yn awdur. Os dw i’n ysgrifennu stori bob dydd, gallwn i ysgrifennu llyfr. Byddai plant dros Gymru yn darllen fy llyfr i!
Mae Jac yn hoffi gwyddoniaeth achos mae’n bwysig. Mae o'n hoffi dysgu am y sêr a'r planedau. Gallai Jac fod yn wyddonydd, ac mae Jac eisiau mynd i’r gofod!
Mae gen i chwaer o'r enw Nansi. Mae hi’n berson caredig iawn. Yn fy marn i, gallai Nansi fod yn feddyg. Dydy Nansi ddim eisiau bod yn feddyg achos dydy hi ddim yn hoffi gwaed! Mae hi eisiau bod yn heddwas.
Mae Dad yn adeiladwr. Mae o’n caru ei swydd achos mae’n heriol. Dw i'n meddwl bod Dad yn gweithio’n galed.
Mae Mam yn athrawes. Mae hi’n helpu plant i ddysgu. Dw i’n meddwl bod Mam yn athrawes wych! Dw i ddim yn hoffi chwarae pêl-droed. Dw i ddim eisiau bod yn bêl-droediwr achos mae'n gystadleuol.
Dw i'n hoffi coginio. Gallwn i fod yn gogydd. Gallwn i goginio bwyd blasus i bawb.
Beth hoffet ti fod yn y dyfodol? Mae’n bwysig gweithio'n galed, credu yn dy hun, a breuddwydio'n fawr! Yna, galli di wneud unrhyw beth!
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count12 of 12

- count1 of 12

- count2 of 12

- count3 of 12
