Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Ein cymuned’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Our community’.
Croeso i'n cymuned! Dw i'n caru ein cymuned ni. Tyrd am dro gyda fi! Dyma'r ysgol. Dw i'n hoffi dod yma - fel arfer! Mae'r athrawon yn garedig, ac mae ffrindiau arbennig gyda fi yn yr ysgol. Dyna nhw!
Dyma fy athro, Mr Edwards. Mae o'n hoffi mathemateg a darllen, ac mae o'n hoffi pêl-droed hefyd. Mae pawb yn caru Mr Edwards!
Rydyn ni'n dod i'r parc fel arfer ar ôl ysgol. Mae o'n hwyl! Mae caffi yn y parc. Dw i'n hoffi cael hufen iâ yno! Mae llawer o goed a blodau yn y parc. Dw i'n hoffi'r blodau melyn. Mae pobol yn mynd i'r parc i gael picnic neu i chwarae gyda phêl!
Ymlaen â ni i'r stryd. Dyma'r siop gornel. Mae llawer o ddewis yn y siop, fel bwyd, diod, losin, creision. Dw i'n dod yma i brynu comic bob dydd Sadwrn. Dw i wrth fy modd gyda chomics! Mae'n anodd dewis un!
Dyma Hywel. Mae o'n gweithio yn y siop gornel. Mae o'n gwisgo sbectol ac yn gwenu ar bawb. Mae'n gwybod popeth am gomics, fel fi! Byddwn i'n hoffi dod i'r siop gornel bob dydd.
Dyma'r feddygfa, a dyma lle mae pobol yn dod pan maen nhw'n sâl neu wedi cael anaf. Es i i'r feddygfa ar ôl cwympo oddi ar fy meic! Ces i rwymyn a phigiad. Roedd y meddyg yn garedig iawn. Mae fy nghoes i'n llawer gwell rwan!
Un o fy hoff lefydd ydy'r llyfrgell. Mae llawer o lyfrau yma. Mae cyfrifiaduron yn y llyfrgell hefyd. Fel arfer, dw i'n dod i'r llyfrgell bob nos Fercher gyda Mam.
Dw i'n caru ein cymuned ni! Beth sydd yn dy gymuned di?
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count4 of 12

- count5 of 12

- count6 of 12

- count7 of 12
