Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Lliwiau’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Colours’.
Helo! Elis ydw i. Dw i wedi tynnu llun. Dw i'n hoffi lluniau lliwgar. Tyrd i ddewis lliwiau gyda fi!
Dyma’r haul. Bydda i’n lliwio’r haul yn felyn. Mae’r lliw melyn yn gwneud i fi deimlo’n hapus. Mae’r haul yn disgleirio yn yr awyr.
Dyma’r awyr. Bydda i’n lliwio’r awyr yn las. Mae'r awyr yn las pan mae hi'n braf. Ac mae'r awyr yn llwyd pan mae hi'n bwrw glaw.
Dyma’r tŷ. Dw i’n byw mewn tŷ coch gyda Mam a fy mrawd bach. Coch ydy fy hoff liw achos mae’n llachar. Dyma’r to.
Beth am yr ardd? Bydda i’n lliwio’r glaswellt yn wyrdd. Y lliw perffaith! Mae llawer o blanhigion yn wyrdd. Bydda i’n lliwio dail y coed yn wyrdd hefyd.
Bydda i’n lliwio boncyff y goeden yn frown. Mae brigau’r coed yn frown hefyd. Mae blodau yn yr ardd. Dw i eisiau blodau amryliw. Bydda i’n lliwio’r blodau yn borffor ac yn oren. Dw i'n meddwl bod blodau porffor yn hardd. Pa liw blodau wyt ti'n eu hoffi?
Dyma’r llwybr. Bydda i’n lliwio’r llwybr yn wyn. Mae’r llwybr yn mynd at y drws.
Mae un peth ar goll. Dw i’n meddwl bod angen enfys. Mae saith lliw mewn enfys. Wyt ti’n cofio lliwiau’r enfys? Coch, oren, melyn, gwyrdd, glas, porffor a fioled.
Gwych! Dw i'n caru lluniau lliwgar. Hoffwn i fyw yn hapus yn y tŷ yma gyda Mam a fy mrawd bach. Hwyl fawr!
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count1 of 12

- count2 of 12

- count3 of 12

- count4 of 12
