Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Teulu a ffrindiau’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Family and friends’.
Dyma fy nheulu i! Dere i weld. Dyma Dad. Mae e'n gweithio mewn siop fawr sy'n gwerthu dodrefn. Mae e wrth ei fodd yn gwrando ar gerddoriaeth glasurol. Mae e'n canu hefyd!
A dyma Mam. Mae hi'n hoffi dawnsio! Mae hi'n dawnsio'n wirion, ond mae'n gwneud i fi chwerthin. Mae Mam yn hoffi breuddwydio am fynd ar wyliau. Mae hi'n hoffi tywydd poeth a bwyd blasus. Dw i'n hoffi mynd ar wyliau hefyd.
Dyma Dora, fy llysfam. Mae hi'n hoffi codi pwysau. Mae hi’n gwneud siocled poeth blasus iawn!
Mae gen i un brawd o'r enw Caio. Mae e'n mwynhau tynnu lluniau a chwarae'r gitâr. Mae e'n dal iawn, fel Dad. Mae ganddo wallt cyrliog gwyllt. A dweud y gwir, mae e'n edrych fel seren roc pan mae e'n canu gyda'r gitâr. Dw i'n hoffi gwrando ar Caio yn canu.
Mae gen i chwaer fach o'r enw Delyth. Mae hi'n dwlu ar chwarae pêl-droed. Mae hi'n cefnogi Cymru. Mae hi'n gwybod enwau'r chwaraewyr i gyd. Mae hi'n well na fi am sgorio goliau, ond shh! - paid â dweud wrth neb!
Dyma Nain. Ei henw hi ydy Una ond dw i'n ei galw hi'n Nain bob amser. Dw i'n dwlu ar Nain achos mae hi'n dweud jôcs. Mae hi'n prynu llyfrau i mi hefyd! Dw i'n lwcus iawn.
Dw i'n caru fy ffrindiau hefyd! Mae Femi a Gronw yn yr un dosbarth â fi, ac rydyn ni'n cael llawer o hwyl gyda'n gilydd. Rydyn ni'n chwarae yn yr ysgol, ac weithiau yn mynd i'r parc ar ôl ysgol.
Mae'r bobol yma yn gwneud i mi wenu! Pwy sy'n gwneud i ti wenu?
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count3 of 12

- count4 of 12

- count5 of 12

- count6 of 12
