Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol ar ‘Gyfarchion Cymraeg’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary on ‘Welsh Greetings’.
ELIS: Helo! Sut wyt ti? Dw i'n hoffi siarad Cymraeg gyda fy ffrindiau. Shwmae? Su'mae? Wyt ti'n dweud “Shwmae” neu “Su'mae”? Mae gan bobol ffyrdd gwahanol o ddweud helo. Mae rhai pobol yn dweud, “iawn?” ac mae rhai pobol yn dweud “oreit?” Dw i'n gofyn i Caio, “sut wyt ti, Caio?” Mae o'n dweud, “iawn diolch!” Wedyn, dw i'n gofyn i Delyth, “shwmae Delyth?” Mae hi'n dweud, “dw i'n fendigedig! Dw i'n wych”. Heddiw, dw i'n mynd i weld fy ffrind, Femi. Ond dw i eisiau bwyd! Dw i'n mynd i'r caffi.
ELIS: Bore da!
GWEITHIWR: Helo. Sut wyt ti?
ELIS: Dw i'n iawn diolch. Ga i siocled poeth os gwelwch yn dda?
GWEITHIWR: Wrth gwrs! Hoffet ti gael rhywbeth arall?
ELIS: Ga i ddarn o gacen lemwn hefyd os gwelwch yn dda?
GWEITHIWR: Dyma ti!
ELIS: Diolch! Faint mae'n gostio?
GWEITHIWR: Pum punt os gweli di'n dda.
ELIS: Dyma chi! Diolch yn fawr. Dw i'n mynd i dŷ fy ffrind, Femi rwan. Dyma fam Femi. Bore da!
MAM FEMI: Sut wyt ti?
ELIS: Dw i'n iawn diolch. Ydy Femi adref?
MAM FEMI: Ydy! FEMI! Dere i mewn.
ELIS: Sut ydych chi?
MAM FEMI: Dw i'n weddol, ond mae fy nhroed yn brifo!
ELIS: O na! Brysiwch wella!
MAM FEMI: Diolch i ti!
ELIS: Helo Femi! Wyt ti eisiau mynd i’r parc?
FEMI: Mhm!
Mae llawer o bobol yma! Waw! Mae sglefrfyrddio mor cŵl! Dw i eisiau dysgu sut i sglefrfyrddio. Dyma Gronw! Helo mêt! Rydyn ni'n chwarae yn y parc ac yn siarad. Rydyn ni'n siarad am bopeth! Dw i wrth fy modd gyda fy ffrindiau.
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count2 of 12

- count3 of 12

- count4 of 12

- count5 of 12
