Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Cerddoriaeth’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘Music’.
Helo! Cai ydw i. Heddiw, dw i'n mynd i'r ysgol. Dw i'n ymarfer gyda'r gerddorfa. Mae cyngerdd gyda ni cyn bo hir. Rydyn ni’n ymarfer bob dydd Iau. Mae pump disgybl yn y gerddorfa. Wyt ti eisiau dod i’r ymarfer?
Edrycha! Dyna Ffion. Mae Ffion yn chwarae'r ffliwt. Mae’r ffliwt yn ddistaw.
Dyna Huw. Mae Huw yn chwarae'r trwmped. Mae'r trwmped yn gwneud sŵn uchel iawn.
Dyna Lisa. Mae Lisa yn chwarae'r drymiau. Mae'r drymiau yn cadw rhythm.
Dyna Kenny. Mae Kenny yn chwarae'r ffidil. Mae e'n gallu chwarae'r ffidil yn gyflym ac yn araf. Mae’r ffidil yn swnio’n hyfryd iawn.
Yn y gornel, mae’r delyn. Fi sy’n canu’r delyn. Telyn ydy offeryn cenedlaethol Cymru. Rydyn ni’n chwarae cân o’r enw Calon Lân. Mae Calon Lân yn gân draddodiadol. Pan fydd y ffliwt, trwmped, ffidil, y delyn a'r drymiau yn chwarae gyda'i gilydd, mae’r gân yn swnio’n wych.
Rydyn ni’n hoffi cerddoriaeth wahanol. Dw i’n hoffi cerddoriaeth roc. Mae Ffion yn hoffi caneuon pop. Mae Huw yn hoffi jazz. Mae Lisa yn mwynhau canu gwlad. Mae Kenny yn caru cerddoriaeth glasurol. Beth ydy dy hoff gerddoriaeth di?
Rydyn ni’n edrych ymlaen at y gyngerdd. Bydda i'n nerfus iawn ond dw i'n mwynhau perfformio gyda fy ffrindiau. Mae cerddoriaeth yn gwneud i fi deimlo’n hapus. Mae cerddoriaeth yn gwneud i’r gynulleidfa deimlo'n hapus. Mae cerddoriaeth yn dod â ni at ein gilydd. Mae cerddoriaeth yn wych!
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count11 of 12

- count12 of 12

- count1 of 12

- count2 of 12
