Cyflwyniad cyflym i ymadroddion pwysig a geirfa sylfaenol Cymraeg ar y pwnc ‘Bywyd ysgol’.
A quick introduction to key phrases and basic vocabulary in Welsh on the topic of ‘School life’.
Helo! Croeso i fy ysgol i! Mae fy ysgol i yn ne Cymru. Ble mae dy ysgol di?
Dw i’n mynd i’r ysgol erbyn naw o’r gloch. Dw i’n cyfarfod fy ffrindiau ac yn dweud “bore da!” wrth yr athro.
Mae’r diwrnod yn dechrau gyda phawb yn darllen. Dw i’n hoffi darllen achos dw i’n dysgu pethau newydd. Wyt ti’n hoffi darllen?
Nesaf, mae hi’n amser egwyl. Mae fy ffrindiau allan ar yr iard. Dw i'n hoffi chwarae gyda fy ffrindiau yn ystod amser egwyl. Dw i’n hoffi bod tu allan. Mae chwarae yn rhoi egni i fi.
Nesaf, mae gwers fathemateg gyda fi. Dw i’n meddwl bod mathemateg yn ddiflas. Dw i ddim yn hoffi rhifau.
Fy hoff amser o’r dydd ydy amser cinio! Dw i’n mynd i’r ffreutur ac yn eistedd gyda fy ffrindiau. Mae pecyn bwyd gyda fi heddiw. Yn y pecyn bwyd mae brechdan gaws, afal, iogwrt a dŵr.
Nesaf, mae gwers gelf gyda fi. Dw i’n defnyddio brwshys a phaent i wneud lluniau lliwgar. Dw i’n caru paentio achos dw i’n gallu bod yn greadigol. Mae paentio yn hwyl! Dw i wedi paentio llun o geffyl mewn cae. Wyt ti’n hoffi paentio?
Mae hi’n dri o’r gloch. Amser tacluso! Dw i’n helpu i roi’r paent a’r brwshys yn y cwpwrdd. Dw i ddim yn hoffi tacluso ond dw i’n teimlo’n hapus pan mae’r dosbarth yn daclus.
Ar ôl ysgol, dw i'n mynd i'r clwb chwaraeon gyda fy ffrind, Ceri. Mae hi’n hoffi chwaraeon ond dydy hi ddim yn hoffi gymnasteg. Heddiw, dw i’n dewis chwarae pêl-rwyd. Dw i’n defnyddio mathemateg i rannu pawb yn ddau dîm.
Mae’r ysgol wedi gorffen! Mae Dad yn gofyn os dw i wedi mwynhau heddiw. Do! Dw i’n caru mynd i’r ysgol. Ond nawr mae hi’n amser mynd adref. Hwyl fawr!
More on Speaking
Find out more by working through a topic
- count5 of 12

- count6 of 12

- count7 of 12

- count8 of 12
