Pam fod mwy o garcharorion yng Nghymru na gweddill Gorllewin Ewrop?

Berwyn Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carchar mwyaf Cymru - Y Berwyn, ger Wrecsam

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae mwy o garcharorion yng Nghymru fesul canran o'r boblogaeth nag unrhyw wlad arall yng Ngorllewin Ewrop, yn ôl ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru.

Mae ymchwil pellach gan y ganolfan yn dangos bod 37% o'r holl farwolaethau ymhlith pobl sydd wedi gadael carchardai yng Nghymru y llynedd yn gysylltiedig â chyffuriau. Mae'r nifer hwn yn uwch na'r gyfran a gofnodwyd ar draws Cymru a Lloegr yn gyffredinol (21%).

Mae llawer o ystadegau eraill hefyd yn awgrymu bod anghyfartaledd hirdymor rhwng Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn y maes cyfiawnder.

Mae'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru'n cael ei rhedeg yn bennaf gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy'n rhan o Lywodraeth y DU.

Mae cais wedi ei wneud am ymateb i'r Weinyddiaeth a Llywodraeth Cymru.

Yr ystadegau'n 'synnu pobl'

Awdur yr adroddiad diweddaraf yw Dr Robert Jones, sy'n arbenigwr ar y system gyfiawnder yng Nghymru.

"Mae'n anodd iawn cael ffigyrau hollol gywir ar gyfer Cymry sydd yn y carchar am fod popeth wedi ei fframio fel 'Cymru a Lloegr'," meddai Dr Jones.

"Mae Cymru'n rhyw 5% o'r boblogaeth ond yn hanesyddol dydy pobl ddim yn meddwl am y dimensiwn Cymreig yn yr ystyr yma.

"Felly, be' 'dan ni'n wneud yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ers tua degawd yw rhoi'r ffigyrau mewn cyd-destun Cymreig.

"Dwi'n meddwl bo'r hyn sydd 'di dod i'r amlwg ers i ni dynnu ystadegau Cymru allan o ystadegau 'Cymru a Lloegr' wedi synnu pobl."

Rob JonesFfynhonnell y llun, Robert Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru

Mae ceisio asesu ffigyrau carcharorion Cymru'n gallu bod yn heriol, esbonia Dr Jones:

"Fel arfer, os bydden ni eisiau cymharu'r raddfa carcharu rhwng dwy wlad fel Yr Eidal a'r Almaen, bydden ni'n edrych ar faint o bobl sydd yn y carchar yn Yr Eidal o'i gymharu efo'r boblogaeth i bob 100,000 o bobl, a gwneud yr un peth gyda'r Almaen, a chymharu'r ddwy wlad.

"Ond mae'n fwy cymhleth yma, gan fod tua 1,700 o bobl o Loegr yn y carchar yng Nghymru, ac mae tua 28% o garcharorion o Gymru wedi eu carcharu yn Lloegr.

"Felly, dydy'r ystadegau ddim yn dweud rhywbeth am eich gwlad, ond mae'n datgelu mwy ar sut mae ein carchardai'n cael eu defnyddio.

"Os bydda rhywun yn cael ei garcharu yn Lerpwl neu Manceinion, ond efo cyfeiriad Cymreig cyn mynd i'r carchar, bydda'r person yna'n ymddangos yn ystadegau carcharorion Cymru.

"Am flynyddoedd doedd Y Weinyddiaeth Gyfiawnder ddim yn hoff o'r system yma, ond bellach maent wedi derbyn mai dyma'r ffordd fwyaf addas o ddadansoddi'r ffigyrau."

Carchar y BerwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tu fewn un o gelloedd Carchar Y Berwyn

Nid rhywbeth newydd yw'r darganfyddiad bod nifer uwch o garcharorion yng Nghymru.

"O ddefnyddio'r mesuriad yma i ddadansoddi'r niferoedd yn y carchar, mae gan Gymru niferoedd uwch yn y carchar bob blwyddyn ers 2013, pan ddechreuon ni gyda'r mesuriad yma.

"Cymru a Lloegr sydd â'r gyfradd uchaf o garcharorion yng Ngorllewin Ewrop, ond wedyn pan chi'n rhannu'r ddau, Cymru yw'r man efo'r nifer uchaf o garcharorion yng Ngorllewin Ewrop.

"Fe wnaethon ni gyhoeddi hyn gyntaf yn 2019, ac fe gafodd dipyn o ymateb. Ond beth sy'n ddiddorol yw bod neb wedi ateb y cwestiwn... pam? Pam fod gan Gymru y label cywilyddus yma?

"Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi bod yn gyndyn i ateb hwn yn y gorffennol, ond bellach mae 'na ateb di dod, pan ddywedodd Yr Arglwydd [James] Timpson 'dydyn ni ddim yn gwybod pam', sef yr ateb gorau i ni gael hyd yma."

CarcharFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad newydd hefyd yn dweud bod mwy nag un rhan o dair (39%) o'r holl ddedfrydau o garchar i fenywod yng Nghymru yn 2025 am droseddau 'lladrata o siopau'

"Os edrychwch ar ystadegau cyfraddau troseddu gan yr heddlu, mae'n rheolaidd yn is yng Nghymru na be ydyn nhw yn Lloegr," medd Dr Jones.

"Un theori yw bod barnwyr a dedfrydu yn gyffredinol yn fwy llym yng Nghymru, a'r syniad bod dedfryd o garcharu'n uwch yma. Os edrychwch ar y dedfrydu yn y llysoedd yng Nghymru a Lloegr, mae'n eitha' tebyg rhwng y ddwy wlad, neu hyd yn oed ychydig yn uwch yn Lloegr.

"Ond pan chi wedyn yn edrych ar yr ystadegau am bob 100,000 sy'n cael eu herlyn, cael eu ffeindio'n euog a'u dedfrydu, mae'n rheolaidd yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr - mae fel bod mwy o bob cael eu gwthio drwy'r system gyfiawnder yng Nghymru o'r dechrau.

"Felly, y prif gwestiwn yw nid am y raddfa garcharu, ond pam fod gymaint o bobl o Gymru'n mynd drwy'r system i ddechrau?"

Pam fod cyfraddau Cymru'n uwch?

Dywed Dr Jones bod cydberthynas amlwg rhwng gwariant lles mewn gwlad, a chyfradd o'r boblogaeth sydd yn y carchar.

"Mae'r dystiolaeth ryngwladol yn dweud y tlotaf yw'r wlad, yr uchaf yw'r cyfraddau carcharu, gan edrych ar ddinasoedd tlawd yn yr UDA a llefydd fel Ffindir a Norwy ar ochr arall y sbectrwm.

"Roedd 'na waith ymchwil enwog yn 2006 yn dweud bod gwledydd sy'n gwario'r mwyaf o arian ar les â graddfa is o garcharu, a'r ffordd arall rownd.

"Mae tlodi hefyd yn gwneud i chi ofyn cwestiynau am ba mor dda oedd cyfreithwyr y bobl 'ma? Oes 'na hanes o ddefnyddio cyffuriau? Ydyn nhw'n ddigartref? Oedden nhw wedi eu diarddel o'r ysgol? Dyma'r cwestiynau sydd angen eu gofyn, achos dydi 'dydyn ni ddim yn gwybod' ddim digon da.

"Fe wnaethon ni astudiaeth yn 2022 ar ogledd Lloegr, yn edrych ar y cynlluniau i agor trydydd carchar yn Chorley.

'Nathon ni gymharu'r ffigyrau carcharu yn y 10 ardal dlotaf yn Lloegr â'r 10 ardal gyfoethocaf. Roedd y ffigyrau'n dangos bod y raddfa o garcharu yn y llefydd tlotaf 10 gwaith yn uwch na'r llefydd mwyaf cyfoethog."

Carchar CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carchar Caerdydd, a agorodd yn 1832

"Tlodi ac amddifadedd yw'r prif ffactor", dywed Dr Jones. "Dyna beth mae'r dystiolaeth gan awdurdodau rownd y byd yn dweud wrthym ni, a pam byddai Cymru'n wahanol o gwbl?

"Ond mae'n bwysig nodi bod hyn ddim yn golygu fod pobl dlawd yn fwy tebygol o dorri'r gyfraith.

"Mae'r system gyfiawnder fel petai'n ffynnu ar dlodi ac yn delio efo'r tlawd a'r rhai sydd heb ddim yn eu bywydau, ac mae hyn yn mynd nôl flynyddoedd lawer."

Yn ogystal â'r ffigyrau yn ymwneud â marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, mae'r adroddiad newydd hefyd yn nodi mai pobl o grwpiau ethnig du yng Nghymru oedd y grŵp ethnig a oedd wedi'i or-gynrychioli fwyaf ym mhoblogaeth carchardai yn 2025.

Roedd 58 o bobl ddu o Gymru yn y carchar am bob 10,000 o'r boblogaeth, o'i gymharu â 15 o bobl gwyn am bob 10,000 o'r boblogaeth.

Cyfiawnder a'r cyfansoddiad

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw yn gyson am ddatganoli'r System Gyfiawnder yng Nghymru i Fae Caerdydd, ond mae Dr Jones yn dweud y dylai gwleidyddion weithio i ddeall y system bresennol, a'r diffygion yng Nghymru. Dywedodd Dr Jones:

"Mae'r problemau sy'n dod i'r amlwg yn yr adroddiad yma unwaith eto'n codi cwestiynau pwysig am y setliad datganoli presennol, a'r cwestiwn a oes gan Lywodraeth Cymru'r pwerau a'r dulliau angenrheidiol i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol llawer o'r heriau sy'n wynebu Cymru."

"Er bod dadleuon ynghylch cyfeiriad cyfansoddiadol y dyfodol ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru yn angenrheidiol ac yn bwysig, mae'r dadansoddiad hefyd yn tanlinellu bod rhaid i ymdrechion ystyrlon i sicrhau newid ddechrau gyda dealltwriaeth glir o sut mae'r system bresennol yn gweithredu a chanlyniadau'r system honno.

"Dim ond trwy wynebu'r realiti a amlygir drwy gydol yr adroddiad hwn y gall gwleidyddion a llunwyr polisi obeithio goresgyn yr heriau niferus sy'n wynebu cymunedau ledled Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.