Gobaith dyn o ddawnsio eto ar ôl i feddygon ddweud na fyddai'n goroesi strôc

Daniel ParsonageFfynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Daniel gael llawdriniaeth frys ar ôl y strôc ym mis Gorffennaf 2025

GanManon Wiliam
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a wnaeth ddioddef strôc ddifrifol wrth baratoi ar gyfer perfformiad carnifal haf yn gobeithio dawnsio eto, yn dilyn misoedd o driniaeth ddwys.

Roedd y gwaedu ar ymennydd Daniel Parsonage, sy'n 29 oed, mor ddifrifol nes i feddygon ddweud wrth ei deulu am ffarwelio ag ef, ar ôl iddo gael dwy lawdriniaeth frys a threulio pedair wythnos mewn coma meddygol.

Er bod meddygon wedi rhybuddio na fyddai'n gallu cerdded na siarad eto, mae Daniel wedi gwella'n sylweddol ar ôl misoedd o ffisiotherapi a therapi lleferydd.

Ei nod yw gallu perfformio eto cyn ei ben-blwydd yn 30 oed ym mis Mawrth, ar ôl iddo ddysgu cerdded pellteroedd byr gyda chymorth, a siarad mewn brawddegau eto.

Daniel Parsonage a'i fam ClaireFfynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel a'i fam Claire yn meddwl bod ei iechyd a'i ffitrwydd yn dda

Roedd Daniel, sydd wedi arbenigo mewn dawnsio stryd ers yn 11 oed, wedi disgrifio'i iechyd dros y blynyddoedd yn "hollol iawn".

Roedd yn chwarae pêl-droed bob wythnos ac yn hyfforddi ar gyfer Marathon Caer cyn y strôc, ac roedd yn ystyried ei iechyd a'i ffitrwydd yn dda.

Dywedodd ei fam, Claire nad oedd ganddo "unrhyw symptomau" amlwg cyn y strôc, er ei bod wedi gwirio ei bwysedd gwaed gyda dyfais gartref bythefnos ynghynt.

Ond dechreuodd Daniel deimlo'n "rhyfedd" cyn iddo gael strôc wrth baratoi ar gyfer perfformiad yng ngharnifal haf Penarlâg, Sir y Fflint ar 12 Gorffennaf 2025.

Roedd ei deulu'n meddwl y gallai fod wedi llewygu, ond pan gyrhaeddodd ei rieni, roedd Daniel ar y llawr ac un ochr o'i gorff yn llipa.

Cafodd ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Iarlles Caer, lle dangosodd profion fod ganddo waedu ar yr ymennydd oherwydd pwysedd gwaed uchel.

Dywedodd Claire fod y teulu wedi cael gwybod nad oedd "dim mwy" y gallai'r meddygon ei wneud, a'u bod wedi cael eu hannog i alw'r teulu i ffarwelio.

"Roedd yn ofnadwy," meddai.

Daniel ParsonageFfynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Deffrodd Daniel o goma meddygol yng nghanol mis Awst, ar ôl wythnosau o driniaeth

Cafodd Daniel ei drosglwyddo i Ganolfan Walton yn Lerpwl, lle penderfynodd llawfeddyg niwrolegol "roi cynnig" ar achub ei fywyd.

Cafodd lawdriniaeth frys ar 14 Gorffennaf i atal y gwaedu, ac yna un arall ddeuddydd yn ddiweddarach i dynnu rhan fawr o'i benglog er mwyn rhoi mwy o le i'w ymennydd chwyddo'n ddiogel.

Treuliodd bedair wythnos mewn coma meddygol, ac roedd meddygon yn ofni na fyddai rhan fawr o'i ymennydd yn gweithio eto.

Dywedodd Claire mai'r unig beth oedd yn bwysig i'r teulu oedd "iddo ddeffro", ac roedd hi'n "hapus" pan welodd ei lygaid yn agor am tua 10 munud yn Awst 2025.

Dywedodd Daniel, a oedd wedi gweithio fel arweinydd tîm mewn archfarchnad, ei fod yn cofio deffro a meddwl, "ble ydw i?", ac nad oedd yn gallu siarad.

Parhaodd yr anawsterau gyda'i leferydd am naw wythnos, nes i'w ffrind gorau ymweld â'r ysbyty a'i glywed yn dweud "Hi Ben".

Daniel ParsonageFfynhonnell y llun, Press Association
Disgrifiad o’r llun,

Gwisgodd Daniel helmed i amddiffyn ei ben ar ôl llawdriniaeth i dynnu rhan fawr o'i benglog

Mae Daniel wedi cael therapi lleferydd i wella ei ynganiad, yn ogystal â ffisiotherapi dros gyfnod o wyth mis.

O fethu â chodi ei hun yn y gwely ar un cyfnod, mae bellach yn defnyddio cadair olwyn a cherdded pellteroedd byr gyda chymorth.

Mae hefyd yn gallu siarad mewn brawddegau eto, ac mae'n gallu cyflawni mwy o dasgau dyddiol drosto'i hun.

Tyfodd ei hyder hefyd pan nad oedd yn rhaid iddo wisgo helmed mwyach ar ôl iddo gael llawdriniaeth ym mis Chwefror i gael plât artiffisial ar ei benglog.

Dywedodd ei fam: "O gael gwybod na fyddai Dan yn goroesi, ac yna na fyddai'n gallu cerdded na siarad, i lle mae o rŵan, mae'n anhygoel."

'Gall strôc ddigwydd i bobl iau'

Mae Daniel yn gobeithio gallu dawnsio eto cyn ei ben-blwydd yn 30 oed ym mis Mawrth, ac mae'n dweud ei fod am "barhau i frwydro" i wella.

"Gobeithio y bydda i'n gweld fersiwn fwy a gwell ohonof fy hun nag erioed o'r blaen," meddai.

Dywedodd Claire ei bod am rannu eu profiad i "godi ymwybyddiaeth y gall strôc ddigwydd i bobl iau, ac nad yw gobaith o reidrwydd yn cael ei golli hyd yn oed pan fo'r rhagolygon yn wael".

"Mae Daniel yn dangos hynny oherwydd ei fod yn dal i frwydro yr holl ffordd drwodd.

"Mae'n dal i wthio ei hun a dwi'n falch iawn ohono."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig