Her 100 Cymru: 'Mae'r tatŵ yn fy atgoffa 'mod i wedi bod drwy artaith'

'Stamp parhaol' Tyly ac Andrew
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr a gwraig o Ros-y-gwaliau ger Y Bala wedi cael "stamp parhaol" i ddathlu cerdded 100 copa uchaf Cymru, sef tatŵ bob un ar eu coesau.
Dros y dair blynedd diwethaf mae Tyly ac Andrew Roberts wedi bod yn teithio ledled Cymru er mwyn dringo yng nghorneli uchaf Cymru - o sgrialu i gopaon Eryri, i gerdded ar dirwedd garw'r Rhinogydd, i ddiwrnodau hir ar Y Mynyddoedd Duon.
"Mae'r tatŵ yn fy atgoffa 'mod i wedi bod drwy artaith," chwarddodd Tyly wrth drafod "ei stamp newydd" sydd wedi ei ddylunio gan ei gŵr.
Ers i wasg Y Lolfa gyhoeddi cyfrol Cant Cymru gan Dafydd Andrews yn 1998 a chyfrol ddiweddarach gan Dewi Prysor, mae cerdded 100 copa uchaf Cymru wedi ysbrydoli nifer i gyflawni'r gamp, sy'n gofyn am lefel uchel o ffitrwydd, dealltwriaeth o'r mynyddoedd, ac yn bennaf oll - ymroddiad.
Yn ôl Lefi Gruffudd, cyfarwyddwr gwasg Y Lolfa, "mae'n dda gweld yr her yn cael ail wynt yn y blynyddoedd diwethaf, a'r her o gyflawni'r cant yn denu pobl o bob oed gyda lluniau weithiau i'w gweld ar y cyfryngau cymdeithasol."

Ar ben cael taŵ yr un, mae Tyly ac Andrew wedi derbyn tystysgrif gan Y Lolfa am eu bod nawr yn rhan o'r Clwb 100 Cymru.
Fe apeliodd yr her at Tyly sydd wastad wedi mwynhau bod yn yr awyr agored.
"Ro'n i'n tomboi yn blentyn bach ac yn dringo coed. Os nad ydw i'n mynd allan am ychydig yna dwi'n teimlo fel anifail mewn cawell," eglurodd.
Ond daeth yr ysbrydoliaeth i gael tatŵ ar ddiwedd her 100 Cymru gan ei thatŵ cyntaf a gafodd ar ôl cyflawni her gorfforol arall:
"Dwi ddim yn berson tatŵs mawr ond pan o'n i yn 50 nes i gael un achos o'n i newydd orffan fy 10fed marathon yn Lerpwl.

Tyly ac Andrew ar Garnedd Gwenllian
"O'n i'n teimlo bod gwneud 10 marathon yn haeddu cael rhyw fath o stamp felly ges i datŵ bach efo merch yn rhedeg ar waelod fy nghoes - mae fy ffrindiau i gyd yn gofyn os taw fi ydi hi.
"Pan oedd Andrew a finnau wrthi'n gwneud 100 Cymru un diwrnod - wnes i ddweud - 'Mi fydd yn rhaid i ni gael tatŵ arall i ddathlu achos mae hwn yn ddipyn o gamp hefyd', felly dyna wnaethon ni."
Ysbrydoliaeth gan yr awdur Dewi Prysor
Ond beth ysbrydolodd Tyly ac Andrew i gyflawni her 100 Cymru yn y lle cyntaf?
"Oedd gen i lyfr Cant Cymru gan Dafydd Andrews yn barod ond wnes i brynu llyfr 100 Cymru - Y Mynyddoedd a Fi gan Dewi Prysor sydd efo lluniau bendigedig ac sy'n ysbrydoli rhywun i fod isio mynd.
"Wnes i edrych arno fo a meddwl y basan ni'n gallu 'neud hyn.
"Oeddan ni wedi gwneud rhai o'r mynyddoedd yn barod. Nath Andrew, sy'n gyn-athro technoleg, 'neud ffram bren a rhoi map o Gymru ynddo fo.

Mae'r map yn gyflawn erbyn hyn gyda 100 o binnau
"Ar ôl dechrau rhoi pinnau yn lleoliad pob mynydd ar y map roeddan ni eisoes wedi ei ddringo, wnaethon ni sylwi ein bod ni'n barod ar rif 30-rwbath.
"Roedd hynny'n hwb i gario 'mlaen."
'Roedd y Cyrniau Nod ychydig yn ddi-nod'
Er i Tyly ac Andrew fod â nifer go dda o gopaon "dan y belt yn barod" dros y blynyddoedd diwethaf, roedd angen llawer o waith cynllunio a pharatoi cyn mynd ati o ddifrif i gyrraedd y 100fed copa.
Eglurodd Tyly: "Mae o'n benwythnos gyfan o fynd lawr i Fynyddoedd Du Gwent er mwyn cerdded mynydd ac aros yno, a 'falla wedyn bod y tywydd cywir ddim yn ffafirol.
"Byddai'n anghyfrifol mynd mewn tywydd ac amodau sydd ddim yn addas felly ambell waith roedd rhaid ail-drefnu a mynd penwythnos arall."

Tyly ar lethrau islaw'r Wyddfa
Os ydy Tyly'n cofio'n iawn, mae hi'n credu mai'r Arenig Fawr oedd y copa cyntaf allan o'r rhestr o 100 iddi ddringo.
Meddai, "Bydde ni wedi mynd i fyny Arenig Fawr sy'n lleol i ni yn fan hyn efo'r plant yn fach, hwnna ac Aran Benllyn sydd rownd y gornel."
Mae Arenig Fawr yn fynydd sy'n cyrraedd uchder o 854m o lefel y môr, gyda'r Wyddfa'n dod i'r brig ar y rhestr fel y copa uchaf (1085m), a Chyrniau Nod (667m) y copa isaf.

Andrew ar gopa Tryfan yn Eryri
Oes gan Tyly hoff a chas fynydd allan o'r 100?
"Wnes i fwynhau Crib Nantlle yn arw - ti'n dringo sawl copa ar y grib ac maen nhw mor amrywiol.
"Mae yna ddarnau lle ti'n defnyddio dy ddwylo a dro arall ti'n cerdded mewn darn reit agored. Mae'n cynnig 'chydig bach o bob dim a golygfeydd da. Wnes i wir fwynhau.
"Mynydd wnes i ddim licio? Yr un ro'n i'n weld yn bach o ddim byd oedd Cyrniau Nod yn Y Berwyn sef y 100fed un ar y rhestr.
"O'n i weld o bach yn ddim byd, o'n i jest yn teimlo mai cyrniau di-nod oedd o.
"Mae hynny bach yn gas ond dwi'n cyfiawnhau dweud hynny gan mai'r Cyrniau Nod ydi'r agosaf i le dwi'n byw," dywedodd â'i thafod yn ei boch.
Dod i adnabod Cymru o'r newydd
Yn ôl Tyly mae dringo mynyddoedd uchaf Cymru wedi ei galluogi i adnabod ei gwlad a'i thirwedd o'r newydd.
"Faswn i heb fynd i'r ardaloedd ble mae Mynyddoedd Du Gwent heblaw ein bod ni wedi mynd i gerdded mynydd.
"Mae wedi bod yn brofiad bendigedig - roedd dod i 'nabod ardaloedd dieithr yn bonus bach ar ben dringo mynydd."

Ar eu canfed copa - Crib Goch
Un diwrnod hir o haf 'nôl ym mis Gorffennaf fe aeth Tyly, Andrew a ffrind iddyn nhw i ddringo Crib Goch - eu copa olaf o'r 100.
Mae Crib Goch, sydd gerllaw'r Wyddfa, yn gofyn am brofiad mynydda a phen da am uchder i ddringo'r grib sy'n cael ei disgrifio fel "llafn cyllel".
'Mynydda'n ddiogel ydi'r peth pwysicaf'
Ac mae Tyly am bwysleisio pa mor bwysig yw bod o ddifrif ac yn ddiogel wrth gyflawni her fel 100 Cymru.
Eglurodd : "Oedd dringo Crib Goch wedi mynd yn fwgan gynnon ni achos oeddan ni bach yn bryderus ohono.
"Aethon ni gyda ffrind profiadol oedd yn hyderus ac yn adnabod y grib, dechrau'n gynnar er mwyn cael y gorau o'r tywydd a'r golygfeydd.
"Cyn bob diwrnod ar y mynydd mae angen y cit cywir, mapiau a sgiliau darllen map a sicrhau eich bod chi digon ffit.
"Os ydi rywbeth ddim yn teimlo yn iawn yna troi yn ôl.
"Wnaethon ni droi yn ôl ambell waith achos mae'r mynyddoedd dal am fod yno mewn blynyddoedd i ddod.
"Ei wneud yn ddiogel a chael y mwynhad gorau ydi'r peth pwysicaf."

Copa Fan y Bîg yn Y Bannau Brycheiniog
Er ambell i ddadl "am ba wal i'w dilyn wrth ddarllen y map," mae Tyly yn falch iawn ei bod wedi cyflawni'r her gyda'i gŵr Andrew, ac maen nhw'n barod wedi bod yn trafod eu her nesaf.
"Rydan ni'n ystyried gwneud y Marilyns, sef mynyddoedd sydd o leiaf 150m o uchder," meddai Tilly.

Tyly ar Garnedd Ugain gyda'r Wyddfa yn y cefndir
Ond efallai mai ei chyngor melysaf wrth fynd ati i ddringo mynyddoedd ydy beth i roi yn y bocs bwyd.
"Ewch â digon o jelly babies hefo chi. Maen nhw yn handi iawn i roi'r egni ychwanegol pan fo angen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddorded:
- Cyhoeddwyd10 Hydref

- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
