Reform UK i ddweud wrth amgueddfeydd sut i arddangos hanes meddai eu maniffesto

Mae Reform yn honni bod "rhai mannau cyhoeddus yn cyflwyno safbwyntiau rhaniadol o hanes"
- Cyhoeddwyd
Byddai plaid Reform yn dweud wrth amgueddfeydd sut i arddangos hanes petai nhw'n ennill etholiad y Senedd, gan alw arnyn nhw i gyflwyno digwyddiadau mewn trefn gronolegol ac "mewn cyd-destun".
Yn eu maniffesto mae'r blaid yn addo sicrhau bod sefydliadau sy'n derbyn arian cyhoeddus "yn adlewyrchu holl ehangder hanes a diwylliant Cymru yn hytrach na naratif cul neu waharddol".
Mae'r addewidion yn poeni'r corff sy'n cynrychioli amgueddfeydd y DU, sy'n dweud ei fod yn hanfodol bod curaduron yn rhydd o ymyrraeth y llywodraeth.
Dywedodd undeb mai gweithwyr amgueddfeydd ddylai benderfynu sut i gyflwyno casgliadau.
'Hanfodol bod penderfyniadau yn annibynnol o ddylanwad y llywodraeth'
Mae Reform yn honni bod "rhai mannau cyhoeddus yn cyflwyno safbwyntiau rhaniadol o hanes", gan gyfeirio ar ymgais Amgueddfa Cymru yn 2021 i "ddatrefedigaethu" (decolonise) ei gasgliadau.
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru eu bod yn bodoli "i helpu pobl i ddeall hanes Cymru yn ei holl gyfoeth a chymhlethdod".
Ond mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, wedi gwadu y byddai amgueddfeydd yn colli cyllid yn sgil yr addewidion hyn.
Mae llywodraeth Cymru yn ariannu rhwydwaith o leoliadau trwy Amgueddfa Cymru, gan gynnwys amgueddfa lofaol Big Pit ym Mlaenafon, yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu corff treftadaeth Cadw sy'n gyfrifol am warchod nifer o gestyll Cymru.
Mae maniffesto Reform yn dweud y byddai'r blaid yn "adfer hanes sy'n seiliedig ar dystiolaeth".
Gan ychwanegu y "bydd amgueddfeydd, cyrff treftadaeth a safleoedd dehongli sy'n derbyn arian cyhoeddus yn cyflwyno hanes yn gronolegol ac yn ei gyd-destun, gydag eglurder ynghylch achos a chanlyniad".
Mae'r blaid yn dweud y bydden nhw'n "cefnogi moderneiddio" a "chynaliadwyedd ariannol" ar gyfer amgueddfeydd, ond bod angen sicrhau bod "sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus yn adlewyrchu holl ehangder hanes a diwylliant Cymru yn hytrach na naratif cul neu waharddol".

Mae arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, wedi gwadu y byddai amgueddfeydd yn colli cyllid yn sgil yr addewid
Dywedodd Cymdeithas yr Amgueddfeydd: "Rydym yn poeni bod maniffesto Reform UK ar gyfer Cymru yn awgrymu, pe bai nhw'n cael eu hethol, y bydden nhw'n ceisio rheoli sut mae amgueddfeydd yn dehongli hanes.
"Mae'n hanfodol bod penderfyniadau curaduron yn annibynnol o ddylanwad y llywodraeth.
"Yn lle hynny, dylai amgueddfeydd annog cyfranogiad cyhoeddus gweithredol wrth wneud penderfyniadau, gan gynnwys trwy gyd-gynhyrchu arddangosfeydd gyda chymunedau".
Dywedodd Prospect, sy'n cynrychioli cannoedd o weithwyr ar draws Cadw ac Amgueddfa Cymru, bod eu haelodau "yn arbenigwyr yn eu maes ac mai nhw ddylai benderfynu sut mae sefydliadau diwylliannol yn cyflwyno eu casgliadau".
"Dyw hi ddim yn glir beth mae gwleidyddion Reform yn credu y byddai'r math yma o newid yn ei gyflawni, ond i blaid sy'n honni ei bod o blaid llai o ymyrraeth gan y wladwriaeth mae'n ddryslyd eu bod yn meddwl y dylai gwleidyddion benderfynu ar gynnwys a chyflwyniad arddangosfa."

Mae llywodraeth Cymru yn ariannu rhwydwaith o leoliadau trwy Amgueddfa Cymru, gan gynnwys amgueddfa lofaol Big Pit ym Mlaenafon
Yn ôl llefarydd ar ran Reform: "Yn rhy aml mae rhai mannau cyhoeddus yn cyflwyno safbwyntiau ar hanes sydd wedi'u cynllunio i wneud i bobl deimlo'n euog.
"Er enghraifft, roedd 'strategaeth datrefedigaethu' cyn-bennaeth Amgueddfeydd Cymru yn un o flaenoriaethau pwysicaf y sefydliad.
"Rydym yn credu bod yna lawer yn hanes Prydain a Chymru i fod yn falch ohono - dylid dathlu'r pethau hynny."
Nod yr amgueddfa wrth "datrefedigaethu" casgliadau'r amgueddfeydd oedd "wynebu hanes" a "herio anghyfiawnderau'r presennol".
"Mae casgliadau amgueddfeydd yn aml wedi'u gwreiddio mewn trefedigaethu a hiliaeth - ac nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad," meddai'r sefydliad ar y pryd."
Dywedodd bod hyn yn golygu "rhoi gwybodaeth glir i gynulleidfaoedd ar hanes gwrthrychau a sut gawsant eu casglu."
Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru: "Mae Amgueddfa Cymru yn bodoli i helpu pobl i ddeall hanes Cymru yn ei holl gyfoeth a chymhlethdod.
"Ein rôl ni yw cyflwyno ystod o safbwyntiau a phrofiadau i ganiatáu i bobl greu gwell dealltwriaeth o'r gorffennol, ei effaith ar y presennol, a sut y gall ein helpu i lunio ein dyfodol gyda'n gilydd.
"Ar draws ein saith amgueddfa, rydym yn darparu mannau dibynadwy, annibynnol yng nghanol cymunedau - llefydd sy'n perthyn i bawb, lle gall dysgu, myfyrio a balchder eistedd ochr yn ochr ag archwiliad gonest o hanes ym mhob ffurf."
Dywedodd arweinydd Reform, Dan Thomas bod "rhai amgueddfeydd yn cymryd safbwynt niche iawn o'n gorffennol sy'n siarad am gaethwasiaeth, heb roi'r darlun cyfan o'r ffaith mai'r ymerodraeth Brydeinig oedd y cyntaf i ddiddymu caethwasiaeth, a bod gwledydd eraill wedi'i wneud ers miloedd o flynyddoedd".
"Felly os ydyn nhw eisiau siarad am y naratif o amgylch ffeithiau hanesyddol, rwy'n credu y dylen nhw gael y naratif llawn".
Pan ofynnwyd a fyddai'n rhoi'r gorau i ariannu amgueddfeydd yn sgil hynny, dywedodd "dwi ddim yn meddwl y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt yna".
"Byddwn ni'n cael sgwrs gyda nhw ac yn gweld."
Mae'r AS Plaid Cymru Heledd Fychan wedi cyhuddo Reform o fod eisiau "rheoli sut mae amgueddfeydd yn gweithredu yng Nghymru a sut maen nhw'n cyflwyno hanes ein cenedl".
"Mae hyn yn syniad dychrynllyd," meddai.
"Ymreolaeth ein hamgueddfeydd cenedlaethol sy'n eu gwneud yn sefydliadau mor ddibynadwy ac ni ddylai unrhyw blaid wleidyddol allu eu synhwyro na'u bygwth yn y ffordd hon."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 awr yn ôl

- Cyhoeddwyd31 Mawrth

- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
